Skip to main content

DonateNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng anhwylder deubegynol, seicosis a genedigaeth

29 Tachwedd 2021

Mae’r Athro Ian Jones (MSc 1997) yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus ac Athro Seiciatreg. Ef hefyd yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar anhwylder deubegynol a seicosis ôl-enedigol ymhlith menywod. Yma, mae’n egluro beth yw anhwylder deubegynol, sut mae’n effeithio ar unigolion a pham mae menywod yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl rhoi genedigaeth nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywyd.

Cyflwr iechyd meddwl difrifol yw anhwylder deubegynol. Mae’n effeithio ar rhwng 2 a 5% o’r boblogaeth ac yn achosi amrywiadau hwyl difrifol. Mae pobl ag anhwylder deubegynol (a gafodd ei alw’n ‘iselder manig’ yn flaenorol) yn gallu teimlo’n isel am gyfnod ond hefyd yn uchel am gyfnod, yr hyn sy’n cael ei alw weithiau’n ‘cyfnod manig’. Un o nodau ein hymchwil yw gwella ein dealltwriaeth o’r ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy’n arwain at anhwylder deubegynol. Mae hyn yn bwysig dros ben er mwyn i ni allu datblygu ffyrdd gwell o ragweld pwy y gallai’r cyflwr effeithio arno, ymyrryd a datblygu triniaethau gwell.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn gwneud hynny drwy ddefnyddio cliwiau genetig i geisio dod o hyd i’r atebion. Rydym wedi gwybod ers cryn amser y gall cyflyrau fel anhwylder deubegynol redeg mewn teuluoedd, ac rydym yn ceisio nodi’r amrywiadau unigol yng ngenynnau pobl a all gynyddu neu leihau’r risg honno. Os gallwn nodi’r rheini – ac mae’n debygol y bydd cannoedd, os nad miloedd, o amrywiadau unigol – bydd gennym rai syniadau go iawn o fioleg y cyflwr hwn.

Byw gydag anhwylder deubegynol

Rydym yn gwybod bod y bobl hynny â math mwy difrifol o’r cyflwr yn teimlo effaith y cyflwr ar eu bywyd yn fawr. Pan fyddant yn teimlo’n isel, ni allant godi o’r gwely. Mae’n bosibl na fyddant yn ymolchi am ddyddiau neu wythnosau bwygilydd, ac efallai y byddant hyd yn oed yn meddwl am roi pen ar y cwbl. Yn anffodus, mae hunanladdiad yn ganlyniad trasig i rai â’r cyflwr.

Rydym hefyd yn gweld cyfnodau manig. Ar yr adegau hyn, gall pobl fod yn llon a theimlo’n ewfforig, ond gallant hefyd fod yn bigog ac yn ddig. Mae’n bosibl na fydd angen llawer iawn o gwsg arnynt, a gallant fod yn orfywiog. Gall y cyfnodau hyn achosi problemau go iawn i bobl. Efallai y byddant yn gwario arian nad oes ganddynt ac yn mynd i ddyled. Efallai y byddant yn ffraeo ac yn cweryla â’u ffrindiau a’u teulu. Gall tua 70% o bobl ag anhwylder deubegynol hefyd fod â symptomau seicotig (e.e. rhith-weld pethau a chael camddychmygion).

Yr hyn sy’n glir yw ei bod yn cymryd amser hir iawn i bobl ag anhwylder deubegynol gael diagnosis. Rydym wedi gweithio gyda’r elusen Bipolar UK a darganfod y gall gymryd deng mlynedd neu fwy i bobl gael y diagnosis cywir a dechrau cael y driniaeth gywir. Nid yw’r cyflwr yn cael ei gydnabod ddigon nac yn cael ei drin ddigon. Yn sicr, nid oes digon o ymchwil yn cael ei wneud iddo.

