Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddNewyddion

Eich llwybr at hyder gyrfaol – Bossing It

24 Mawrth 2022
Your path to career confidence – Bossing It

Yn y farchnad swyddi gystadleuol, a’r byd cyflym sydd ohoni heddiw, mae hunan-gred yn bwysicach nag erioed. Yn aml, gall deimlo fel petai gan gydweithwyr, cyfoedion a’r rhai yr ydym yn eu hedmygu yn ein diwydiannau, beth wmbreth ohono, ond ydi hynny’n wir mewn gwirionedd? Fe fuom yn siarad â rhai o’n cynfyfyrwyr llwyddiannus am hyder o ran gyrfa, a gofynnwyd iddyn nhw rannu eu hawgrymiadau a’u triciau ar gyfer teimlo’n ddi-ofn a bod yn feiddgar yn eich gyrfa.

Shreya Sharma (LLB 2021)Shreya Sharma (LLB 2021)

Mae Shreya Sharma (LLB 2021) yn entrepreneur ifanc uchelgeisiol ac mae hi wedi cyflwyno ar TEDx. Mae hi wedi llwyddo i adeiladu platfform cydgasglu cyfreithiol, Rest The Case, sy’n ymdrechu i wneud gwybodaeth a gwasanaethau cyfreithiol yn fwy hygyrch i bobl yn India. Dyma ddau awgrym yr oedd Shreya yn dymuno iddi wybod ar ddechrau ei gyrfa:

Credu ynoch chi eich hun
Gall ymddangos yn ystrydebol, ond mae’n graidd dechrau unrhyw beth newydd. Y rhan bwysicaf o’r broses o greu rhywbeth newydd yw credu y gallwch chi wneud hyn. Dechreuais fy nghwmni yn ifanc. Roeddwn yn cwestiynu a oeddwn mewn gwirionedd yn gallu gwneud y pethau yr oeddwn am eu gwneud. Dyna pryd y des i ar draws y ffenomen ‘Syndrom y Ffugiwr.’ Gall hyn effeithio ar unrhyw un a gall wneud i chi amau eich hun neu deimlo nad ydych yn haeddu eich llwyddiant. Dwi bellach wedi sylweddoli mai’r unig ffordd i oresgyn hyn yw credu yn eich ymdrechion, ystyried eich cyflawniadau, ac edrych ymlaen bob amser. Nid yw credu yn eich hun yn rhywbeth rydych chi’n ei gyflawni dros nos, mae’n broses y mae angen i chi weithio arni bob dydd. Wrth i chi wynebu heriau newydd, hunan-gred fydd yn eich cadw i fynd.

Bod ag angerdd a phwrpas

  • Angerdd – Mae fy nhad-cu bob amser wedi dweud wrtha i, “gwna yr hyn rwyt yn ei garu, ac ni fydd yn rhaid i ti weithio un diwrnod yn dy fywyd” ac rwy’n dilyn yr egwyddor yma bob dydd. Rydw i wrth fy modd yn mynd i’r gwaith ac wrth fy modd yn gweithio oriau hir. Bydd angerdd yn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn eich atal rhag cyflawni eich nodau.
  • Pwrpas – Mae’n bwysig gwybod pam rydych chi’n gwneud rhywbeth a pham mae’r peth hwnnw’n bwysig i chi. Pan fydd gennych ddiben, mae’n eich gwthio i’r cyfeiriad cywir. Rydw i wedi ceisio meithrin y dull o osod nodau o fewn fy musnes, waeth pa mor fawr neu fach. Mae hyn wedi ei gwneud hi’n haws cyflawni fy nodau oherwydd mae gen i syniadau clir am yr hyn rydw i am ei gyflawni.

Anita Gohil-Thorp (LLB 1993)Anita Gohil-Thorp (LLB 1993)

Ar ôl ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth Anita Gohil-Thorp (LLB 1993) ymlaen i Brifysgol y Gyfraith, Guildford. Mae hi bellach yn hyfforddwr a mentor gyrfa ac amrywiaeth cyflogadwyedd ardystiedig. Mae’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol a llwyddiannus, yn eu cefnogi i ffynnu yn y gweithle. Dyma ei hawgrymiadau gorau i’w cadw mewn cof bob amser:

Dathlu eich cyflawniadau
Wrth ddechrau yn fy ngyrfa, hoffwn pe bawn wedi sylweddoli bod fy nghyflawniadau a sgiliau yn cyfrif cymaint â rhai unrhyw un arall. Mae’r farchnad swyddi mor gystadleuol, mae’n hawdd bod yn feirniadol iawn ohonoch chi’ch hun. Rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hyn y mae eraill yn ei wneud neu wedi’i gyflawni, ond nid ydym ni wedi’i gyflawni; fodd bynnag, trwy ymfalchïo yn ein cyflawniadau ein hunain, gallwn fod yn fwy hyderus wrth i ni ddechrau yn y byd gwaith.

