Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Abacws: Cartref newydd yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

26 Awst 2021

Bydd yr adeilad ‘Abacws’ newydd, y mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn yr hydref, yn dod â’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’r Ysgol Mathemateg at ei gilydd mewn un cyfleuster sy’n arwain y byd. Mae’r adeilad chwe llawr hwn wedi’i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, gyda mannau addysgu arloesol.

Cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil seiberddiogelwch sy’n arwain y byd 

Ers dros ddegawd mae Prifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil seiberddiogelwch, gan ennill enw da am arbenigedd sy’n arwain y byd. Cafodd y Brifysgol ei henwi yn ‘Ganolfan Ragoriaeth Academaidd’ mewn ymchwil seiberddiogelwch gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC) yn 2018, y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ennill y statws hwn.

Buddsoddwyd miliynau o bunnoedd mewn seilwaith ymchwil ar gyfer seiberddiogelwch, gan gynnwys ystod seiber o’r radd flaenaf a labordy seiber-ymosod ac amddiffyn trochol, parth canolfan rheoli seiberddiogelwch newydd, efelychydd trafnidiaeth a pharth roboteg gwybyddol.

Bydd y ganolfan hefyd yn gartref i lu o gyfleusterau blaengar gan gynnwys

Y gweithdy Makerspace a TG a fydd yn helpu i ehangu ein hymchwil ymhellach o amgylch datblygu dyfeisiau diriaethol i helpu defnyddwyr i ddeall preifatrwydd yn well a sut mae dyfeisiau craff yn casglu ac yn defnyddio eu data.

Y Man Profi Gweithgynhyrchu yn y Labordy Seiber-Amddiffyn a fydd yn helpu i ddatblygu mecanwaith canfod anghysondebau sy’n ymwybodol o gyd-destun sy’n arsylwi’n gorfforol dyfeisiau ymyl Systemau Ffisegol Seiber Diwydiannol i ganfod ymosodiadau seiber.

Y Labordy Hafan Clyfar a fydd yn helpu i gynnal ymchwil ar breifatrwydd a diogelu data mewn cartrefi craff a defnyddwyr cymunedau bregus trwy ddefnyddio arteffactau corfforol.

Ystyried gyrfa ym maes seiberddiogelwch?
Mae agoriad Abacws, ynghyd â lansiad rhaglen feistr newydd sbon MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg, yn nodi amser gwych i ystyried astudio seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cymorth cyllid ar gael  

Mae 15 o leoedd wedi’u hariannu’n llawn a bwrsariaeth costau byw ar gael ar y cwrs gradd MSc mewn Seiberddiogelwch a Thechnoleg ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail gystadleuol i’r ymgeiswyr cryfaf sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd.

Rhoddodd yr Athro Pete Burnap, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch a Dr Yulia Cherdantseva, Arweinydd sgiliau seiber ac arweinydd rhaglen MSc eu barn ar y cyfle newydd cyffrous hwn.

“Rydym yn falch iawn o fod yn lansio’r rhaglen MSc ymarferol newydd hon mewn Seiberddiogelwch a Thechnoleg. Ein hethos bob amser yw diwallu anghenion diwydiant, ac mae’r rhaglen hon yn ymateb yn uniongyrchol i’r anghenion sgiliau cymhwysol diweddaraf – gan roi llwyfan gwych i’n graddedigion symud i rolau technegol yn y sector.”

“Mae’r ffaith iddo gael ei ddylunio a chael ei gyd-gyflwyno gyda PwC, yn dangos perthnasedd diwydiannol y cwrs. Mae’r gefnogaeth ariannol i dechrau ar hyn gan Fargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dangos uchelgais De-ddwyrain Cymru i ddenu’r talent seiber gorau.”

I gael gwybodaeth lawn am y cwrs, cymhwysedd a sut i wneud cais am yr MSc mewn Seiberddiogelwch a Thechnoleg cliciwch yma.