Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Mae dros draean o Aelodau’r Senedd yn gynfyfyrwyr neu gyn-staff o Brifysgol Caerdydd

24 Mai 2021
The Senedd

Rydym yn hynod falch o lwyddiannau ein cynfyfyrwyr sydd wedi cael eu hethol neu eu hail-ethol yn aelodau o’r Senedd yn ddiweddar. O’r 60 Aelod o’r Chweched Senedd, mae gan 22 gysylltiadau agos â Phrifysgol Caerdydd ac maent naill ai’n gynfyfyrwyr, yn Gymrodyr er Anrhydedd neu’n gyn-aelodau staff.

Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’r Senedd yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Yn dilyn yr etholiadau diweddar, cafodd 18 o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd eu hethol i’r Senedd. Mae saith ohonynt yn Aelodau newydd.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda nhw dros y blynyddoedd i ddod ar bolisïau cyhoeddus, a gwneud yn siŵr y gall ein hymchwil sy’n arwain y byd gynorthwyo llunwyr polisïau gyda’u penderfyniadau.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn gyn-Athro Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol. Bu’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd am ddeng mlynedd rhwng 2003 a 2013.

Penododd y Prif Weinidog Vaughan Gething (LLB 2001) yn Weinidog yr Economi a’r Farwnes Eluned Morgan (Anrh. 2012) yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yng ngweddill y cabinet, Mick Antoniw (LLB 1979) yw’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a Julie Morgan (PGDip 1967) yw’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.

Dewiswyd Elin Jones (BSc 1987) yn Llywydd y Chweched Senedd a David Rees (BSc 1980) yn Ddirprwy iddi.

Mae Aelodau newydd y Senedd yn cynnwys Sarah Murphy (MA 2017) ar gyfer Llafur Cymru, sydd hefyd ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil yn y Labordy Cyfiawnder Data ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar gyfer Plaid Cymru, etholwyd Rhys ab Owen (PGDip 2010), Luke Fletcher (BScEcon 2017, MScEcon 2019), Sioned Williams (PGDip 1994) a chyn-ddarlithydd Prifysgol Caerdydd, Cefin Campbell.

Maent yn ymuno â swyddogion y Blaid sef Rhun ap Iorwerth (BA 1993), Siân Gwenllian (PGDip 1979) ac arweinydd y Blaid Adam Price (BScEcon 1991), a oedd hefyd yn gweithio fel ymchwilydd.

Cafodd y cynfyfyrwyr Joel S James (MA 2008) o Geidwadwyr Cymru ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds eu hethol hefyd.

Mae Hefin David (BScEcon 1998, MSc 1999), John Griffiths (LLB Law 1988) Mike Hedges a Vikki Howells (BA 1998, MA 2000) wedi cadw eu seddi dros Lafur.

Rydyn ni mor falch o’n cynfyfyrwyr a’n cymuned ehangach ym Mhrifysgol Caerdydd a fydd yn helpu i lunio Cymru yn y blynyddoedd i ddod, a byddem wrth ein bodd yn eu croesawu yn ôl i’r campws, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.