
Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus!
Dyma’r cogydd
Astudiodd Jack Stein (BSc 2004, MA 2006) Seicoleg a Hanes yr Henfyd, ond dilynodd ei angerdd (ac ôl troed ei dad, Rick Stein) i’r gegin, fel cyfarwyddwr a chogydd llwyddiannus. Ma wedi gweithio mewn bwytai ar draws y byd ac yn athro ar ei gwrs coginio ei hun. Ond doedd e ddim mor wych â hyn o ran coginio erioed…
“Fy atgofion i o goginio fel myfyriwr – wnes i ddim gwneud llawer, ond ces i fy ysbrydoli i fynd yn ôl i gegin broffesiynol ar ôl gadael. Ro’n i wir yn un o’r myfyrwyr hynny oedd yn cael ‘cebab neu ddau’r wythnos wedi’u golchi i lawr â chwrw’ – ac ro’n i wrth fy modd!”
Dewch i ni goginio…
Rhestr siopa
6–8 clun (thighs) cyw iâr, gyda’r croen arnyn nhw
1 llwy fwrdd o olew olewydd
Pinsiad mawr o bowdwr pum sbeis
400g o datws newydd
500g o ddail y gwanwyn (sbigoglys neu gêl)
25g o fenyn
Halen a phupur
Bydd arnoch angen
Hambwrdd pobi
Cynhwysydd
Sosban
Dull
Cam 1
Cynhesu’r ffwrn i 200˚C. Gorchuddio’r cluniau cyw iâr ag olew, rhywfaint o halen a phupur. Rhostio ar hambwrdd pobi am 25 munud nes byddan nhw’n frown. Eu tynnu allan a’u gadael am 20 munud.
Cam 2
Pan fydd y cig cyw iâr wedi oeri, ei dynnu oddi wrth ei gilydd â fforc, oddi ar yr asgwrn. Taenu’r cig â phowdr pum sbeis a’i roi o’r neilltu. Draenio’r braster sydd dros ben ond cadw sudd y cig. Gallwch ailddefnyddio’r esgyrn i wneud stoc.
Cam 3
Rhoi’r tatws, heb eu crafu, mewn 1 litr o ddŵr a halen; dod â’r dŵr i’r berw, yna eu mudferwi nes eu bod yn feddal. Eu draenio a’u rhoi o’r neilltu.
Cam 4
Torri dail y gwanwyn yn stribedi. Rhoi ychydig o ddŵr mewn sosban. Ychwanegu’r dail a rhoi’r clawr ar y sosban. Cadw’r clawr ar y sosban am 2–3 munud, gan ychwanegu rhagor o ddŵr os oes angen. Ychwanegu’r menyn a chymysgu’r dail ynddo.
Cam 5
Sleisio’r tatws a’u rhoi yn yr hambwrdd gyda sudd y cig a’r cig wedi’i rwygo. Eu rhoi’n ôl yn y popty am 5–6 munud. Gweini’r cyw iâr a’r tatws gyda dogn o ddail y gwanwyn. Taenu ychydig o bowdwr pum sbeis a halen drosto.
Dewisol
Mae croeso i chi ychwanegu saws poeth a mayo garlleg!
© Jack Stein’s World on a Plate
Cyhoeddwyd gyntaf gan Bloomsbury Publishing PLC, 2018
Yn ôl ein profwr o Undeb y Myfyrwyr, Hannah Doe (Gwyddorau Biofeddygol 2018-) Llywydd yr Undeb…
“Mae hon yn rysáit wych i’w gwneud i ffrindiau. Tra bydd yn coginio, gallwch fwrw ymlaen â rhywfaint o ddarllen neu astudio. Byddwch yn hael gyda’r halen a phupur a mwynhewch y ffaith nad oes llawer o olchi llestri ar y diwedd.”
Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!