Skip to main content

I Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Sut gwnaeth gwaith caled fy rhieni fy ysbrydoli i lwyddo – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr

18 Chwefror 2021

Mae Jackie Yip (BA 2018) wedi teithio’r byd ac wedi ymdrwytho ym mhob cyfle sydd wedi dod ei ffordd. Gan ddefnyddio’r agwedd at waith a ysbrydolodd ei rhieni ynddi, ynghyd â’r gefnogaeth ar gael gan Brifysgol Caerdydd, llenwodd Jackie ychydig flynyddoedd byr â llond oes o brofiadau.  

Ni aeth fy rhieni i’r brifysgol erioed ac nid ydw i’n credu i fy nhad orffen yr ysgol.  

Fe gyrhaeddon nhw Loegr fel mewnfudwyr o Hong Kong ar adeg pan oedd siopau bwyd parod Tsieineaidd yn ffynnu, felly roedden nhw’n rhentu tecawê bach ar Heol Gloucester ym Mryste ac yn byw yn y fflat un ystafell wely uwch ei ben.  

Pan anwyd fy efaill a minnau, rwy’n cofio cysgu gyda fy chwaer ar wely dwbl, fy mam yn cysgu ar ei waelod, a fy nhad yn cysgu ar wely sengl yn yr un ystafell. Byddent yn gweithio saith diwrnod yr wythnos i wneud bywoliaeth. Fel plant, dechreuon ni helpu ein rhieni yn y siop pan oedden ni tua naw oed, gan gymryd archebion ac ysgubo lloriau. Mae fy etheg waith i gyd yn dibynnu ar y blynyddoedd hynny a dreuliais yn eu gwylio a’u helpu.  

O ran ymgeisio i astudio cerddoriaeth yn y brifysgol, nid oedd gan fy rhieni unrhyw ddealltwriaeth o system prifysgolion y DU a chawson nhw eu syfrdanu gan y gweithdrefnau ymgeisio a chost astudio. Ni allen nhw hyd yn oed fynd â mi i’m clyweliadau oherwydd bod yn rhaid iddynt weithio.  

Rwy’n cofio cael sgwrs anodd â nhw ynglŷn â sut roeddem ni’n mynd i allu fforddio’r cyfan. Fe wnaethon ni ymdrechu gyda’r ffurflenni cyllid myfyrwyr gan nad Saesneg oedd eu hiaith gyntaf ac nid oeddwn i, gan fy mod yn newydd i hyn, yn gwybod sut i symud ymlaen. Fe lwyddon ni i’w cwblhau yn y diwedd ac roeddwn i’n gallu sicrhau benthyciad, ond fe wnes i hefyd gymryd ail swydd i sicrhau fy mod i’n gallu ariannu fy astudiaethau heb fod yn faich ar fy rhieni. Roeddwn i’n gweithio chwe diwrnod yr wythnos yn yr haf ac yna es i’n syth i weithio yn y tecawê gyda’r nos.  

Talodd yr holl ymdrech hon ar ei ganfed! Fe ges i le ym Mhrifysgol Caerdydd, a oedd yn wych oherwydd mai rhan o apêl Caerdydd oedd y fwrsariaeth y gwnes i gymhwyso amdani. Sicrheais £2000 i dalu rhai o fy nghostau byw am y tair blynedd nesaf. Gwnaeth hyn gymaint o wahaniaeth ac roedd yn golygu fy mod yn gallu talu fy rhent a chanolbwyntio’n llwyr ar fy astudiaethau. Caniataodd hyn imi fachu ar bob cyfle.  

Diolch i’r Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr, darganfyddais fod yr adran Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig interniaethau wedi’u hariannu a chyfleoedd i astudio dramor. Llwyddais i yn fy nghlyweliad ar gyfer Cerddorfa’r Brifysgol a theithiais i ledled Ewrop yn ystod haf fy mlwyddyn gyntaf a’m ail flwyddyn i berfformio – a hyn wedi’i ariannu’n llawn gan y Brifysgol. Llwyddais hefyd i sicrhau interniaeth gystadleuol yn Hong Kong yn ystod haf fy mlwyddyn gyntaf, a ariannwyd hefyd gan y Brifysgol. Dychwelais o Ewrop a hedfan yn syth i Hong Kong am fis! 

Rhyfeddodd fy rhieni fy mod wedi gallu gwneud hyn i gyd trwy’r Brifysgol ac nid oedd yn rhaid iddynt boeni am sut y byddwn yn fforddio’r cyfleoedd hyn. Yn fy nhrydedd flwyddyn, cefnogodd Cyfleoedd Byd-eang fy mlwyddyn dramor i Helsinki, y Ffindir lle cefais astudio cerddoriaeth yn un o’r prifysgolion mwyaf mawreddog yn y byd. Fe wnes i hyd yn oed ganu’r piano i Arlywydd Gwlad yr Iâ! Tra roeddwn i yno, cefais fy nanfon ar awyren i Tsieina ar gyfer ymddangosiad cyntaf Cerddorfa’r Brifysgol yn Xiamen.   

Yr eisin ar y gacen oedd pan wnes i redeg yn llwyddiannus yn etholiadau Undeb y Myfyrwyr yn fy mlwyddyn olaf a sicrhau swydd i raddedigion fel Is-lywydd Addysg ac Arlywydd Undeb y Myfyrwyr y flwyddyn ganlynol.  

Er ei fod yn swnio fel ychydig flynyddoedd anhygoel o brysur, byddwn i’n neilltuo amser o hyd i fynd adref i helpu fy rhieni. Roedd y fwrsariaeth a’r gefnogaeth a gefais yn golygu fy mod yn rhydd i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn heb orfod poeni.  

Pan darodd y pandemig COVID-19, nid oedd fy rhieni yn gallu gweithio yn y tecawê. Roedd hyn yn golygu nad oedd ganddynt incwm ac ni fyddent wedi bod mewn sefyllfa i’m helpu pe bai angen cymorth arnaf.  

Nid yw llawer o fy ffrindiau neu fyfyrwyr presennol yn gallu cael hyd i waith haf na swyddi ar hyn o bryd ac mae eu hamser yn y Brifysgol wedi’i darfu’n sylweddol. Gwnaeth y gefnogaeth a gefais newid fy mywyd ac mae’n dal i fynd, hyd yn oed yn yr amseroedd mwyaf heriol, ac mae’n gwneud fy rhieni a minnau mor falch inni ddewis Prifysgol Caerdydd.

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.