Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Pennaeth Newydd Ysgol Deintyddiaeth

25 Mawrth 2021
Professor Nicola Innes

Ar ôl saith mis yn y swydd fel Pennaeth newydd yr Ysgol Deintyddiaeth, cawsom air gyda’r Athro Nicola Innes am ei phrofiad yn y rôl, ei blaenoriaethau a’i gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Cymerodd yr Athro Innes yr awenau oddi wrth benaethiaid dros dro’r ysgol, yr Athro Barbara Chadwick, a’r Athro Ivor Chestnutt, ar 1 Awst 2020. Ymunodd â’r Ysgol ar adeg pan nad oeddem yn gwybod yn iawn sut byddai COVID-19 yn effeithio ar flwyddyn academaidd 2020/21 ac mae wedi gweld yr Ysgol yn addasu ymhellach i’r heriau o ddysgu o bell a chyfyngiadau cenedlaethol y cyfnod clo.

Ymunodd yr Athro Innes â Chaerdydd ar ôl gadael ei rôl fel Athro Deintyddiaeth i Blant ym Mhrifysgol Dundee. Yn wreiddiol roedd wedi cymhwyso i fod yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig ym maes Llawdriniaeth Niwroleg, ond newidiodd lwybr gyrfa i faes Deintyddiaeth a bu’n ddeintydd teulu am saith mlynedd. Mae siŵr o fod yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith yn ymchwilio ac yn dysgu Techneg y Neuadd ar gyfer rheoli pydredd dannedd plant.

Daeth yr Athro Innes yn ddarlithydd amser llawn yn Dundee yn 2005, yn Arbenigwr Deintyddiaeth i Blant yn 2011, gan arwain Iechyd y Dannedd a’r Genau i Blant, a threuliodd bedair blynedd yn Ddeon Cyswllt dros Ddysgu ac Addysgu. Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw carioleg gymhwysol o hyd; sef dod o hyd i ffyrdd gwell o reoli pydredd dannedd, ond yn bennaf gwella gofal deintyddol i blant.

Sut brofiad ydych chi wedi’i gael yn ystod saith mis cyntaf y swydd?

Mae dechrau fel Pennaeth Ysgol Ddeintyddol newydd a symud i ddinas (a gwlad!) newydd yn heriol, heb os nac oni bai. Fodd bynnag, roedd dechrau yng nghanol pandemig COVID-19, pan nad yw wedi bod yn bosibl treulio amser i ddod i adnabod pobl na’r hyn sy’n digwydd fel arfer yn ystod y flwyddyn academaidd, wedi bod yn ddiddorol ac yn gyffrous!

Rwyf wedi cael y croeso cynhesaf gan bawb yn yr Ysgol. Er nad ydym wedi gallu cwrdd â phobl na chael y cyfarfodydd arferol wyneb yn wyneb, na chwrdd am goffi neu ddiodydd ar ôl gwaith, gallaf ddweud yn onest bod fy nghydweithwyr yn yr Ysgol, a thu hwnt i hynny, ym maes Deintyddol ehangach ar draws Cymru, wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o’r Ysgol yn syth. Rwy’n credu bod hyn yn dyst i ba mor gyfeillgar yw’r Cymry hefyd.

Pa argraff gafodd Caerdydd, y ddinas, arnoch chi?

Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael bod yn arholwr allanol i’r Ysgol, felly roeddwn eisoes wedi cael blas ar ddinas hyfryd Caerdydd. Rwyf wrth fy modd â’r naws o fod mewn dinas sy’n cynnig yr holl fanteision dinesig, diwylliant y caffis, bwytai gwych a’r parciau hyfryd ond yn dal yn ddigon agos i grwydro i gefn gwlad ac i’r traethau (os yw’r cyfnodau clo yn caniatáu hynny wrth gwrs!). Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth ac ni allaf aros i’r neuaddau cyngerdd agor. Dyna un o’r pethau rwy’n edrych ymlaen ato fwyaf, cael gweld sioe yn Neuadd Dewi Sant.