Grym rhwydweithio
Yn gynnar yn fy ngyrfa, hoffwn pe bawn yn gwybod bod rhwydweithio yn golygu gwneud cysylltiadau â phobl o’r un anian, a bod â hunan-gred wrth i chi wneud hynny, yn gwneud y profiad yn fwy gwerth chweil. Pan fyddwn yn newid ein meddylfryd ac yn deall yr hyn y gall rhwydweithio ei gynnig i ni ac eraill, mae’n fwy hygyrch ac yn llai brawychus. Gall rhwydweithio fod yn frawychus i bobl ar bob lefel proffesiynol, ond gall fanteisio ar y cyfle i wneud ffrindiau neu bartneriaid gwaith newydd fod yn hwyl a gwella eich hunanhyder.

Megan Wesley (BA 2015)Megan Wesley (BA 2015)

Mae Megan Wesley (BA 2015) yn gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr yn Libratum, cwmni ‘lles yn y gweithle’ a sefydlodd gyda’i mam. Mae Megan yn rhannu ei geiriau doeth am fod yn hyderus o ran gyrfa.

Peidiwch â bod ofn newid llwybr gyrfa
Nid yw’n rhwydd derbyn ac addasu i newid, ond mae’n hollol rhesymol newid eich llwybr gyrfa os nad ydych chi’n hapus. Gall newid i yrfa newydd deimlo’n frawychus, ond mae’n gyfle i ddod o hyd i rywbeth yr ydych wrth eich bodd yn ei wneud. Mae’r person cyffredin ym Mhrydain yn treulio 84,365 o oriau yn gweithio yn ystod eu hoes, felly mae’n bwysig eich bod chi’n cael gafael ar yrfa sy’n gwneud i chi deimlo’n gyffrous a bodlon, hyd yn oed os yw hynny’n golygu ambell dro ar y ffordd.

Nid oes rhaid i chi dderbyn diwylliant gwael
Mae’n anodd ffynnu a theimlo’n hyderus mewn cwmni â diwylliant gwael. Pa bynnag ddiwydiant rydych chi’n gweithio ynddo, os nad yw’ch gwerthoedd craidd yn cyd-fynd â diwylliant y cwmni, gall greu amgylchedd gweithio gwenwynig. Os ydych mewn gweithle gwenwynig, gallwch adael a dod o hyd i weithle sy’n gefnogol ac yn fwy addas i chi. Mae yna lawer o weithleoedd gwych ar gael, sy’n gofalu am eu gweithwyr ac yn eu cefnogi, yn annog creadigrwydd a chyfathrebu agored, felly peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi dderbyn amgylcheddau gwaith gwael.

Anjana Nathwani (BSc 1983)Anjana Nathwani (BSc 1983)

Mae Anjana Nathwani (BSc 1983) yn Seicolegydd Busnes gyda phrofiad byd-eang dros 35 mlynedd. Mae hi wedi cael swyddi uwch-arweinyddiaeth, wedi bod yn ymgynghorydd ac wedi sefydlu ei busnes ei hun. Mae hi’n ‘ffynnwr’ canser ddwywaith, ac mae hi bellach yn gweithio gyda chleifion a goroeswyr. Mae hi hefyd yn athrawes ioga, yn ymarferydd Ayurveda ac yn hyfforddwr Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae hi’n blogio’n aml ac wedi cyd-ysgrifennu dau lyfr. A hithau’n fentor, mae Anjana yn rhannu’r hyn y byddai wedi bod yn fuddiol i’w wybod pan oedd hi’n fyfyriwr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n astudio graddau analwedigaethol:

Arbenigedd
Pan oeddwn i’n dechrau arni, byddwn wedi hoffi cael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau oedd ar gael i mi a sut i arbenigo ymhellach. Er bod gennyf ddiddordeb mewn Seicoleg Glinigol, teimlais nad oedd dulliau’r Gorllewin yn cyd-fynd â’m hegwyddorion i. Wrth gwrs, ers hynny mae rhaglenni wedi eu hadnewyddu ac maent yn fwy rhyngddiwylliannol. Mae’n bwysig ystyried eich opsiynau er mwyn teimlo’n hyderus a mwynhau’ch llwybr gyrfa.

Canfod y canolwyr cywir
Mewn un cyfweliad, roeddwn yn ffodus bod cyflogwr wedi rhannu rhan o eirda yn amlygu fy mod yn berson swil; ond roedden nhw’n meddwl mai’r gwrthwyneb oeddwn i. Yn yr un modd, pan oeddwn yn dechrau arni, gofynnais i ddarlithydd a oedd yn fy adnabod i fod yn ganolwr i mi. Mae’n hollbwysig nodi cysylltiadau sydd â pherthynas dda â chi, a all amlygu eich cryfderau gan fod llawer o’m darpar gyflogwyr wedi gofyn am eirdaon cyn y cyfweliad, ac roeddwn yn synnu na chefais wahoddiad i gyfweliadau cyn deall hyn.

Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’.