
Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus!
Dyma’r cogydd
Mae Tomos Parry (BScEcon 2008), gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n berchen ar fwyty seren Michelin o’r enw Brat, a enwyd yn un o’r 100 o fwytai gorau yn y byd. Astudiodd Wleidyddiaeth a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n cofio ei gyfnod yn coginio prydau mawr i’r saith oedd yn rhannu tŷ ag ef (gyda bwyd o Lidl yn bennaf). On’d yw pethau wedi newid!
“Mae hwn yn bryd ro’n i’n arfer ei goginio i’r rhai oedd yn rhannu’r tyˆ pan o’n ni eisiau stêcs ond do’n ni ddim yn gallu fforddio’r toriadau drud! Ro’n i’n byw gyda saith o fechgyn a do’n ni ddim yn arbennig o iach, felly ro’n i’n hoffi gwneud y pryd yma o stêcs wedi’u grilio gyda digon o lysiau a mwstard sbeislyd.”
Dewch i ni goginio…
Rhestr siopa
300g o odre (skirt) cig eidion /toriad ystlys (flank cut) cig eidion
Halen a phupur
5 ewin garlleg (1 wedi’i gratio a 4 wedi’u sleisio’n denau)
130g o fwstard Dijon
1 llwy fwrdd o finegr sieri neu finegr gwin coch
1-2 llwy de o fêl
ó pinsiad o bupur cayenne
225ml o olew olewydd
1 bwnsh o shibwns/shalóts wedi’u sleisio’n denau
1 bag o bys wedi’u rhewi
1 bwnsh o asbaragws, wedi’u tocio, wedi’u torri’n ddarnau 3cm
Bydd arnoch angen
Powlen ganolig
Padell ffrio neu sgilet
Dull
Cam 1
Rhoi halen a phupur dros y stêcs i gyd Chwisgo 1 ewin garlleg wedi’i gratio, mwstard, finegr, mêl, pupur cayenne, 5 llwy fwrdd o olew, ac 1 llwy fwrdd o ddŵr mewn powlen ganolig, yna ychwanegu halen a phupur.
Cam 2
Cynhesu padell ffrio dros wres canolig uchel. Rhwbio pob stêc ag 1 llwy fwrdd o olew a’i goginio, gan droi bob 2 funud a gwneud yn siŵr bod lliw ar y braster, nes ei fod wedi’i goginio ond yn dal yn waedlyd. Symud y stêcs i blât am ychydig. Arllwys yr olew o’r badell ffrio.
Cam 3
Cynhesu’r olew sy’n weddill yn yr un badell ffrio dros wres isel. Ychwanegu 4 ewin garlleg wedi’u tafellu a’r rhan fwyaf o’r shibwns/shalóts a’u coginio, gan droi’n aml, nes eu bod wedi’u meddalu.
Cam 4
Ychwanegu’r pys a sblash o ddŵr a’u coginio nes bod y pys yn dyner. Ychwanegu’r asbaragws a rhoi sesnin o halen a phupur. Coginio am tua 3-4 munud, gan droi’n aml, nes bod yr asbaragws yn dyner. Tynnu’r llysiau o’r gwres.
Cam 5
Sleisio’r stêcs a’u taenu dros y llysiau yn y badell ffrio. Ysgeintio ychydig o saws mwstard dros y stêcs a rhoi’r shibwns/shalóts drostyn nhw.
Dewisol
Gallwch weini’r pryd hwn gydag unrhyw saws mwstard sy’n weddill, rhowch ychydig ar ochr y plât!
Yn ôl ein profwr o Undeb y Myfyrwyr, Sebastian Ripley (Ffisiotherapi 2018-) Dirprwy Lywydd Parc y Mynydd Bychan…
“Mae hwn yn bryd gwych i’w gael gyda’r rhai sy’n rhannu’r tyˆ, a gallwch roi sosban fawr yng nghanol y bwrdd a bwrw ati i fwyta. Mae’r dresin ar gyfer hwn yn flasus iawn.”
Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!