Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Pam roedd 2020 yn gyfnod pwysig i epidemiolegwyr

17 Mawrth 2021

Aeth bywyd proffesiynol a phersonol Adetoun Mustapha (MPH 1999) yn Nigeria yn brysur iawn pan darodd COVID-19. Cafodd ei hun mewn sefyllfa i helpu i ysgogi newid go iawn a brwydro yn erbyn newyddion ffug o amgylch iechyd y cyhoedd. Yma, mae’n disgrifio ei phrofiad o lywio ffordd newydd o weithio a byw, astudio lledaeniad COVID-19, a siarad allan am faterion cyfiawnder amgylcheddol. 

Yn 2020 dechreuais swydd newydd, ac, am y rheswm hwn, roeddwn yn rhagweld y byddai’r flwyddyn yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, roedd yr her i’m bywyd proffesiynol a phersonol oherwydd COVID-19 y tu hwnt i’r hyn y gallwn fod wedi’i ddychmygu.

Roedd bod yn epidemiolegydd yn 2020 yn golygu cymryd rhan mewn gweithgareddau y tu hwnt i’m disgrifiad swydd arferol a chydweithio ar draws disgyblaethau i hybu iechyd y cyhoedd. Daeth cyfeirio pobl at ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am sefyllfa COVID-19 mewn grwpiau WhatsApp proffesiynol a chymdeithasol yn rhan o fy nhrefn ddyddiol i ddatgymalu’r newyddion ffug a ddaeth yn rhemp ar gyfryngau cymdeithasol yn Nigeria.

Arweiniodd hyn at hybu iechyd ymhlith grwpiau ffocws gan ddefnyddio data gan ddangosfyrddau’r llywodraeth a Sefydliad Iechyd y Byd/Johns Hopkins COVID-19, gan eirioli beth all pobl ei wneud i gadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol.

Amlygodd pandemig COVID-19 heriau ar benderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd yn Nigeria. Mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn ymwneud â’r sector economi anffurfiol, fel gwerthu ar y stryd, ac maent yn dibynnu ar gyflog dyddiol; heb gynllun lles cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, roedd yn rhaid iddynt droi at deulu a ffrindiau i gael eu cynnal. Roedd, felly, yn fraint imi rannu ag eraill a chefnogi dosbarthu eitemau hanfodol i bobl agored i niwed yn y gymuned.

Gwelais y broblem foesegol o ran y cyfnod clo ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd a’r angen i gadw’r economi i redeg i arbed swyddi, y dewis anodd rhwng marw o bosibl o ddod i gysylltiad â COVID-19 yn erbyn llwgu. Oherwydd y cyfnod clo llwyr o tua wyth wythnos, roedd yn rhaid i rai pobl a fyddai fel arall wedi bod yn gweithio aros mewn amodau tai gorlawn.

Arweiniodd trosoli cyfle i ddarparu cyfrif ‘ar lawr gwlad’ o’r ymateb i COVID-19 yn Nigeria, at gydweithrediad trawsddisgyblaethol gyda firolegwyr i gyhoeddi sylwebaeth mewn cyfnodolyn rhyngwladol. Gan weithio gyda gwyddonwyr iechyd yr amgylchedd eraill, cynorthwyais hefyd i ddylunio a chynnal arolwg ar-lein i brofi effeithiolrwydd ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ar COVID-19 yn Nigeria. Y nod oedd darparu gwybodaeth ar gyfer mobileiddio cymunedol, gan atal amlygiad pellach. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno cyfryngau cymdeithasol wedi’u targedu am ymddygiadau ataliol, rheoli symptomau, a ble i gael mynediad at ofal.

Fel cadeirydd cangen y Gymdeithas Ryngwladol Epidemioleg Amgylcheddol (ISEE) Affrica, ysgrifennais sawl nodyn cyfathrebu i aelodau i reoli lles cyffredinol gan gynnwys iechyd meddwl ac i hyrwyddo mwy o gyfathrebu â phobl trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac electronig ar anterth y cyfnod clo COVID-19 ar draws Affrica.

Mae arwain yn ystod yr argyfwng yn gofyn am arloesi i ennyn diddordeb pobl. Fe wnaethon ni gynnal y gweminar cyntaf yn y cangen; roedd ar fater amserol cyhoeddi mwy o bapurau o Affrica mewn cyfnodolion rhyngwladol. Yn dilyn llwyddiant ysgubol, denodd ail weminar a gynhaliwyd ar gyfleoedd cyllido ar gyfer ymchwil iechyd yr amgylchedd yn Affrica dros 250 o bobl. Fe wnaethon ni helpu aelodau i addasu i’r newid o’r cyfarfod ISEE blynyddol corfforol i gynhadledd rithwir. Mae niferoedd uchel o gyfranogwyr y gynhadledd ac adborth ledled Affrica gan bobl newydd ar sut mae’r gynhadledd yn cyfrannu at eu datblygiad proffesiynol yn galonogol.

Yn dilyn marwolaeth George Floyd ym Minneapolis, Unol Daleithiau, ym mis Mehefin 2020 a’r mudiad byd-eang yn herio hiliaeth gwrth-Ddu, gallwn gysylltu â’r angen am gyfiawnder hiliol. Ysgrifennais erthyglau byr ar fy liwt fy hun ynglŷn â sut mae amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i’r gymdeithas.

Myfyriais ar fy mhrofiad personol fel ymchwilydd, trafodais gyflyru trefedigaethol iechyd byd-eang, a chynigiais awgrymiadau i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol mewn trafodaeth banel ar Hiliaeth Strwythurol ac Iechyd yr Amgylchedd Poblogaeth yng nghynhadledd rithwir ISEE 2020.

Mae llywio’r heriau o weithio gartref ac addasu i’r arfer newydd o fynychu gwasanaethau eglwysig a digwyddiadau cymdeithasol ar-lein wedi bod yn ddatblygiadau diddorol i mi.

Gall bod â’r arbenigedd i astudio lledaeniad COVID-19 yn y boblogaeth gyfrannu’n sylweddol at leihau effeithiau’r pandemig ar iechyd y cyhoedd. Mae gwneud hyn a mynd i’r afael â materion cyfiawnder amgylcheddol (Black Lives Matter) yn gwneud 2020 yn foment ddiffiniol i epidemiolegwyr.

Cysylltwch â Dr Adetoun Mustapha ar LinkedIn a Cysylltu Caerdydd, ein platfform rhwydweithio unigryw i Brifysgol Caerdydd.