Sut brofiad fydd gweithio gyda chymuned y cynfyfyrwyr yn y dyfodol yn eich barn chi?

Rwy’n credu bod cymuned y cynfyfyrwyr yn gaffaeliad mawr i’r Ysgol a gallaf roi dwy enghraifft ddiweddar i ddangos yr hyn rwyf yn ei olygu wrth hynny.

Daw’r enghraifft gyntaf o’r cyfweliadau rydw i wedi bod yn eu cynnal gydag ymgeiswyr i’n rhaglenni. Yn ddiddorol, un o’r rhesymau rwy’n ei glywed amlaf pam mae pobl yn dymuno dod i Gaerdydd i astudio, p’un ai ar gyfer gradd israddedig, ôl-raddedig, deintyddiaeth, hylendid/therapi, yw eu bod yn adnabod myfyriwr graddedig o Gaerdydd a chafodd brofiad mor wych, ei fod am argymell Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd. Byddai’n wych gallu datblygu a hwyluso hyn ymhellach.

Daw’r ail enghraifft o’n cyfathrebiadau diweddar ag ymarferwyr deintyddol lleol i weld a allai unrhyw un ohonynt fod yn barod i ddod i mewn i’r ysgol a chael rhywfaint o hyfforddiant i gefnogi ein myfyrwyr. Byddai hyn yn ei dro yn ein helpu i staffio clinigau ychwanegol er mwyn caniatáu i fyfyrwyr gael mwy o gyswllt â chleifion i wneud iawn am yr amser a gollwyd oherwydd COVID.

Cawsom ymateb hynod gadarnhaol a’r thema gyson oedd bod ymarferwyr/cynfyfyrwyr yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl a chefnogi ein darpar fyfyrwyr yn y ffordd yr oedden nhw’n teimlo eu bod wedi cael eu cefnogi.

Rwy’n credu bod y teimlad hwn o berthyn yn rhoi sylfaen gref i ni ar gyfer ymgysylltu mwy â’n gilydd ac rydym yn bwriadu dod o hyd i’r gweithgareddau sydd o ddiddordeb i’n cynfyfyrwyr o ran cefnogi’r Ysgol a sut y gallai’r Ysgol gefnogi ein cynfyfyrwyr.

Mae’n ymddangos yn debygol yn yr amseroedd “llai traddodiadol” hyn, bod ffyrdd da o weithio o bell er mwyn meithrin y gydberthynas â’n cyn-fyfyrwyr fel ein llysgenhadon lleol a byd-eang. Gallai hyn fod yn rhywbeth mor sylfaenol â chynnwys ein cynfyfyrwyr wrth lunio rhaglenni mentoriaeth i fyfyrwyr, cael darlithoedd gwestai rhyngwladol ac ati – mae cymaint o gyfleoedd!

Beth yw eich gobeithion a’ch blaenoriaethau i’r Ysgol ar gyfer y dyfodol?

Mae gwaith ymchwil yr Ysgol eisoes yn cael effaith gadarnhaol yn lleol, ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Rydyn ni’n mynd i barhau â hynny, wrth gwrs, ond hefyd edrych ar ffyrdd eraill o fynd i’r afael â chwestiynau sylfaenol ar gyfer iechyd deintyddol a geneuol a manteisio ar ein cryfderau.

Ein prif bwrpas yw hyfforddi ein deintyddion ar gyfer y dyfodol ac rydym yn edrych yn agos ar yr amgylchedd allanol ac i ble mae ein myfyrwyr yn mynd ar ôl graddio, er mwyn sicrhau bod ein rhaglenni yn eu paratoi ar gyfer y byd pan fyddant yn cwblhau eu hastudiaethau gyda ni. Un o’n dyheadau mawr yw datblygu’r Ysgol mewn gwahanol ffyrdd – felly mwy yn y man!