Skip to main content

DonateNewyddion

Dewch i gwrdd â’r ymchwilydd – yr Athro Anne Rosser

14 Rhagfyr 2020

Mae clefyd Huntington yn un dinistriol, a achosir gan enyn diffygiol sy’n atal yr ymennydd rhag gweithio’n iawn, gan effeithio ar symudedd, dysgu, meddwl ac emosiynau. Mae’r symptomau’n gwaethygu dros amser ac ar hyn o bryd nid oes modd gwella’r clefyd. Mae’n gyflwr etifeddol ac mae ganddo siawns o tua 50% y caiff ei basio i lawr gan riant. Fe wnaethom siarad â’r ymchwilydd Anne Rosser, Athro Niwrowyddoniaeth Glinigol, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil.   

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddod o hyd i driniaethau ar gyfer y cyflwr niwroddirywiol, clefyd Huntington. Mae gennym ddiddordeb yng nghlefyd Huntington oherwydd ei fod yn cynrychioli maes o angen clinigol mawr, ond cydnabyddir hefyd ei fod yn fodel da ar gyfer clefydau niwroddirywiol eraill, sy’n golygu y gall canfyddiadau fod yn drosglwyddadwy.   

Mae clefyd Huntington yn gyflwr niwroddirywiol lle mae nerfgelloedd yn cael eu colli’n araf ond yn ddiwrthdro o ran benodol o’r ymennydd o’r enw’r striatwm. Oherwydd bod y striatwm wedi’i gysylltu ag ardaloedd eang o’r ymennydd, mae niwed iddo yn arwain at ystod eang o symptomau gan gynnwys dirywiad yn y gallu i symud, anhawster wrth feddwl ac aflonyddwch ymddygiadol.   

Mae’r cyflwr fel arfer yn dechrau mewn pobl canol oed ac yn gwaethygu dros gyfnod o oddeutu 20 mlynedd nes bod dioddefwyr yn colli eu gallu i symud yn sylweddol ac angen help gyda’r mwyafrif neu holl weithgareddau bywyd bob dydd. Un o’r agweddau arbennig o boenus ar glefyd Huntington yw’r newid i bersonoliaeth y dioddefwr a’r symptomau seiciatryddol a all effeithio ar allu unigolyn i weithio ac i gynnal perthnasoedd, hyd yn oed yn ystod camau cynnar y clefyd. Agwedd drist arall yw y bydd dioddefwr gyda chlefyd Huntington yn trosglwyddo’r cyflwr i tua hanner ei blant, felly mae’n gyflwr sy’n cael effaith sylweddol ar yr uned deuluol. 

Fel gwyddonydd clinigol, rwy’n gweithio mewn labordai ac yn glinigol ac wedi gweithio ar sawl agwedd ar glefyd Huntington, yn amrywio o ymchwil i’r agweddau sylfaenol ar annormaleddau ymddygiadol y clefyd, a cheisio deall mwy am yr hyn sy’n mynd o’i le yn yr ymennydd, i ymchwil labordy ac ymchwil glinigol gyda’r nod o brofi triniaethau posibl newydd.   

Un llinyn sydd wedi rhedeg drwy’r gwaith dros y 25 mlynedd diwethaf yw therapi celloedd. Mewn therapi celloedd rydym yn defnyddio amryw o gynhyrchion celloedd (mae llawer ohonynt yn deillio o fôn-gelloedd) i geisio atgyweirio organ sydd wedi’i ddifrodi. Mae hyn yn bwysig mewn niwrowyddoniaeth gan mai gallu cyfyngedig iawn sydd gan yr ymennydd i atgyweirio’i hun.  

Os yw celloedd yn cael eu rhoi yn llif y gwaed trwy bigiad, ychydig iawn fydd yn cyrraedd yr ymennydd, felly mae angen i ni eu cyflwyno’n uniongyrchol trwy lawdriniaeth niwrolawfeddygol. Rydym wedi bod yn datblygu’r mathau hyn o therapïau dros nifer o flynyddoedd yn y labordy, gan geisio deall y fioleg sy’n sail i drawsblaniadau llwyddiannus fel y gallwn wneud y gorau o’r gweithdrefnau.   

