Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

23 Tachwedd 2021
Wendy presenting the XX Factor show about women in STEM at the Science Museum, London

Wendy Sadler MBE (BSc 1994) yw Cyfarwyddwr sylfaenydd science made simple – menter gymdeithasol arobryn sy’n cynnig sioeau gwyddoniaeth i ysgolion a theuluoedd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr. Mae Wendy’n Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Trwy gydol y pandemig, mae hi wedi bod yn gweithio ar brosiect o’r enw ‘Ein Gofod Ein Dyfodol’ sy’n ceisio cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n dewis gyrfaoedd yn y diwydiant gofod.

‘Nôl ym 1991 dewisais Brifysgol Caerdydd gan ei fod yn un o’r ychydig leoedd yn y DU a oedd yn cynnig BSc ar y cyd mewn Ffiseg a Cherddoriaeth. Roedd pawb yn meddwl fy mod wedi dewis cwrs rhyfedd, ond roeddwn yn falch o ddod o hyd i ffordd o barhau i astudio fy nau hoff bwnc. Roedd gen i gynlluniau amwys i ddod yn beiriannydd sain. Fodd bynnag, newidiodd hynny i gyd yn fy mlwyddyn olaf pan ddechreuais i weithio ar benwythnosau yng Nghanolfan Wyddoniaeth Techniquest ym Mae Caerdydd, yn gynorthwy-ydd arddangos.

Syrthiais mewn cariad â photensial cyfathrebu gwyddoniaeth i rannu fy angerdd mewn ffordd greadigol a hygyrch. A minnau’n fyfyriwr israddedig ffiseg, sylwais fod myfyrwyr eraill yn aml yn ymateb mewn ofn ac arswyd pan roeddwn yn dweud fy mod yn astudio ffiseg ac roeddwn i’n ceisio egluro pam ei fod yn hynod ddiddorol. O’r diwedd sylweddolais mai cyfathrebu gwyddoniaeth oedd yr yrfa roeddwn i’n angerddol amdani.

Gweithiais gyda Techniquest am wyth mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw treuliais flwyddyn yn gweithio ac yn ennill profiad mewn pum canolfan wyddoniaeth (a syrcas wyddoniaeth!) yn Awstralia. Gwnaeth hyn feithrin cariad ynof i at allgymorth. Mae disgwyl i bobl ymweld â chanolfan wyddoniaeth yn iawn, ond wrth fynd â’r wyddoniaeth allan at y cyhoedd mae pobl o gefndiroedd mwy amrywiol yn elwa o’r profiad hwnnw.

Erbyn 2002, roeddwn newydd gwblhau blwyddyn yn ddarlithydd Ysgolion yn y Sefydliad Ffiseg (IOP), yn teithio o amgylch y DU ac yn gwireddu breuddwyd gydol oes o gyflwyno yn Narlithfa Faraday yn y Sefydliad Brenhinol. Penderfynais fy mod wrth fy modd yn teithio a mynd â gwyddoniaeth at y bobl, ac roeddwn am sefydlu fy menter fy hun er mwyn gwneud hynny. Sefydlais science made simple â chenhadaeth i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr. Ar yr un pryd, symudais yn ôl i’r Brifysgol yn rhan-amser i fod yn Swyddog Cysylltu ag Ysgolion ar gyfer yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Wrth i’r galw am allgymorth gynyddu, roedd angen i mi dyfu’r fenter ac felly fe wnes i gais i fod yn gwmni deillio o’r brifysgol. Prin y galla i gredu bod Is-Ganghellor y cyfnod (Syr David Grant) a’m harwr pan oeddwn i’n blentyn, Johnny Ball, wedi dod i lansiad y cwmni yn 2004.

Tyfodd science made simple yn raddol i gwmpasu rhannau eraill o’r DU a deuthom o hyd i gyflwynwyr talentog mewn nifer o ranbarthau. Am gyfnod bu gennym bartneriaeth ym Milton Keynes gyda’r Brifysgol Agored ac rydym wedi gweithio’n helaeth gydag ymchwilwyr ledled y byd i’w helpu i gysylltu â chynulleidfaoedd cyhoeddus ac ysgolion.

