Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Dewch i gwrdd â Phennaeth newydd yr Ysgol Peirianneg

28 Ebrill 2021
Jianzhong Wu - Head of the School of Engineering

Ar ôl deuddeng mlynedd yn yr Ysgol Peirianneg, penodwyd yr Athro Jianzhong Wu yn Bennaeth yr Ysgol ym mis Medi 2020, yng nghanol y pandemig. Buon ni’n ei holi am arwain yr Ysgol yn ystod y cyfnod heriol hwn, ei flaenoriaethau, a’i ddyheadau ar gyfer y dyfodol.

Yn 2008 derbyniodd Prifysgol Caerdydd gyllid gan Gyngor Ymchwil y DU i sefydlu canolfan ynni adnewyddadwy newydd. Daeth Jianzhong Wu o Brifysgol Manceinion i ddarlithio yn y ganolfan.

Fe wnaeth ddatblygu ei yrfa ym Mhrifysgol Caerdydd a chafodd ddyrchafiad i fod yn Uwch-ddarlithydd yn 2013, yn Ddarllenydd yn 2014 ac yn Athro yn 2015. Treuliodd ddwy flynedd yn Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Manceinion, blwyddyn yn Athro Cyswllt a dwy flynedd yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Tianjin.

Sut hwyl rydych chi wedi’i chael yn eich wyth mis cyntaf yn y swydd?

Rwy’n mwynhau fy rôl newydd yn fawr, er iddi fod yn heriol oherwydd pandemig COVID-19. Rwy’n ffodus bod tîm cryf yn gweithio gyda mi ac rwy’ wedi derbyn cefnogaeth ardderchog gan yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol. Mae holl staff yr Ysgol Peirianneg wedi bod yn brysur ofnadwy ers dechrau’r flwyddyn academaidd hon ond maent wedi llwyddo i ailagor ein hadeilad i’n staff a’n myfyrwyr, gyda mesurau diogelwch llym ar waith. Fe weithion ni’n galed i sefydlu ffordd effeithiol i addysgu’n gyfunol a chadw ein myfyrwyr a’n staff yn ddiogel.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n galed i gyflwyno’n Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, ac rwy’n falch o ddweud bod yr hyn a gyflawnwyd gennym yn waith o safon.

Beth oedd eich argraffiadau cyntaf o’r Ysgol a’i phobl?

Ymunais â Phrifysgol Caerdydd yn Ddarlithydd yn 2008 a chefais brofiad gwych yn elwa o amgylchedd cefnogol yr Ysgol, yn enwedig fel ymchwilydd o gefndir lleiafrif ethnig ar ddechrau ei yrfa. Roedd fy nghydweithwyr yn yr Ysgol yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol. Rwy’n awyddus i helpu sicrhau y gall myfyrwyr a staff presennol yr Ysgol ac yn y dyfodol elwa mewn ffordd debyg.

Beth yw eich barn am Gaerdydd fel dinas?

Rwy’n enedigol o ddinas Tangshan yn Tsieina, sy’n enwog am ei gweithfeydd glo a agorwyd 1879. I gymharu, mae gan Dde Cymru hanes hir o fwyngloddio glo ac roedd Caerdydd yn borthladd allforio glo mawr i’r byd. Yn ddiddorol ddigon, roedd gen i gysylltiad emosiynol naturiol â Chaerdydd, ac roeddwn yn dechrau hoffi’r ddinas hon y tro cyntaf i mi ymweld â hi.

Sut brofiad fydd gweithio gyda chymuned y cynfyfyrwyr yn y dyfodol yn eich barn chi?

Rydym yn cadw mewn cysylltiad cyson â thua 20,000 o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Peirianneg. Rwy’n mwynhau gwylio ein cyn-fyfyrwyr yn trawsnewid o fod yn raddedigion i fod yn weithwyr proffesiynol, a llawer wedyn i fod yn arweinwyr yn eu sefydliadau. Rwy’n falch o weld bod ein haddysg yn gwneud gwahaniaeth mawr yn natblygiad eu gyrfa, a bod ein haddysg, trwy ein cyn-fyfyrwyr, yn cyfrannu at gynnydd cymunedau ledled y byd.

