Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddDigwyddiadauDonate

#TeamCardiff i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian

14 Mawrth 2022
#TeamCardiff alumni runners

Ddiwedd mis Mawrth, bydd rhedwyr #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl i’r ras gael ei ohirio am 18 mis oherwydd y pandemig, mae’r tîm o 350 o staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a ffrindiau am geisio codi £70,000 ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ar gyfer ymchwil canser.

Bydd tua 70 o gynfyfyrwyr ledled y DU yn rhoi eu hesgidiau rhedeg ymlaen ddydd Sul 27 Mawrth i redeg 13.1 milltir, gan fynd heibio rhai o leoliadau mwyaf eiconig y ddinas.

Mae’r ffaith bod y ras yn cael ei chynnal ar Sul y Mamau yn arbennig o arwyddocaol i’r cynfyfyriwr Dr Martin Chorley (BSc 2005, PhD 2013).MartinChorley

“Pan gafodd fy mam ddiagnosis o ganser yr arennau nad oedd modd ei wella yn 2019, penderfynais redeg Hanner Marathon Caerdydd y flwyddyn honno yn rhan o #TeamCardiff er mwyn codi arian i gefnogi ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae rhedeg yn bwysig i fy lles personol a chynnal fy iechyd meddwl, ac roedd ymarfer ar gyfer y ras tra roedd mam yn sâl yn ffordd allweddol i mi ymdopi â’r sefyllfa. Roedd hefyd yn ffordd o geisio cael elfen gadarnhaol o sefyllfa drist dros ben.

“Ar ôl cyfnod eithaf byr o salwch, bu farw Mam ar ddiwrnod yr Hanner Marathon Caerdydd diwethaf yn 2019, rhywbeth nad oeddwn yn ymwybodol ohono nes i mi groesi’r llinell derfyn. Mae’r digwyddiad hwn yn bwysig i mi wrth gofio am fy mam, felly rwyf am barhau i redeg y ras er ei mwyn hi. Roeddwn yn hapus i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ym mis Mawrth gyda #TeamCardiff, ac roeddwn yn awyddus i geisio codi rhagor o arian ar gyfer ymchwil hanfodol a allai helpu eraill i osgoi’r galar sy’n dod yn sgîl colli rhywun annwyl.”

Cefnogwch Martin.

Sian McMae’r cynfyfyriwr Sian McCarthy (BA 2005, TAR 2006) hefyd wedi cael ei hysbrydoli gan ei mam i redeg, ac mae hi’n codi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Yn dilyn damwain taro a ffoi pan oedd yn 17 oed, dioddefodd mam Sian ddegawdau o boen cronig a llawfeddygaeth ddiangen i ddatrys yr hyn yr oedd niwrolawfeddyg yn y pen draw wedi ei ddiagnosio’n ddifrod i’r nerf craneuol a niwralgia trigeminol. Dywedodd Sian:

“Rwy’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd fel ffordd o gydnabod y gwaith arwrol y mae Prifysgol Caerdydd yn ei wneud a cheisio cyfrannu ato ym mha bynnag ffordd bosibl. Cefais fy magu gan fy mam a oedd wedi dioddef o anafiadau niwrolegol difrifol pan oeddwn i’n ifanc iawn. Achubodd yr ymchwil arloesol a wnaeth staff Prifysgol Caerdydd ei bywyd, a sicrhaodd nad oeddwn i am golli fy mhlentyndod. Mae’n fraint gallu ad-dalu hynny drwy redeg er anrhydedd i’r brifysgol ac i fy mam.”

Cefnogwch Sian.

Panos PittakasMae’r cynfyfyriwr Panos Pittakas (MEng 2021) yn rhedeg dros ymchwil canser Prifysgol Caerdydd wedi iddo golli ei nain i ganser ym mis Chwefror 2022.

“Dair wythnos yn ôl, collais fy nain ar ôl iddi frwydro yn erbyn canser am saith mlynedd. Byddaf yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i godi ymwybyddiaeth a chyfrannu at yr ymchwil y mae Prifysgol Caerdydd yn ei gwneud ym maes canser, yn ogystal â’r maes niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, er cof amdani hi. Mae’n hen bryd i ni ymdrechu’n galetach er mwyn atal rhagor o golledion.”

Cefnogwch Panos.

Dywedodd Greg Spencer, Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu & Phennaeth Codi Arian o adran Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr y Brifysgol:

“Mae’n anhygoel gweld y fath ymroddiad a dyfalbarhad gan ein cynfyfyrwyr, gyda nifer ohonynt wedi cofrestru ar gyfer y Hanner Marathon cyn y pandemig. Drwy ymgymryd â’r her hon, maent yn helpu i godi arian sy’n hanfodol ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn siŵr o drawsnewid bywydau er gwell. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at floeddio fy nghymeradwyaeth i bob un o redwyr #TeamCardiff ar ddiwrnod y ras, ac i ddathlu eu cyflawniadau rhagorol.”

Hanner Marathon Caerdydd Hydref 2022 neu ffyrdd eraill o godi arian

Os hoffech chi redeg yn Hanner Marathon Caerdydd gyda #TeamCardiff ar 2 Hydref 2022, gallwch chi fynegi eich diddordeb ymlaen llaw er mwyn sicrhau safle elusennol am ddim. Os hoffech chi ymgymryd â her arall neu godi arian mewn ffordd wahanol, cysylltwch â Steph Bird, Swyddog Codi Arian Cymunedol y Brifysgol drwy ebostio donate@caerdydd.ac.uk.