Skip to main content

September 2021

Dod yn ôl i Gaerdydd er mwyn helpu i adeiladu ei ddyfodol

Dod yn ôl i Gaerdydd er mwyn helpu i adeiladu ei ddyfodol

Posted on 28 September 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Mae James Kelly (MEng 2017) yn gynfyfyriwr peirianneg a aeth o astudio yn adeiladau'r Brifysgol, i adeiladu rhai newydd sbon fel rheolwr adeiladu. Daeth yn ôl rhwng 2019 a 2021 er mwyn helpu i adeiladu 'Abacws', yr adeilad cyfrifiadureg a gwybodeg newydd, ac adeilad mathemateg. Wrth iddo ddychwelyd i'r campws, fe wynebodd heriau ond roedd yn llawn balchder a chyffro.

Rhedwyr Marathon Llundain #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

Rhedwyr Marathon Llundain #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

Posted on 22 September 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Marathon Llundain yw un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf poblogaidd y byd ac mae'n codi miliynau i elusennau bob blwyddyn. Ar ôl cael ei ohirio yn 2020, mae'r byd yn fwy awyddus nag erioed i fwynhau’r digwyddiad eleni a gynhelir ddydd Sul 3 Hydref 2021. Gydag ond ychydig o wythnosau ar ôl i hyfforddi, mae rhedwyr #TîmCaerdydd eleni yn ymateb i’r her.

Awgrymiadau gorau gan y podledwyr proffesiynol

Awgrymiadau gorau gan y podledwyr proffesiynol

Posted on 21 September 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Mae podledu ym mhobman y dyddiau hyn, gydag unigolion a busnesau fel ei gilydd yn creu tameidiau o sain i wrandawyr eu mwynhau wrth gymudo, cerdded, neu wneud tasgau bob dydd. Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (wrth gwrs) wedi neidio'n syth i mewn, gan sefydlu eu podlediadau llwyddiannus eu hunain a rhannu'r hyn y maen nhw'n angerddol amdano gyda'r byd. Sut wnaethon nhw hynny? Wel, fe wnaethon ni ofyn iddynt …

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020)

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020)

Posted on 16 September 2021 by Alumni team

Mae Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020) yn gynorthwyydd ymchwil yn labordy Gallimore/Godkin yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar mesothelioma malaen, math o ganser sy'n effeithio ar yr ysgyfaint. Fel arfer, dod i gysylltiad ag asbestos sy’n achosi’r canser hwn, sy’n angheuol yn y rhan fwyaf o achosion.

Lleoliadau Blas ar Fyd Gwaith: mantais amlwg i unrhyw fusnes

Lleoliadau Blas ar Fyd Gwaith: mantais amlwg i unrhyw fusnes

Posted on 9 September 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Cymerodd Beth Addison (BSc 2019) ran mewn Lleoliad Blas ar Fyd Gwaith Prifysgol Caerdydd gyda Microsoft, ac ar ôl wythnos yn unig cafodd awydd i weithio ym maes technoleg. Cafodd ei thywys drwy'r sefydliad gan Arweinydd Addysg Uwch Microsoft a chynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Elliot Howells (BSc 2016), ac mae hi bellach wedi gweithio am ddwy flynedd fel Arbenigwr Datrysiadau Azure ar gyfer Manwerthu, Ysbyty a Theithio gyda Microsoft.

Bwrsariaeth gwerth £10k, er cof am beilot a fu farw yn yr ail ryfel byd, i gefnogi myfyrwyr y dyfodol

Bwrsariaeth gwerth £10k, er cof am beilot a fu farw yn yr ail ryfel byd, i gefnogi myfyrwyr y dyfodol

Posted on 7 September 2021 by Alumni team

Ym mis Gorffennaf 1940, graddiodd Donald Philip Glynn Miller (BSc 1940) yn Faglor Gwyddoniaeth mewn peirianneg mwyngloddio yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, coleg sefydlol Prifysgol Caerdydd.

Y ffoadur o Syria sy’n codi arian i roi rhywbeth yn ôl

Y ffoadur o Syria sy’n codi arian i roi rhywbeth yn ôl

Posted on 6 September 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Fe ddaeth Naser Sakka (MSc 2019) i’r DU yn 2015 fel ffoadur o Syria. Ers hynny, ei genhadaeth yw gwneud popeth o fewn ei allu i roi yn ôl i'r gymuned a'i helpodd i ailadeiladu ei fywyd. Yn ogystal â gwirfoddoli gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a helpu busnesau lleol yn ystod y pandemig, fe redodd Hanner Marathon Caerdydd yn 2019, gan godi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd.