Skip to main content

DonateNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Ein gwirfoddolwyr – Scott Bowers

16 Rhagfyr 2020

Mae Scott Bowers (BA 2003, PGDip 2004) yn wirfoddolwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi bod yn llysgennad cynfyfyrwyr, yn aelod o Lys Prifysgol Caerdydd ac yn fentor myfyrwyr. Prif swyddog materion corfforaethol i un o brif fusnesau chwaraeon y DU, The Jockey Club, yw ei rôl broffesiynol, ac yn ddiweddar mae wedi dod yn dad. Darllenwch ymlaen i weld pam mae’n wirfoddolwr mor frwdfrydig ac ymroddgar.  

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am y gwaith gwirfoddol rydych chi wedi’i wneud i’r Brifysgol?  

Fy rôl wirfoddoli gyntaf i Brifysgol Caerdydd oedd fel llysgennad cynfyfyrwyr, sy’n cynnwys mynd i Ddiwrnodau Agored ar adeg sy’n gweddu orau i chi a’ch amserlen. Mae’n ddefnyddiol i ddarpar fyfyrwyr (a’u rhieni!) glywed am brofiad Caerdydd gan bobl sydd wedi byw yma ac sy’n medru dangos y gwahanol bethau y gallwch eu gwneud yma. 

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig modiwlau cyflogadwyedd i helpu myfyrwyr i sicrhau’r swydd gyntaf honno yn eu dewis faes. Roeddwn yn falch o chwarae rôl fel eu cyflogwr cyntaf iddynt a’u paratoi ar gyfer byd gwaith. 

Yn dilyn hynny, gofynnwyd i mi ddod yn Aelod o’r Llys, sy’n rhan o drefn lywodraethu’r Brifysgol, gyda gwahanol bobl yn cynrychioli gwahanol feysydd a buddiannau, yn cwrdd ag arweinwyr y Brifysgol a chael y cyfle i adolygu eu strategaeth a’u dull yn adeiladol.  

A group of Cardiff University post graduates (2003-2004) outdoors.

Rydw i hefyd wedi bod yn falch o gynnig cyngor anffurfiol i fyfyrwyr a graddedigion yr Ysgol Newyddiaduraeth sy’n ystyried dilyn gyrfaoedd ym maes newyddiaduraeth neu gyfathrebu ac yn chwilio am gyngor, profiad gwaith a chyflwyniadau lle bo hynny’n bosibl. Yn wir, fe wnaeth aelod o fy nhîm raddio yng Nghaerdydd. Cafodd ei swydd trwy wneud profiad gwaith gyda ni a gan fod ganddi’r sgiliau roedd eu hangen arnom. 

Ym mhob achos, rwyf wedi teimlo bod cymryd rhan wedi helpu pobl – fel y cefais i gymorth gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol pan oedden yn fyfyriwr yno.  

Beth wnaeth eich ysbrydoli i gynnig eich amser i gefnogi’r Brifysgol?

Cysylltodd aelod o dîm y Brifysgol ychydig yn ôl. Roedd yn fraint cael gwahoddiad, ac mae’n deg dweud fod Caerdydd wedi diffinio pob agwedd ar fy mywyd yn llwyr. Cwrddais â fy ngwraig wrth astudio felly mae wedi dylanwadau arnaf yn broffesiynol ac yn bersonol! Roeddwn i’n teimlo ymdeimlad cryf o ymrwymiad i’r Brifysgol a’r ddinas am yr holl amseroedd hapus rydw i wedi’u cael yma.

Sut mae gwirfoddoli wedi bod o fudd i chi yn bersonol ac yn broffesiynol? 

 
I fod yn onest, rydw i wedi mwynhau’r gwahanol brofiadau. Gallaf weld bod budd mawr i ehangu eich rhwydwaith proffesiynol a phersonol. Rwy’n cael teimlad o werth wrth helpu mewn unrhyw ffordd, yn enwedig wrth roi cefnogaeth i bobl ifanc mewn meysydd nad ydyn nhw wedi’u profi eto. Mae hefyd yn braf ychwanegu pethau gwerth chweil at fy CV yng Nghaerdydd ar gyfer y dyfodol, gan fy mod yn aml yn rhannu fy amser yn broffesiynol rhwng Llundain a Chaerdydd. 

