Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDigwyddiadauDonateNewyddion

Cofrestrwch ar gyfer #5kMay

29 Ebrill 2021
Participate in 5kMay

Y mis hwn, mae crewyr her 5k y cyfnod clo, Run For Heroes, wedi lansio digwyddiad rhedeg rhithwir newydd, #5kMay. Darllenwch ragor am sut i gefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd drwy gymryd rhan yn eich 5k eich hun ym mis Mai.

5kMay yw fersiwn 2021 o her boblogaidd ‘Rhedeg 5, Rhoi 5, Enwebu 5’ a gododd filiynau ar gyfer elusennau. Eleni, rhedwch 5k unrhyw bryd rhwng 1 a 31 Mai. Gallwch wneud y 5k hwn unrhyw le, unrhyw bryd a gydag unrhyw un. Gallwch ei redeg, ei rolio, ei gerdded, ei feicio neu hyd yn oed ei nofio…! Mynd allan a theimlo’n dda yw’r nod – yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i achos da.

Ar ôl i cwblhau eich her, rhowch £5 i ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ganser Prifysgol Caerdydd.

Y cam olaf yw enwebu 5 o’ch ffrindiau neu gydweithiwyr i gymryd rhan hefyd, gan gofio ein tagio (@prifysgolCdydd) er mwyn i ni allu rhannu!

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael bag llawn gwobrau a nwyddau gan frandiau gwych!

Bydd llawer o aelodau #TîmCaerdydd sydd wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd yn cymryd rhan, fel cam cyntaf gwych i roi hwb i’w hyfforddiant ac i godi arian.

Rhagor am ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ganser Prifysgol Caerdydd.