Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Rhwydweithio i adeiladu busnes llwyddiannus – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

24 Mawrth 2021

Cheryl Luzet (BA 1999), yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol asiantaeth farchnata ddigidol Wagada. Mae ei thîm yn helpu cwmnïau ledled y byd i ddatblygu a chreu cysylltiadau. Enwodd Small Business Britain hi yn un o 100 o entrepreneuriaid benywaidd mwyaf ysbrydoledig y DU. Yma, mae Cheryl yn rhannu eu hawgrymiadau defnyddiol ar rwydweithio ar gyfer pan fydd digwyddiadau wyneb yn wyneb yn dychwelyd. 

Sefydlais yr asiantaeth farchnata ddigidol, Wagada, yn 2011. Dechreuodd fy musnes gyda’r bwriad syml i weithio’n hyblyg o gartref ar ôl rhoi genedigaeth i fy ail blentyn. Heb unrhyw gefndir mewn rhedeg busnes, na phrofiad ym maes gwerthu, penderfynais ddechrau rhwydweithio busnes er mwyn dod o hyd i gleientiaid ar gyfer fy menter newydd. Darganfyddais ffordd lwyddiannus o gysylltu â phobl, gwneud cysylltiadau a dangos fy arbenigedd.

Fy mhrofiad blaenorol o rwydweithio oedd sefyll yn nerfus yng nghefn ystafell fawr gyda gwydraid o win, tra bod pawb arall yn edrych fel eu bod yn adnabod ei gilydd. Ond dysgais yn fuan sut i ymddwyn yn yr ystafell, gan wneud cysylltiadau a datblygu ffordd o gyflwyno fy musnes i’r bobl a allai fy helpu i gyflawni nodau’r busnes.

I lawer o bobl, mae meddwl am gerdded i mewn i ystafell llawn dieithriaid a dechrau sgwrs yn eu dychryn, ond gan fod busnes yn tyfu ar sail perthnasoedd, mae’n ffordd hanfodol o ddatblygu eich brand a dangos eich arbenigedd. Mae pobl yn prynu gan bobl, a bydd cysylltiadau busnes yn argymell eich busnes i eraill o ganlyniad i gwrdd â chi mewn digwyddiad rhwydweithio, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael profiad ohono.

Ceisiwch gael cyfeiriadau, yn hytrach na gwerthu i’r ystafell

Pan fyddwch yn rhwydweithio, y syniad yw meithrin cysylltiadau â phobl a fydd yn cyfeirio at eich busnes i bobl eraill. Mae’n annhebygol y byddwch yn cwrdd â rhywun mewn digwyddiad rhwydweithio sydd am brynu’r hyn sydd gennych i’w gynnig, felly canolbwyntiwch ar gael cyfeiriadau. Yr hyn sy’n wych am gyfeiriadau yw eu bod yn fwy tebygol o arwain at fusnes – yn yr un modd ag os yw cymydog yn argymell trydanwr, rydych yn fwy tebygol o’i ddefnyddio na’r trydanwr y daethoch o hyd iddo ar-lein.

Gwnewch eich gwaith ymchwil

Cymerwch ofal wrth ddewis y digwyddiadau rhwydweithio yr ydych am fynd iddynt. Er mwyn meithrin perthnasoedd cynhyrchiol, bydd angen i chi gwrdd â’r un bobl fwy nag unwaith, felly dewiswch ddetholiad bach o ddigwyddiadau a buddsoddwch amser yn mynd iddynt yn rheolaidd, yn hytrach na mynd i bob digwyddiad unwaith.

Meddyliwch am y cwsmer rydych yn ei dargedu – pwy ydyn nhw a ble ydych chi’n debygol o gwrdd â nhw? Mae rhai digwyddiadau yn denu busnesau bach iawn, ac eraill yn denu sefydliadau mwy, felly dewiswch y digwyddiad sy’n cyd-fynd â phroffil eich cwsmer.

Peidiwch â gwerthu – gwnewch ffrindiau

Does dim byd gwaeth na chael rhywun yn ceisio gwerthu i chi mewn digwyddiad rhwydweithio. Meddyliwch am rwydweithio fel ffordd o wneud ffrindiau a datblygu perthnasoedd – dod i adnabod pobl fel hyn sy’n arwain at gyfeiriadau. Nid yw hynny’n golygu na allwch siarad am yr hyn rydych yn ei gynnig, byddwn i’n argymell eich bod yn enwi cwmnïau eraill rydych wedi gweithio gyda nhw ac wedi’u helpu wrth sgwrsio, yn ogystal â sôn am rai straeon llwyddiant. Rydych am i bobl adael gydag argraff gref o’ch arbenigedd a’ch gwybodaeth, yn ogystal â’ch moesau busnes.

Dylech gynnal sgyrsiau a chyflwyniadau

Os cewch gyfle i wneud cyflwyniad mewn digwyddiad rhwydweithio – ewch amdani! Dyma’ch cyfle i ddweud wrth bawb beth rydych yn ei wneud ac i ddangos eich arbenigedd.

Cynhaliwch gyfarfodydd un i un

Mae datblygu perthnasoedd cryf yn cymryd amser – felly os ydych yn cwrdd â rhywun rydych y dod ymlaen â nhw, gwahoddwch nhw i gyfarfod un i un. Gofynnwch iddynt fynd am goffi lle gallwch siarad mwy am sut y gallwch helpu’ch gilydd. Sicrhewch eich bod yn gofyn iddynt gyda phwy yr hoffent weithio.

Helpwch eraill

Os ydych yn helpu pobl, byddant yn debygol o fod am eich helpu chi hefyd. Awgrymwch bobl efallai byddai eich cyswllt newydd yn hoffi cwrdd â nhw a chyflwynwch nhw drwy ebost.

Gwrandewch


Sicrhewch eich bod yn defnyddio’ch amser mewn digwyddiad rhwydweithio i wrando ar eraill – mae hyn yn gwneud i bobl deimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Gall siarad yn ddi-baid fynd ar nerfau’r unigolyn ac ni fydd hyn yn dechrau cydberthynas hyfryd.

Gwnewch gysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol


Cadwch ddiddordeb eich cysylltiadau newydd drwy wneud cysylltiad ac ymgysylltu â nhw ar y cyfryngau cymdeithasol rhwng cyfarfodydd. Rhaid cysylltu ar LinkedIn er mwyn i chi allu parhau â’r berthynas, drwy hoffi ac ymateb i’w negeseuon, fel eich bod ar flaen eu meddwl. Cofiwch edrych ar fannau rhwydweithio digidol eraill fel Cysylltu Caerdydd, platfform rhwydweithio cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, lle gallwch gysylltu â graddedigion eraill o bedwar ban y byd.

Mae rhwydweithio busnes wedi caniatáu i mi feithrin fy musnes, gwneud fy mrand yn fwy gweledol a dangos ein harbenigedd. Y cysylltiadau rwyf wedi’u gwneud drwy rwydweithio sydd i’r gyfrif am 70% o fusnes Wagada ac yn sicr maent wedi cyfrannu at lwyddiant fy nghwmni.


Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.