Datblygodd fy ngwaith yn y Brifysgol hefyd. Cefais fy mhenodi’n ddarlithydd a dechreuais integreiddio addysgu cyfathrebu gwyddoniaeth i’n gradd Ffiseg israddedig. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan gynyddol ym materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth ym maes STEM, gan helpu’r Brifysgol i ddod yn Hyrwyddwr Prosiect Juno IOP, ac yn ddiweddar yn arwain gwobr Arian Athena Swan am amrywiaeth ryweddol.

Debbie Syrop yn dangos tonnau yn ein sioe theatr ‘visualise’. ©Kiran Ridley 2007

Yn 2005 cawsom arian gan NESTA a’r IOP i ddatblygu cysyniad newydd o sioe wyddoniaeth heb eiriau. Gan weithio gyda fy nhîm, crëwyd sioe gan ddefnyddio ffenomena ffiseg wedi ehangu, cerddoriaeth fyw, a thechnegau theatr ffisegol. Aeth y sioe ar daith i dros 12 o wledydd a gwerthwyd pob tocyn yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Yn dilyn y llwyddiant hwn, â’n gwaith gyda chynulleidfaoedd mwy heriol yn eu harddegau, cawsom wobr Descartes yr UE yn 2007 am arloesedd mewn cyfathrebu gwyddoniaeth. Roedd dau o fy arwyr eraill wedi ennill hwn o’r blaen – Syr David Attenborough a Bill Bryson. Roedd yn foment arall a oedd yn anodd ei gredu!

Mae gennym ddiddordeb cynyddol mewn defnyddio modelau rôl yn effeithiol er mwyn ysgogi cynulleidfaoedd mwy amrywiol i ystyried gyrfaoedd ym maes STEM. Drwy fisoedd heriol y pandemig, rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect mewn nifer o wledydd yn yr UE o’r enw ‘Ein Gofod Ein Dyfodol’. Nod hyn yw cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n dewis gyrfaoedd yn y diwydiant gofod. I wneud hyn, rydym yn cyflwyno allgymorth wedi’i dargedu i’r un myfyrwyr ar sawl achlysur tra hefyd yn dylanwadu ar eu hathrawon a’u rhieni. Rydym mewn cyswllt â deg ysgol yr un yn Lloegr, Denmarc, yr Eidal, Portiwgal a Chymru ac yn cynnal cynllun gwerthuso trylwyr ochr yn ochr â cheisio deall mwy am yr hyn sydd fwyaf effeithiol. Y neges yw nad yw’r diwydiant gofod yn ymwneud ag archwilio a gofodwyr yn unig, ond bod llawer o gyfleoedd yn bodoli gan ddefnyddio technoleg lloeren i’n helpu ni yma ar y ddaear.

Mae gennym ddiddordeb arbennig i glywed gan unrhyw gynfyfyrwyr o Gaerdydd sy’n gweithio yn y diwydiant gofod a allai fod yn rhan o’r prosiect hwn.

Roeddwn wrth fy modd yn derbyn MBE yn rhestr anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2017. Penderfynais fod yn rhaid i mi wisgo rhywbeth oedd yn gysylltiedig â gwyddoniaeth, felly dyluniodd fy nghydweithiwr Debbie Syrop (sydd bellach yn gweithio yn yr Ysgol Peirianneg) ffrog i mi sy’n cynnwys tonnau sain o leisiau fy mhlant! Roedd yn hyfryd gwisgo rhywbeth personol a oedd yn fy atgoffa o’r ddau ddiddordeb a ddaeth â mi i Gaerdydd flynyddoedd lawer yn ôl.

Os ydych chi’n gynfyfyriwr o Gaerdydd sy’n gweithio ym myd addysg neu STEM a hoffai weithio gyda Wendy i wneud gwyddoniaeth yn fwy hygyrch, gallwch ebostio sadlerwj@cardiff.ac.uk.

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.