Yn raddedigion o’r Ysgol, mae gan ein cynfyfyrwyr gysylltiad arbennig â’r Brifysgol drwy fod yn gefnogwyr ffyddlon a’n llysgenhadon gorau, gan eu bod yn ffordd amhrisiadwy o’n hyrwyddo ar draws eu rhwydweithiau personol a phroffesiynol. Rwy’n awyddus iawn i gryfhau’r cysylltiadau â’n cymuned o gynfyfyrwyr, sy’n caniatáu i’r Ysgol a’n cynfyfyrwyr elwa o sgiliau a phrofiad ein graddedigion.

Rydym am ddathlu llwyddiannau ein cynfyfyrwyr cymaint ag y gallwn a byddem wrth ein bodd yn rhannu straeon a newyddion gan ein cynfyfyrwyr, sy’n enghreifftiau disglair o’r math o bobl y mae’r Ysgol yn eu datblygu.

Hoffem hefyd ddenu ein cynfyfyrwyr i gynnig cefnogaeth ymarferol i’n myfyrwyr trwy leoliadau gwaith a mentora i’w helpu i lansio eu gyrfaoedd. Rydym yn gwahodd ein cynfyfyrwyr i rannu eu profiadau gyda’n darpar fyfyrwyr a’n myfyrwyr presennol yn ddigidol ac wyneb yn wyneb lle bo hynny’n bosibl.

Beth yw eich gobeithion a’ch blaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol?

Mae peirianneg yn sbardun i ddatblygu gwareiddiad a gwella ansawdd bywyd, ac mae’n beiriant arloesedd, cynhyrchiant a thwf. Mae’r byd ar drothwy chwyldro diwydiannol gwyrdd newydd gyda chryn dipyn o ansicrwydd a newid o’n blaenau, ond cyfleoedd gwych hefyd. Rydym yn bwriadu gweithio’n agos gyda’n myfyrwyr, staff, cynfyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill i greu a gweithredu cynllun newydd ar gyfer dyfodol yr Ysgol.

Ein cenhadaeth yw sbarduno dyfodol cynaliadwy a mwy disglair i Gymru, y DU a’r byd trwy ddatblygu arweinwyr ym maes peirianneg, creu technoleg arloesol, a chreu gwir effaith. Ein gweledigaeth yw bod yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol lewyrchus, cefnogol a chynhwysol mewn addysg peirianneg newydd, a darparu ymchwil effeithiol ac arloesi cyfrifol sy’n mynd i’r afael â’r heriau byd-eang allweddol.

O ran dysgu ac addysgu, ein blaenoriaeth yw parhau i arloesi dull newydd a chyffrous ar gyfer addysg israddedig ac ôl-raddedig. Bydd y dull hwn yn canolbwyntio ar ddysgu ar sail problemau, gwella creadigrwydd, rhyngddisgyblaeth a phrofiad dysgu.

Rydym yn gobeithio y bydd ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig gwell, sy’n fwy deniadol yn fyd-eang ac yn berthnasol yn lleol, yn denu myfyrwyr dawnus ac ysbrydoledig o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

Yn y dyfodol byddwn yn cryfhau ein sylfaen academaidd ac yn parhau i adeiladu dyfnder, gallu, a màs critigol yn ein pum maes ymchwil blaenoriaeth rhyngddisgyblaethol allweddol – Ynni Cynaliadwy, Gweithgynhyrchu Uwch, Seilwaith Sifil, Lled-ddargludyddion a Chymwysiadau Cyfansawdd, a Pheirianneg ar gyfer Iechyd – i alluogi prosiectau cydweithredol ar raddfa fawr sy’n cyflawni ystod eang o effaith.
Rydym yn bwriadu buddsoddi’n strategol i foderneiddio ein hadeiladau a’n seilwaith. Yn benodol, byddwn yn creu gwell lleoedd addysgu a dysgu, labordai ymchwil newydd a chyfleusterau gwell.

Rydym yn ddiolchgar i’n cynfyfyrwyr am eu cyfraniad gwerthfawr i’n cymuned peirianneg ac rydym yn gobeithio cynnal cysylltiad cryf â nhw yn y dyfodol.

Darganfyddwch fwy am wirfoddoli’ch amser i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwragedd a chyn-fyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd.