Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Adfer Coedwigoedd Arfordirol Kenya – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

16 Ebrill 2021

Mae grŵp o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cychwyn eu helusen eu hunain o’r enw’r Little Environmental Action Foundation (LEAF). Mae Freddie Harvey Williams (BSc 2014) yn ysgrifennu am ei daith tuag at gadwraeth a gweithio gyda’i ffrindiau o Gaerdydd.

Roedd Medi 2020 yn nodi 10 mlynedd ers i mi ddechrau fy ngradd israddedig yng Nghaerdydd. Roedd yn ddechrau cythryblus, ar ôl treulio tair blynedd yn y Chweched Dosbarth heb fawr o syniad o ba lwybrau gyrfa yr hoffwn eu dilyn. Treuliais yr wythnos gyntaf o ddarlithoedd rhagarweiniol mewn Radiograffeg. Nid y dewisiadau mwyaf hyblyg i rywun nad oedd yn gwybod beth oedd eisiau gwneud … ac nad oedd yn sicr ai Radiograffeg yr oeddynt eisiau ei wneud.  

Yr wythnos ganlynol, ar ôl trafod newid i gwrs arall gan fod lle gwag ar gael trwy’r system Clirio, dechreuais fy ngradd mewn Bioleg. O hyn ymlaen, roeddwn i’n teimlo bod gen i ryddid i fynd ar drywydd fy niddordebau personol. Er gwaethaf diddordeb gydol oes ym myd natur, nid oeddwn erioed wedi meddwl y byddai gyrfaoedd mewn cadwraeth, ecoleg ac ymchwil ar gael i mi.  

Yn ystod fy ail flwyddyn, cefais ysgoloriaeth i fynd ar gwrs maes ecoleg drofannol yn Borneo, a dyma pryd sylweddolais beth oeddwn am ei wneud. Rhoddodd y profiad bersbectif llawer ehangach i mi o faterion amgylcheddol byd-eang a’r penderfyniad i astudio ac amddiffyn y byd naturiol yn fwy nag erioed o’r blaen. 

Ar ôl gweld orangwtaniaid a hornylfinod yn Borneo, treuliais flwyddyne ar leoliad yng nghoedwigoedd yr Amazon Periw, lle’r oedd jagwarod, anacondas ac eryrod cribog yn byw – roeddwn yn ddigon ffodus i rannu’r profiad gyda dau o fy ffrindiau o’r cwrs. Ar ôl y brifysgol, cefais rôl cynorthwyydd ymchwil yng nghoedwigoedd cwmwl Andes Colombia ac es ymlaen i gynnal prosiect meistr yn ymchwilio i hela Cangarŵod Coed ymhlith llwythau Penrhyn Huon ym Mhapua Guinea Newydd. 

Mae’n swnio’n wych. Ond, yn ogystal â’r holl anturiaethau hynny, bu digon o gyfnodau hefyd yn gweithio mewn tafarndai, siopau coffi, ar safleoedd adeiladu a gwaith achlysurol fel addurnwr… yn bennaf ar gyfer ffrindiau a oedd eisoes yn prynu eu tai cyntaf. Roedd y rhagolygon yn y DU yn gystadleuol ac nid oedd llawer o gyfleoedd ar gael- mewn gwirionedd un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ymgeisio am swydd yn y DU oedd cyrraedd y ddau ymgeisydd diwethaf am swydd yn Birdlife International. Ni chefais y swydd, ond roedd yn llygedyn o obaith oedd mawr ei angen ar y pryd.  

Wedi hynny, cefais waith fel codwr arian ar gyfer elusen bywyd gwyllt ac yna fel ymgynghorydd ecolegol, nid fy rolau delfrydol, ond roeddwn yn falch o weithio i’r ddau sefydliad. Roeddwn yn teimlo o leiaf fy mod o fewn y maes gwaith cywir, ac yn ennill profiad tuag at y cam gyrfa nesaf. 

Trwy gydol yr holl brofiadau hyn mae ambell i beth wedi aros yn gyson: 1) fy awydd i amddiffyn y byd naturiol a’r amgylchedd 2) y bygythiadau real a chynyddol iawn i’r byd naturiol a’r amgylchedd, a 3) llawer o’r cyfeillgarwch agos a wnes i ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Ym mis Ebrill 2019 gwnes i a phum cynfyfyriwr arall o Brifysgol Caerdydd sefydlu’r Little Environmental Action Foundation (neu LEAF yn fyr), ynghyd ag wyth o gyd-amgylcheddwyr ifanc. Yn ein prosiect cyntaf, a gobeithiwn y bydd llawer mwy ledled y byd, rydym wedi dechrau adfer ardal o Goedwig Arfordirol Kenya mewn partneriaeth â Phrifysgol Pwani. Rydym yn sefydlu meithrinfa goed i helpu i warchod rhywogaethau coed endemig y rhanbarth, a allai ddiflannu erbyn 2050 heb ymyrraeth. 

Os oes un peth yn anad dim sy’n ofynnol yn y sector amgylcheddol, dyfalbarhad yw hynny. Gall cael grŵp o ffrindiau agos o’r un anian helpu llawer. Felly, dyma i 10 mlynedd arall o ddyfalbarhad ar gyfer degawd y Cenhedloedd Unedig o adfer ecosystem.  

Mae LEAF ar waith a gallwch ddilyn Freddie a’i gyfoedion ar Instagram i gael diweddariadau rheolaidd.  


Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.