Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Gwerth gradd yn y dyniaethau – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

20 Hydref 2021

Tim Edwards (BA 2005, MA 2007) yw Prif Swyddog Marchnata QS Quacquarelli Symonds. Nid oedd llwybr ei yrfa wedi’i bennu ymlaen llaw ac nid oedd ganddo unrhyw syniad beth oedd am ei wneud pan gyrhaeddodd y campws yn fyfyriwr crefydd a diwinyddiaeth. Mae’n esbonio sut gwnaeth astudio gradd yn y dyniaethau gynnig cyfoeth o brofiadau newydd, gyrfa lwyddiannus, a hyder gydol oes yn y sgiliau a ddysgodd ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Y tro cyntaf y gofynnwyd i mi am fy nyheadau gyrfa oedd ym mis Hydref 2002. Rwy’n ei gofio’n glir, mewn digwyddiad croesawu myfyrwyr yn Adeilad y Dyniaethau ger Rhodfa Colum.  

“Does dim llwybr gyrfa penodol gen i,” dywedais yn hyderus, yng nghanol ficeriaid dan hyfforddiant.  

Ni wnaeth y syniad o fynd i’r weinidogaeth erioed groesi fy meddwl, am lawer o resymau.  

Yn yr un modd, nid oedd gennyf unrhyw awydd i addysgu addysg grefyddol.  

“Felly, beth yw dy gynllun?” – gofynnodd fy nghariad ar y pryd, ac sydd bellach yn wraig ers pedair blynedd ar ddeg.  

Fy ymateb oedd, “Duw a ŵyr!”   

Pan ddewisais astudio’r dyniaethau, yn enwedig hanes a chrefydd, fe’i dewisais yn union am nad oeddwn yn gwybod pa yrfa i’w dilyn. Doeddwn i ddim am ddysgu’r sgiliau mwyaf amlwg er mwyn chwilio am swydd, ond roeddwn i’n gwybod fy mod am ymgolli yn y byd academaidd. Dechreuais feddwl am rai o gwestiynau pwysicaf bywyd yn y gobaith y byddai’r hyn y byddwn yn ei ddysgu yn fy helpu i ddod o hyd i swydd a fyddai’n talu cyflog imi ryw ddydd.  

Beth fyddai fy swydd? Doedd gen i ddim syniad. Doedd dim brys – roeddwn i’n paratoi fy hun ac yn paratoi ar gyfer fy nyfodol. Doeddwn i ddim yn gwybod sut roeddwn i’n mynd i ddefnyddio’r hyn roeddwn i’n ei ddysgu, neu’n hytrach – sut roeddwn i’n dysgu. Ar ôl diwallu fy anghenion cynhaliaeth sylfaenol, roedd y celfyddydau a’r dyniaethau’n cwmpasu’r holl bethau hynny a oedd, i mi, yn gwneud bywyd yn werth ei fyw. 

Rwy’n defnyddio’r pethau a ddysgais yn ystod fy astudiaethau yng Nghaerdydd bob dydd. Ar un olwg ac yn seiliedig ar waith ddylunio pwrpasol i raddau helaeth, cefais fy nysgu sut i feddwl yn feirniadol mewn amgylchedd academaidd trylwyr a diffiniol. Ond beth wnes i ei ddysgu mewn gwirionedd oedd sut i ofyn y cwestiynau cywir, sut i wneud penderfyniadau gwybodus, sut i gysylltu a gweld pethau mewn ffyrdd na all pobl eraill, a sut i gwestiynu rhagdybiaethau.  

Meddwl yn feirniadol, gwrando’n ofalus, siarad yn glir ac ysgrifennu mewn modd argyhoeddiadol; pob un yn sgil hanfodol mewn ystafell bwrdd. Ar ben hynny, ni ddylid diystyru dylunio a meddwl yn greadigol, yn ogystal â chyfuniad amlddisgyblaethol sy’n ystyried potensial ac anghenion dynol.  

Mewn unrhyw sector neu rôl sy’n canolbwyntio ar bobl, mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol, yn hyderus a meddwl yn eglur, yn sgiliau gwerthfawr iawn – fel yn Silicon Valley.  

Mae’n wir y gall y dyniaethau eich paratoi â sgiliau trosglwyddadwy. Nid wyf yn ystyried fy hun yn rhywun sy’n defnyddio fy sgiliau yma ac acw (sef neges anfwriadol trosglwyddo sgiliau), ond yn hytrach, yn weithiwr proffesiynol busnes rhesymegol. Rwy’n dod â barn cydweithwyr ag arbenigedd ynghyd ac yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb.  

Mae’r gallu hwn i fod yn hwylusydd ac arweinydd, i mi, yn dangos gwir werth gradd yn y dyniaethau a pham mai’r sefydliadau gorau yw’r rhai sy’n sylweddoli bod angen sgiliau graddedigion y dyniaethau ar weithle modern i ategu gwaith y rhai sydd â graddau galwedigaethol neu arbenigol. Yn fy rôl yn Brif Swyddog Marchnata, yn ddyddiol mae angen i mi gyfosod arbenigedd dwfn y rhai sy’n arbenigwyr marchnata, datblygwyr ochr flaen, dylunwyr graffig, a gweithwyr proffesiynol cysylltiadau cyhoeddus, ymysg eraill.  

Diolch byth, tra roeddwn yn brysur yn dysgu ieithoedd hynafol yng Nghaerdydd, cefais amser i weithio’n rhan-amser yn Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol. Nid oeddwn yn sylweddoli y byddai pacio prosbectysau mewn blychau ar gyfer arddangosfeydd tramor i ddenu myfyrwyr rhyngwladol yn newid fy mywyd am byth, ac yn rhoi cyfoeth o gyfleoedd i mi deithio’r byd (86 o wledydd a mwy). Er na wnes i fynd yn syth o bacio blychau i bacio fy nghês, ond fe wnaeth y profiad hwn agor drysau a fy nghyflwyno i sector rwy’n angerddol iawn amdano – addysg uwch ryngwladol. Dyma’r astudiaethau israddedig a graddedig yn y dyniaethau a wnaeth fy mharatoi i fod yn llwyddiannus.  

Felly, er nad wyf wedi defnyddio fy hen Roeg, Lladin nac Hebraeg yn fy nghyfarfodydd arwain gweithredol – rwy’n defnyddio’r hyn a ddysgais wrth astudio yng Nghaerdydd bob dydd yn fy mywyd proffesiynol.   

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.