Cyswllt Caerdydd, Examined Life, News

Myfyrio ar Fywyd: Agnes Xavier-Phillips YH DR (LLB 1983)

Agnes Xavier-Phillips JP DL

Mae Agnes Xavier-Phillips JP DR (LLB 1983) yn fenyw nad yw’n ofni manteisio ar gyfle. Yn ystod ei gyrfa bu’n gweithio fel athrawes, nyrs, cyfreithiwr, ac mae bellach yn gwirfoddoli ei hamser a’i harbenigedd i gefnogi ystod o sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd mae hi’n Ynad Heddwch, Dirprwy Raglaw, Ymddiriedolwr, Cyfarwyddwr, Lifreiwr, Cadeirydd y Pwyllgor Cysylltiadau Cyhoeddus ac yn Uwch Gynorthwyydd Llys i Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru. Mae Agnes yn siarad â ni am ei bywyd, a’r hyn sydd wedi ei gyrru i lwyddo mewn ystod mor eang o rolau.

Mae pob un o fy ngyrfaoedd wedi dysgu set wahanol o sgiliau i mi. Ac roedd y sgiliau a ddysgais ym mhob un o’r rolau gwahanol hynny yn hanfodol ar gyfer y nesaf. Fe wnaeth pob gyrfa baratoi’r ffordd ar gyfer y nesaf. Ond fwy na thebyg, fi yw’r unig gyfreithiwr sydd wedi geni dros 60 o fababod!

Person Indiaidd Malaysiaidd Prydeinig sy’n fy nisgrifio orau; ces i fy ngeni a’m magu ym Malaysia, rydw i wedi bod yn y DU ers dros 40 mlynedd, ac Indiaidd yw fy nharddiad ethnig. Pan briodais i, fe wnes i gadw fy enw cyn priodi, sef Xavier, er cof am fy nhad, fy nylanwad mwyaf a’m mentor, a fe sydd wedi meithrin pwy ydw i heddiw.

Es i ysgol lleiandy ym Malaysia ac ar ôl gorffen fy astudiaethau, daeth cyfle yn fy ysgol imi fod yn athro cyflenwi. Roedd yn gyfle rhy dda i’w golli ac fe’m gosododd ar lwybr dysgu. Fe wnes i ei fwynhau’n fawr a bues i’n athrawes am bron i ddwy flynedd. Ar ôl dwy flynedd, fe ges i gynnig i ystyried gyrfa mewn addysgu a dilyn cwrs hyfforddi athrawon ond gwrthodais, oherwydd roedd gen i uchelgais i fod yn gyfreithiwr.

Ar y pryd, roedd nifer o fy nghyd-ddisgyblion a’m cydweithwyr yn dod i’r DU i hyfforddi fel nyrsys. Byddent yn anfon cardiau post ataf ar eu teithiau o amgylch Ewrop ac roeddwn yn llawn eiddigedd! Pa ffordd well o deithio’r byd na mewn swydd? Felly penderfynais y byddwn i’n dod yn nyrs, teithio ac yna astudio’r gyfraith yn hwyrach. Cefais fy nerbyn yn Ysbyty Coffa’r Brenin Edward yn Ealing a des i Lundain.

Roedd nyrsio yn waith caled corfforol ond doeddwn i ddim am adael i bethau’n fynd yn drech na mi felly fe wnes i ddyfalbarhau, rhagori yn fy ngwaith, a dechrau mwynhau. Rhoddais gyfnod prawf o dri mis i mi fy hun a drodd yn dair blynedd ,ac fe wnes i gymhwyso yn Nyrs Gofrestredig gyda’r Wladwriaeth (SRN), ac ar ôl 10 mis arall o hyfforddiant, fe wnes i gymhwyso yn Fydwraig Ardystiedig gyda’r Wladwriaeth. Yn dilyn hynny, cefais gynnig swydd Nyrs Staff a chefais fy nyrchafu’n ddiweddarach i fod yn un o’r Uwch Staff ar ward gynaecoleg. Ar ôl chwe mis cefais fy nyrchafu’n Brif Nyrs a chymerais gyfrifoldeb o ward brysur 33 gwely gyda 3 Ymgynghorydd, 3 Cofrestrydd, 3 Meddyg Tŷ, myfyrwyr meddygol a 10 aelod o staff nyrsio. Roeddwn yn falch iawn o fy ward a oedd yn rhedeg i’r funud! Fe wnes i barhau yn fy rôl fel Chwaer am ddwy flynedd ac yna cefais y dewis i ddod yn Swyddog Nyrsio. Roedd yn anrhydedd, ond bu’n rhaid imi ei wrthod oherwydd erbyn hynny roeddwn wedi sicrhau fy lle ym Mhrifysgol Caerdydd i ddilyn fy uchelgais i ddarllen y gyfraith! Roeddwn yn falch iawn o’m cynnydd anhygoel yn fy ngyrfa nyrsio.