Trafod iechyd meddwl

Peth hynod gadarnhaol yw bod pobl yn barod i drafod eu hiechyd meddwl a’r trafferthion y maent yn eu cael. Pan ffilmiodd Stephen Fry (Anrh 2010) ei raglen ddogfen ar anhwylder deubegynol, rhoddodd sylw mawr i ymchwil Prifysgol Caerdydd. Gwnaeth hyd yn oed gynnig ei DNA. Mae bellach yn un o destunau ein hymchwil. Arweiniodd hyn at gynnydd enfawr yn nifer y bobl a recriwtiwyd, ac roedd pobl yn cysylltu â ni i ddweud eu bod wedi clywed sôn am y gwaith pwysig hwn ym Mhrifysgol Caerdydd ac am helpu.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda nifer o operâu sebon, sydd wedi rhoi sylw i’r cyflwr hwn drwy eu cymeriadau. Mae cymeriad o’r enw Stacey yn EastEnders yn cael diagnosis o anhwylder deubegynol ac yn dioddef o seicosis ôl-enedigol ar ôl cael baban. Gwnaeth hyn godi ymwybyddiaeth llawer iawn o bobl o anhwylder deubegynol a seicosis ôl-enedigol. Roedd o gymorth mawr wrth geisio cyfleu gwybodaeth am y cyflyrau hyn ac, eto, o gymorth mawr wrth geisio recriwtio pobl ar gyfer gwaith ymchwil.

Anhwylder deubegynol ymhlith menywod beichiog

Ar ôl gorffen fy hyfforddiant clinigol, dechreuais fy swydd ymchwil gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd gofyn i mi deithio ledled y DU er mwyn cyfweld â phobl â phrofiad go iawn o anhwylder deubegynol. Yr hyn a wnaeth fy synnu oedd nifer y menywod a oedd wedi dioddef yn ddifrifol o’r cyflwr ar ôl rhoi genedigaeth. Yn aml, hwn oedd y tro cyntaf iddynt ddioddef o’r cyflwr neu’r tro cyntaf i’r cyflwr gael effaith o bwys arnynt.

Cadarnhaodd ein hymchwil fod cael baban yn ysgogi’r cyflwr yn gryf. Mae menywod 23 gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty yn y mis wedi iddynt gael baban nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywyd. Nid ydych yn gweld y mathau hynny o gymarebau ods, effaith ar y raddfa honno, ym maes seiciatreg yn aml iawn. Roeddem am weld yn union beth ar ôl rhoi genedigaeth sy’n arwain at y cynnydd enfawr hwn mewn risg o ddioddef yn ddifrifol o’r cyflwr.

Mae’n ddigon posibl bod y newid enfawr yn lefelau hormonau ar yr adeg hon yn chwarae rhan, ond gall pethau fel aflonyddwch cwsg, ffactorau imiwnolegol a genynnau chwarae rhan, hefyd. Rydym wedi cyhoeddi ymchwil sy’n awgrymu bod gallu menyw i ddioddef o aflonyddwch cwsg, ac aflonyddwch rhythm circadaidd oherwydd hynny, yn ein helpu i ragweld a all y fenyw honno ddioddef o seicosis ôl-enedigol yn y dyfodol. Mae ein hymchwil yn dangos bod ffactorau genetig yn allweddol, hefyd.

Mae cynnwys clinigwyr yn yr ymchwil hon o gymorth mawr, gan y gallwn ddefnyddio canfyddiadau’r ymchwil yn y clinig lle gallant wneud gwahaniaeth go iawn. Mae hefyd yn helpu i gryfhau’r cydweithredu rhwng y Brifysgol a’r GIG ac yn ein cysylltu â phobl â phrofiadau go iawn o’r cyflyrau rydym yn eu hastudio. Mae hyn yn bwysig ar gyfer recriwtio ond hefyd i’n helpu i ddeall y materion y mae angen i ni eu targedu er mwyn nodi’r cwestiynau ymchwil i fynd i’r afael â nhw.

Mae Prifysgol Caerdydd yn lle mor wych i wneud y gwaith hwn, oherwydd gallwch droi gwybodaeth newydd yn driniaethau newydd i bobl. Yn y pen draw, dyna sut y bydd y gwaith yn cael ei fesur yn y dyfodol. Sut mae’r ymchwil hon wedi gwneud gwahaniaeth i bobl sy’n dioddef o anhwylder deubegynol a seicosis ôl-enedigol? Ein nod yw ceisio meddwl am ffyrdd o helpu pobl â’r cyflyrau hyn i fyw bywydau gwell.

Darganfyddwch fwy am sut y gallwch gefnogi ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd.