Skip to main content

DonateNewyddion

Gobaith newydd ar gyfer triniaeth canser: y dechneg lawfeddygol ar gyfer cemotherapi wedi’i dargedu 

30 Tachwedd 2021

Mae ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn amrywio o ran ei chyrhaeddiad. O ddarganfod bioleg y clefyd a deall ffyrdd o atal canser, i chwilio am driniaethau newydd a gwell. Nod ein gwaith yw achub a gwella bywydau. 

Nid ffrwyth un person dros nos yw ymchwil lwyddiannus sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae’n cael ei hysbarduno gan ymchwilwyr sy’n cydweithio ar draws sawl disgyblaeth ac arbenigedd, gan rannu gwybodaeth ac arbenigedd mewn rhaglenni a phrosiectau gwahanol, ac yn bwydo’n ôl yn barhaus i wella’r ffordd mae’r wyddoniaeth yn cael ei rhoi ar waith yn glinigol o ran yr hyn sy’n cael ei gynnig.  

Yma, mae Dr Sadie Jones (PhD 2016, MBBCh 2006) Uwch-ddarlithydd Clinigol a Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoleg Gynaecoleg yn rhannu gyda ni fanylion treial clinigol hynod ddiddorol i’w gynnal yng Nghaerdydd, gan weithio gyda’i chydweithwyr llawfeddygol a’r gwyddonwyr yn y labordy. Arbenigedd Sadie yw canser yr ofari, canser sydd â chyfraddau goroesi gwael gan nad yw cleifion fel arfer yn sylwi ar y symptomau tan nes ymlaen.  

Enw treial clinigol Sadie a’i chydweithwyr yw PIPAC (Cemotherapi Aerosol dan wasgedd yn y peritonewm) a defnyddirllawdriniaeth twll clo, techneg lawfeddygol sefydledig, i roi cemotherapi drwy chwistrell aerosol yn uniongyrchol i diwmorau cleifion â chanser eilaidd yn yr abdomen (y stumog, y coluddyn a’r ofari). Mae’r dull hwn yn taro’r tiwmor yn uniongyrchol â’r cyffur, gan ddefnyddio ei effaith i’r eithaf ac yn lleihau’r sgil-effeithiau tocsig sydd yn gysylltiedig yn aml â chemotherapi pan gaiff ei roi yn y gwaed drwy’r corff. Mae hyn yn gadarnhaol iawn i gleifion ac yn helpu i wella safon eu bywyd wrth iddyn nhw gael y driniaeth. 

Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr amlddisgyblaethol yn labordai Prifysgol Caerdydd, bydd y treial hefyd yn bwydo’n ôl i wella datblygiad cyffuriau ar gyfer y targed gorau posibl, y ffordd orau o gyflwyno’r cyffuriau a’r ymateb. Mae hyn yn troi’n adborth cadarnhaol parhaus i wella pob agwedd ar y driniaeth i gleifion a gobeithir y bydd yn arbed ac yn gwella bywydau llawer o bobl. 

Rhagor o wybodaeth drwy wylio sgwrs hynod o ddiddorol Sadie.  

Mae ein digwyddiadau Arddangos Ymchwil yn gyfle i glywed am yr ystod eang o waith sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd i achub, newid a chyfoethogi bywydau. Ail-wylio digwyddiadau eraill yn y gyfres yn y gorffennol.