Skip to main content

6 September 2021

Y ffoadur o Syria sy’n codi arian i roi rhywbeth yn ôl

Y ffoadur o Syria sy’n codi arian i roi rhywbeth yn ôl

Posted on 6 September 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Fe ddaeth Naser Sakka (MSc 2019) i’r DU yn 2015 fel ffoadur o Syria. Ers hynny, ei genhadaeth yw gwneud popeth o fewn ei allu i roi yn ôl i'r gymuned a'i helpodd i ailadeiladu ei fywyd. Yn ogystal â gwirfoddoli gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a helpu busnesau lleol yn ystod y pandemig, fe redodd Hanner Marathon Caerdydd yn 2019, gan godi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd.