Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Pam ymunais â busnes newydd (a pham ddylech chi hefyd) – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

13 Mai 2021

Mae Alex Moir (BA 2018) yn swyddog gweithredol marchnata a lwyddodd i gael ei swydd ddelfrydol drwy gymryd cyfle ar gwmni newydd, ar ôl gweithio mewn bariau yn Llundain i gael dau ben y llinyn ynghyd. Yma, mae’n egluro pam ei fod o’r farn y gall busnesau newydd fod yn ffordd wych o ddechrau ar eich gyrfa.

Os graddioch chi yn 2018, roeddech 33% yn debygol o sicrhau cyflogaeth cyn eich dyddiad graddio. Erbyn 2020, dim ond 18% oedd eich siawns. Rwy’n gwybod, rwy’n llawn hwyl mewn partïon.

Y pwynt yw os ydych chi’n darllen hyn, efallai eich bod chi yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i pan adawais i’r brifysgol. Ni wnaeth y llu o gynlluniau graddedig y gwnes gais amdanynt ddwyn ffrwyth. Doedd gen i ddim wrth gefn heblaw am weithio amser llawn yn fy swydd tymor neu symud gartref, ac aros i’r cynlluniau gradd o’m dewis agor rowndiau derbyn eto.

Yn lle hynny, symudais i Lundain. Ro’n i’n gweithio mewn bar i dalu rhent, ac yn cyflwyno ceisiadau am swyddi yn fy amser sbâr.

Rhoddodd y rhan fwyaf o bobl gyngor i mi beidio â gweithio i fusnes newydd. “Gwna’n siŵr dy fod yn cael swydd ddiogel mewn cwmni mawr yn dy ugeiniau. Mae busnesau newydd yn peri risg ac os yw d’un di’n methu, bydd yn edrych yn wael ar dy CV.”

Ond doeddwn i ddim eisiau bod yn ymgynghorydd Pedwar Mawr. Doeddwn i ddim eisiau trosi i’r gyfraith a chwilio am gontract hyfforddiant, a doeddwn i ddim eisiau mynd yn ôl i’r coleg i astudio am ragor o gymwysterau. Roeddwn i eisiau gweithio ym maes technoleg – roedd i weld yn gyffrous, ac roedd digon o gyfleoedd i raddedigion yn Llundain.

Ymuno â byd technoleg gyfreithiol

Trwy farchnad swyddi busnesau newydd o’r enw Joblab (Stride bellach), gwelais rôl i raddedigion mewn cwmni a oedd yn swnio’n ddiddorol ac yn berthnasol. Gwahoddodd y cwmni yr ymunais ag ef, Juro, fi i mewn, a threuliais fwyafrif y broses gyfweld yn dysgu am weledigaeth y cwmni gan ei sylfaenwyr. Cefais gynnig, a derbyniais swydd fel eu cynrychiolydd datblygu busnes cyntaf. Cymerodd y broses o’r dechrau i’r diwedd bythefnos; fi oedd cyflogai rhif 15.

Ddwy flynedd i mewn i’m gyrfa ôl-brifysgol, ble ydw i? Ydw, rwy’n dal i weithio gyda Juro.

A fydden i’n ei argymell? Yn bendant. Dyma pam:

1. Ni fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth.

Mewn dwy flynedd, rwyf wedi gweld y cwmni’n dyblu o ran nifer y bobl ac yn codi dros $7m mewn cyfalaf menter gan y buddsoddwyr y tu ôl i Twitter. Rydw i wedi helpu i siapio sylfeini ein prosesau gwerthu a marchnata ac wedi gweithio gyda phob adran yn y cwmni mewn un ffordd neu’i gilydd. Y rhan orau yw bod hyn yn dal i deimlo fel dechrau antur.

2. Rydych wedi buddsoddi yn llwyddiant y cwmni, ac maen nhw’n buddsoddi yn eich llwyddiant chi.

Mae penodi, i fusnesau newydd cam cynnar, yn bwysig iawn. Gall penodiad gwael fod yn drychinebus ac yn gamgymeriad drud iawn. Os yw busnes newydd yn dewis eich penodi, mae’n siŵr eu bod nhw’n eich hoffi chi ac yn bwriadu eich cadw chi o gwmpas am sbel.

I wneud hynny, mae’n bosibl y byddant yn rhoi opsiynau ar gyfer cyfrannau i chi yn y cwmni sy’n tyfu dros amser. Dyma’ch rhan chi yn llwyddiant y cwmni, felly po fwyaf y mae’r cwmni’n tyfu, mwyaf gwerthfawr fydd eich rhan chi. Yn yr un modd, mae’ch cydweithwyr wedi buddsoddi yn eich helpu chi i dyfu gyda’r cwmni a llwyddo yn eich gyrfa.

3. Rydych chi’n dysgu’n gyflym.

Gan weithio mewn busnes newydd, rydych yn gweld sut mae’r busnes yn ei gyfanrwydd yn gweithredu ac yn gweithio gyda’i gilydd. Rydych chi ar daith ddysgu fawr, ac yn gwella ychydig bob dydd. Mae gennych hefyd gyfrifoldeb mawr iawn o’r diwrnod cyntaf, a gall eich perfformiad gael effaith fawr ar y cwmni.

Gall fod yn anodd. Weithiau, byddwch yn cael deilliant i’w gyflawni, heb unrhyw ffordd amlwg o ran sut i gyrraedd yna. Ond dyna sy’n ei wneud yn gyffrous hefyd. Mae i fyny i chi i arbrofi, rhoi cynnig ar bethau newydd, ac adeiladu gwybodaeth fydd yn werthfawr i chi drwy gydol eich gyrfa. Byddwch yn deall beth sy’n gwneud cwmni’n llwyddiannus ac yn cael syniad gwych o ran i ble yr hoffech chi i’ch gyrfa fynd.

4. Rydych chi’n siapio’ch rôl.

Mewn busnes newydd, rydych yn gyson yn cydweithio gyda thimau eraill ac yn dysgu am eu rolau. Efallai y byddwch hyd yn oed yn penderfynu newid eich llwybr yn y cwmni. Efallai eich bod wedi dechrau yn yr adran werthu, cyn sylweddoli eich bod eisiau symud at farchnata.

Felly, ewch amdani! Wrth i’r cwmni dyfu, mae swyddi newydd yn dod i’r amlwg trwy’r amser ac yn aml mae penodi mewnol yn gynt ac yn rhwyddach. Rhowch wybod i’ch tîm i ble rydych chi am fynd, a byddan nhw’n eich helpu chi i gyrraedd yno.

Ddwy flynedd i mewn i fywyd dechrau busnes, bu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau – nid yw bob amser mor foethus a dramatig â’r hyn rydych yn ei weld mewn rhaglenni fel Silicon Valley. Ond pan rydych yn gwylio refeniw eich cwmni’n treblu mewn blwyddyn, byddwch yn sylweddoli ei fod yn antur sy’n werth parhau â hi. Felly beth am gychwyn ar eich antur eich hun?


Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.