Skip to main content

Cyswllt CaerdyddRyseitiau Er Mwyn Llwyddo

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Mostaccioli a llysiau wedi’u pobi

7 Ionawr 2022
Low-fat baked mostaccioli

Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus!

Dyma’r cogydd

Bu Laura Graham (BA 2008) yn gweithio fel prif gogydd ar iotiau mawr preifat ac erbyn hyn hi yw cyfarwyddwr a phrif gogydd The Tidy Kitchen, cwmni arlwyo sy’n defnyddio bwyd lleol i wneud prydau maethlon. Astudiodd Laura Lenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd a bu’nbyw ar basta fel myfyriwr.

“Mae pasta yn ddefnyddiol ac yn rhad, ac yn arfer bod yn brif ran llawer o brydau bwyd yng Ngogledd Tal-y-bont. Mae’n wych i’w rannu, gallwch ddefnyddio bag o ddail salad neu ychwanegu bara garlleg i fwydo grwˆ p cyn noson allan neu i gael egni eto ar ôl gwneud chwaraeon.”

Dewch i ni goginio…

Rhestr siopa:

225g o basta penne (bydd pasta

cyflawn yn eich llenwi am ragor o

amser)

2 llwy fwrdd o olew olewydd

1 winwnsyn gwyn, wedi’i dorri’n fân

2 ewin o arlleg, wedi’u gwasgu

500g o friwgig eidion (500g o friwgig

Quorn i lysieuwyr)

2 tun o domatos wedi’u torri

1 llwy fwrdd o biwrî tomato

1 llwy de o bowdr tsili

1 llwy de o halen

Pupur

Caws Parma/cheddar wedi’i gratio

Bydd arnoch angen:

Sosban

Colandr neu ogr

Padell ffrio

Dysgl pobi

Dull:

Cam 1

Cynhesu’r ffwrn i 200˚C Coginio pasta mewn dŵr a halen nes ei fod yn feddal (gwirio manylion y pecyn i wneud yn siŵr). Ei ddraenio a’i adael i oeri.

Cam 2

Mewn padell ffrio boeth, brownio briwgig (neu Quorn) nes ei fod wedi digoni, ei roi mewn powlen ar y naill ochr, gan ddraenio a thaflu unrhyw fraster o’r briwgig.

Cam 3

Yn yr un badell ffrio, ychwanegu winwns/nionod dros wres isel am 10 munud nes eu bod yn feddal. Ychwanegu’r garlleg a’i goginio nes ei fod yn sawrus. Ychwanegu’r piwrî tomato a’i goginio am 30 eiliad.

Cam 4

Ychwanegu’r tomatos wedi’u torri, y fflawiau tsili a’r briwgig a’u coginio dros wres uwch am 15 munud i dynnu asidedd o’r tomatos a gadael i’r saws dewychu. Rhoi sesnin o halen a phupur.

Cam 5

Ychwanegu’r saws hwn at y pasta wedi’i goginio ac yna gwasgaru haen ar waelod y ddysgl pobi. Taenu caws Parma neu cheddar drosto. Pobi’r cyfan mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw nes ei fod yn euraidd, am tua 15 munud.

Dewisol:

Taflu ychydig o bys wedi’u rhewi, sbigoglys, neu gêl i mewn i wneud hwn yn bryd iach iawn. Ar gyfer opsiynau figan, defnyddio cawsiau tofu a figan.

Yn ôl ein profwr Kate Morgan (BA 2017, MA 2020) sy’n gynfyfyriwr…

“Dwi’n fawr o gogydd, a dwi’n hyfforddi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd (ewch #TeamCardiff!) felly mae angen prydau bwyd hawdd sy’n fy llenwi. Roedd hwn yn berffaith. Os oes bwyd dros ben, mae’n flasus o’i ail-gynhesu’r diwrnod wedyn.”