Fe ddes i i Gaerdydd, ac roedd hi’n anodd dod i arfer â’r ddinas ar ôl bod yn Llundain, ond ar ôl tri mis o deithio yn ôl i Lundain bob penwythnos, fe wnes i ymgartrefu. Llwyddais i gwblhau fy ngradd yn y gyfraith ac es i Guilford i sefyll arholiadau terfynol Cymdeithas y Gyfraith. Yna, des i yn ôl i Gaerdydd a chwblhau fy nghontract hyfforddi gydag Edwards, Geldard a Shepherd a chymhwyso fel cyfreithiwr ac aros yno i fod yn gyfreithiwr cynorthwyol am ddwy flynedd yn arbenigo mewn ymgyfreitha sifil.

Daeth cyfle i weithio’n fewnol i NatWest Bank yng Nghaerdydd fel Uwch Gwnsler Cyfreithiol, a derbyniais y swydd. Fe wnes i fwynhau fy swydd yn fawr a chynrychioli’r cwmni gyda chyrff masnach ac roeddwn i’n aelod o’r Gweithgor Mynediad at Gyfiawnder ar Ddiwygiadau Woolf – y diwygiad mwyaf radical i reolau’r llysoedd mewn 30 mlynedd! Fe wnes i hefyd gymhwyso fel Cyfryngwr a threuliais y 12 mlynedd nesaf yn NatWest, ac fe es i o fod yn Uwch Gwnsler Cyfreithiol i reoli’r adran ymgyfreitha.

Yn dilyn proses gyfuno, cefais gyfle i weithio i Abbey National yn Llundain. Gan fod hynny’n golygu adleoli, cytunais i oruchwylio’r cyfnod pontio am gyfnod o dri mis yn unig. Ond fe wnes i fwynhau’r her, a phenderfynais gymryd y swydd yn barhaol a chefais fy nyrchafu’n Bennaeth y Gyfraith. Ar ôl blwyddyn neu ddwy arall, fe aethon ni drwy broses gyfuno arall, gyda GE y tro hwn, cwmni rhyngwladol byd-eang. Bûm yn gweithio iddynt tan 2015 ac yn ystod yr amser hwnnw cefais fy nyrchafu’n Gwnsler Cyffredinol ac roeddwn yn rhan o’r Uwch Dîm Rheoli Gweithredol. Cefais fy mhenodi hefyd yn Arweinydd Hwb Rhwydwaith Merched GE ac roeddwn yn gyfrifol am ei ymgorffori’n llwyddiannus yn y busnes.

Erbyn 2015 Roeddwn i wedi bod yn cymudo yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru a Llundain am bron i 15 mlynedd, ac ar ôl cyrraedd uchafbwynt fy ngyrfa gyfreithiol, penderfynais ei bod yn amser i roi’r gorau i weithio’n amser llawn. Dechreuais ar gynllun teithio tair blynedd a theithiais y byd heb unrhyw fwriad i weithio. Yn y cyfamser, wrth imi gael sawl galwad, penderfynais ddilyn gyrfa bortffolio yn seiliedig yn bennaf ar waith gwirfoddol. Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl a defnyddio fy sgiliau, fy arbenigedd a’m profiad er budd sefydliadau eraill a’r gymuned.

Ar ôl absenoldeb hir bu’n rhaid imi ailgysylltu â Chaerdydd, ac ymuno â Chlwb Busnes Caerdydd, a dod yn Aelod Is-lywydd. Yna des i yn aelod o Dŵr Cymru ac roedd yn chwa o awyr iach ar ôl blynyddoedd o weithio i sefydliadau ariannol i gefnogi cwmni dielw.

Yn ddiweddarach, cefais fy mhenodi’n YH / Ynad i Fainc Canolbarth Cymru ac wedi hynny fe’m penodwyd yn Aelod o Bwyllgor y Cyngor, a Phwyllgor Archwilio a Risg Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn Rhyddfreiniwr yn Ninas Llundain, rydw i’n Lifreiwr Cyfreithwyr, Cyflafareddwyr a Chwmnïau Lifrai Cymru ac yn Uwch Gynorthwyydd Llys a Chadeirydd Pwyllgor Cysylltiadau Cyhoeddus Lifrai Cymru. Ym mis Hydref 2019 roedd yn anrhydedd cael fy mhenodi’n Ddirprwy Raglaw Gwent.

Mae gen i brofiad o weithio mewn nifer o rolau, ond rwy’n troi fy llaw at swyddi lle gallaf wneud gwahaniaeth. Rwy’n teimlo’n angerddol iawn dros y gwaith rwy’n ei wneud ac yn gosod safonau uchel i mi fy hun, gan fy mod bob amser yn anelu at lwyddo a rhagori.

Fy arwyddair yw; chi yw chi oherwydd y penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud drwy gydol eich bywyd. Fi yw fi heddiw oherwydd y penderfyniadau rydw i wedi’u gwneud. Nhw sydd wedi fy arwain i yma!