Beth yw eich hoff foment fel gwirfoddolwr hyd yma? 

 
Ar adegau penodol, y teimlad hynny o fod wedi helpu person, ond mewn gwirionedd y peth gorau yw dod i adnabod rhai o dîm Prifysgol Caerdydd yn yr amrywiol ddigwyddiadau rydw i wedi bod yn rhan ohonynt. Mae’n grŵp hynod gyfeillgar ac ymroddgar o bobl, ac mae’r Brifysgol a’r bobl y gall eu helpu yn golygu llawer iawn iddynt. Chwarae teg iddyn nhw! 

Beth wnaeth i chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd? 

Caerdydd oedd yn cynnig y cwrs o’r statws uchaf yn y DU yn y pwnc a ddewisais. Fe wnaeth yr adran argraff dda arnaf ac fe gwympais mewn cariad â’r ddinas pan ymwelais ar Ddiwrnod Agored. Cefais fy nhwyllo wrth gwrs oherwydd ei bod yn heulog! Roeddwn i’n meddwl bod y cyfleusterau’n ardderchog, roedd cymeriad gan yr adeiladau gwyn yn y Ganolfan Ddinesig, ac roeddwn i wrth fy modd â’r safle yn agos at ganol y ddinas.  

Beth yw eich atgofion gorau o Brifysgol Caerdydd a’r ddinas? 

Scott and his wife at Cardiff University together

Fel myfyriwr roedd yn wych dod i adnabod cynifer o bobl. Mae fy ngwraig a’r gwas priodas yn ddwy enghraifft. Mae’n gymuned groesawgar ac rydych yn gwybod y gallwch ddweud helo wrth bobl. Roedd symud i Lundain ar ôl y Brifysgol yn newid byd! Mae cymaint o bethau eraill, fel ymuno â chlwb rygbi lleol a phrofi ochr hollol wahanol i ddiwylliant a gwlad Cymru. Mae gen i atgofion melys hefyd o fwyta allan ym mwytai a chaffis Pontcanna, gweithio ar liniadur yng nghaffi hamddenol Shot in the Dark oedd yn arfer bod ar Heol y Plwca, ac yn breuddwydio efallai y medrwn i ysgrifennu llyfrau mewn siopau coffi fel bywolaeth… 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?  

Scott Bower's wife and new daughter at the beach

Cyn y pandemig, roeddwn yn gwylio pob math o chwaraeon byw, ac yn mwynhau ffilmiau yn sinema Everyman ym Mae Caerdydd, a gweld perfformiadau yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru a Chanolfan y Mileniwm. Ond ym mis Ebrill, yn ystod y ‘cyfnod clo’, cafodd fy ngwraig Sara a minnau ein plentyn cyntaf, merch o’r enw Aria. Felly, mae cael babi a llawer o waith yn ystod y pandemig, yn golygu nad oes amser sbâr gen i bellach i gael hobi! Mae’n braf mynd â hi am dro o amgylch Llyn Parc y Rhath neu Barc Victoria gyda’r siopau a’r lleoedd bwyd annibynnol gwych sydd yno. 

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth gynfyfyriwr arall sy’n ystyried rhoi ei amser i gefnogi’r Brifysgol a’i myfyrwyr? 

Mae’n gyfle braf i roi rhywbeth yn ôl, cwrdd â phobl newydd ac ehangu’ch rhwydwaith. Rydych chi’n teimlo’n dda yn ei wneud ac mae digonedd o gacennau ar gael hefyd! 

Os hoffech chi gymryd rhan a gwirfoddoli ar ran Prifysgol Caerdydd, gallwch wneud hyn mewn sawl ffordd, a bydd croeso i chi bob amser yn rhan o dîm Prifysgol Caerdydd.