Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Dod yn Ffinnaidd a byw yn yr UE yn ystod Brexit – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

25 Ionawr 2021

Gweithiodd Chloe Wells (BA 2007) i Gyngor Caerdydd ar ôl graddio cyn ymfudo i’r Ffindir ar ddiwedd 2010 lle enillodd ei gradd Meistr Gwyddor Gymdeithasol a’i PhD. Yma, mae Chloe yn siarad am ei hatgofion ym Mhrifysgol Caerdydd, dod yn ddinesydd Prydeinig-Ffinnaidd, a byw yn yr UE yn ystod Brexit.

Roeddwn i’n byw yng Nghaerdydd am chwe blynedd, tair o’r rheiny fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Graddiais gyda BA Anrh mewn Hanes yr Henfyd yn 2007 ac yna gweithiais fel asiant gwasanaeth cwsmeriaid i Gyngor Caerdydd.

Fe wnes i wir fwynhau’r bywyd cymdeithasol a gefais fel myfyriwr: llawer o nosweithiau allan gwych a phartïon gwisg ffansi! Fe wnes i hefyd fwynhau bod yn aelod o Gymdeithas Harry Potter a oedd newydd ei chreu bryd hynny, ac rwy’n falch ei bod yn dal i fynd. Yn ystod fy nghyfnod yng Nghaerdydd, gwelais  ‘St. David’s 2’ a’r llyfrgell newydd yn cael eu hadeiladu – newidiodd y ddinas gymaint yn ystod yr ychydig flynyddoedd hynny. Fy hoff ran o Gaerdydd oedd y Bae; roedd bob amser yn teimlo fel cymryd gwyliau bach i fynd yno a mynd am dro. Dyna bryd roedd cyfres BBC Torchwood yn cael ei ffilmio, felly roedd hynny’n gwneud mynd i’r Bae yn fwy cyffrous.

Ar ddiwedd 2010, penderfynais ymfudo i’r Ffindir. Roeddwn i wedi ymweld sawl gwaith ar wyliau gyda fy chwaer, gan gynnwys yn ystod y gaeaf yn llawn eira, felly roedd gen i ryw syniad o sut beth fyddai byw yno. Roeddwn hefyd wedi darllen llawer am hanes y Ffindir yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac wedi ymddangos ar Mastermind (cyfres 2010, pennod 19)ar y teledu gyda ‘Winter War’ y Ffindir fel fy mhwnc arbenigol. Yn ystod fy ngwyliau yn Y Ffindir, syrthiais mewn cariad â natur y lle, a’r heddwch a’r tawelwch yno. ‘Cliciodd’ rhywbeth, a phenderfynais mai dyma ble ddylwn i fyw. Ar ôl 10 mlynedd o fyw yma mae’r ‘cyfnod mis mêl’ ar ben yn sicr ond rwy’n dal i werthfawrogi’r pethau da am y Ffindir – er fy mod weithiau’n colli bywiogrwydd lleoedd eraill! Mae diffyg golau dydd yn y gaeaf (ar hyn o bryd dim ond tua 5 awr o olau dydd sydd gennym) a’r ‘nosweithiau gwyn’ yn yr haf yn cymryd peth amser i ddod i arfer. Mae’r haul hanner nos yn brydferth, ond gallwch chi golli trac ar amser yn hawdd gyda’r nos gan nad yw byth yn tywyllu. Yn y gaeaf mae’n anodd dod o hyd i egni, ond mae fitamin D a chysgu am sbel yn helpu!

Roedd symud i’r Ffindir i weithio fel au pair yn golygu fy mod i’n byw gyda theulu o’r Ffindir, felly doeddwn i ddim ‘allan ar fy mhen fy hun.’ Gweithiais fel au pair gyda dau deulu gwahanol, a byw gyda nhw, ac aeth y ddau deulu â mi gyda nhw wrth deithio o amgylch y Ffindir. Cefais gwrdd â Siôn Corn yn Rovaniemi ar Gylch yr Arctig, ac ymweld â hen feysydd brwydrau WWII yn nwyrain y Ffindir. Yn ystod fy nghyfnod fel au pair, dysgais hefyd sut i sgïo (yn wael!), sglefrio iâ (yn wael!) a phalu eira (yn eithaf da!).

Mae dysgu Ffinneg wedi bod yn heriol. Mae Ffinneg yn ‘wahanol’ iawn i ieithoedd eraill Ewrop (heblaw am Estoneg); mae’n debyg mai’r unig air Ffinneg a ddefnyddir yn Gymraeg a Saesneg yw ‘sauna’ (‘sawna’ yn Gymraeg). I mi, bydd dysgu Ffinneg yn brofiad gydol oes, ac mae’r ffaith fy mod wedi siarad Saesneg wrth fy ngwaith bob dydd, ac wedi astudio drwy’r Saesneg, wedi bod yn her. Fodd bynnag, llwyddais i fod â sgiliau iaith Ffinneg ddigon da i wneud cais am ddinasyddiaeth. Y dewis arall yma i gael dinasyddiaeth yw pasio arholiad iaith Swedeg. Fel Cymru, mae’r Ffindir yn wlad ddwyieithog yn swyddogol, er mai dim ond 5% o bobl sy’n siarad Swedeg fel eu hiaith gyntaf. Cydnabyddir iaith arwyddion Ffinneg, Karelian, yr ieithoedd Sámi, a Romani yn ieithoedd lleiafrifol.

Ar ôl gweithio fel au pair, cefais fy nerbyn i astudio ar raglen MA Ryngwladol Croesi Ffiniau ym Mhrifysgol Dwyrain y Ffindir, a Daearyddiaeth Ddynol oedd fy mhrif bwnc.

Fy mhwnc ymchwil oedd dinas ganoloesol Vyborg, Rwsia a oedd ‘ail ddinas y Ffindir’ cyn yr Ail Ryfel Byd. Gweithiais gyda phobl ifanc yn y Ffindir i ddarganfod pa ystyron ac atgofion y maent yn eu cysylltu â’r lle Ffinnaidd ‘coll’ hwn. Fe wnes i amddiffyn fy PhD ym mis Tachwedd 2020 o flaen cynulleidfa fach, yn gwisgo mygydau, a chafodd hyn ei ffrydio ar-lein.

Ar ôl pasio’r arholiad iaith Ffinneg yn 2015 a byw yn y Ffindir yn ddigon hir, cyflwynais gais am ddinasyddiaeth y Ffindir, gafodd ei gymeradwyo yn 2017, canmlwyddiant y Ffindir. Erbyn hyn, rydw i’n ddinesydd Prydeinig-Ffinneg deuol. Rwy’n ddiolchgar bob dydd am fy ninasyddiaeth Ffinnaidd gan fod Brexit yn gwneud bywyd i ddinasyddion Prydain yn yr UE yn ansicr iawn. Yma yn y Ffindir, mae angen i holl ddinasyddion Prydain ail-ymgeisio am breswyliad a thalu am gardiau adnabod biometreg. Bydd Prydeinwyr hefyd yn cael eu ‘cloi i mewn’ i fyw yn y Ffindir tra gall rhywun fel fi barhau i ddewis symud i wlad arall yn yr UE heb lawer o rwystrau. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn a hefyd yn ddig iawn bod y rhyddid i symud hwn wedi’i dynnu oddi wrth ddinasyddion Prydain yn yr UE, llawer ohonynt yn methu â phleidleisio yn refferendwm yr UE oherwydd eu bod wedi byw dramor am dros 15 mlynedd. Fel y byddwch o bosib yn sylwi, mae Brexit yn bwnc rwy’n angerddol amdano: efallai y dylai fod gan fy ngyrfa ôl-PhD rywbeth i’w wneud ag ymchwilio i fywydau Prydeinwyr yn yr UE!

Er cof am Laura Walden (Maggs gynt) (BMus 2007) 1985 – 2019

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.