Rydym bellach ar y cam i gynnal treialon clinigol cynnar gyda chleifion. Gan fod hwn yn waith arbrofol iawn, mae angen inni weithredu’n ofalus, felly mae’r treialon hyn yn cynnwys niferoedd bach o gyfranogwyr i wneud yn siŵr bod y gweithdrefnau’n ddiogel. Mae’r treialon yn hynod gymhleth felly dechreuon ni weithio ar hyn ychydig flynyddoedd yn ôl ac rydyn ni’n gobeithio cwblhau’r astudiaeth gyfredol dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.    

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a sut y gallai fod o fudd i gleifion â Chlefyd Huntington nawr ac yn y dyfodol?  

Nod llawer o driniaethau ar gyfer clefydau niwroddirywiol fel clefyd Huntington yw arafu cynnydd y cyflwr. Mae arafu proses y clefyd yn bwysig iawn, ond ni fydd yn adfer celloedd sydd eisoes wedi’u cymryd gan y clefyd.   

Mae therapi celloedd yn cynnig y syniad o ddisodli’r celloedd nerfol sydd wedi dirywio â chelloedd newydd a all fabwysiadu eu swyddogaeth. Dylai therapïau celloedd fod yn gydnaws â’r rhan fwyaf o’r triniaethau i addasu clefydau sy’n cael eu datblygu ar gyfer clefyd Huntington. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at ffordd o wella ansawdd bywyd pobl â chlefyd Huntington. 

Mae’r gwaith hwn yn gymhleth ac wedi gofyn am gydweithrediad â gwyddonwyr eraill yn fy labordy (Grŵp Atgyweirio Ymennydd Caerdydd) a grwpiau eraill yn y DU a’r tu allan iddo a gydag amrywiaeth o ymchwilwyr eraill, yn enwedig ein hathro Niwrolawdriniaeth lleol a phennaeth yr adran niwrowyddoniaeth yn y Ganolfan Ymchwil Treialon.   

Beth wnaeth eich ysbrydoli neu sydd o ddiddordeb i chi yn y maes ymchwil penodol hwn?  

Rydw i wastad wedi bod â diddordeb yn sut mae’r ymennydd yn gweithio ac roedd hyn yn sbardun dylanwadol wrth wneud cais i astudio meddygaeth. Yna cefais fy ysbrydoli gan lawer o niwrowyddonwyr gwych yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Caergrawnt. Tra roeddwn yn fyfyriwr meddygol es i i ddarlith gan Steve Dunnett ar drawsblaniadau niwral ar gyfer clefydau’r ymennydd, ac wnaeth hynny fy nghyffroi’n arw. Flynyddoedd yn ddiweddarach, bûm yn ffodus i weithio gyda Steve.  

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod i weithio yng Nghaerdydd?

Roedd sawl peth gyda’i gilydd wedi fy ysbrydoli i ystyried symud i Gaerdydd. Roedd yn amlwg tua diwedd y 90au bod Caerdydd yn caffael màs critigol gan ddatblygu i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer niwrowyddoniaeth a geneteg seiciatrig. Yn ogystal â hyn, symudodd Martin Evans, arbenigwr bôn-gelloedd (a gafodd wobr Nobel am y gwaith hwn yn dilyn hynny) o Brifysgol Caergrawnt i Brifysgol Caerdydd. Hefyd, symudodd fy nghydweithiwr Steve Dunnett ei labordy i Gaerdydd ym 1999, a oedd yn atyniad arall – yn y pendraw bûm yn cydweithio’n agos â Steve nes iddo ymddeol yn 2017. Yn olaf (ond yn hollbwysig!) cynigiwyd swydd i fy ngŵr hefyd fel Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.   

Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?

Rwyf wedi sôn am yr hyn y mae’r Brifysgol yn ei gynnig, ond rydw i hefyd wedi dod i garu dinas Caerdydd.  Rwy’n hoff iawn o’r cyfuniad o ddiwylliant, treftadaeth, a’r bobl leol gyfeillgar a’r ffaith mai ychydig iawn o amser y mae’n ei gymryd i gyrraedd y bryniau neu’r arfordir. 

Beth rydych chi’n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?  

Fy hoff weithgaredd yw treulio amser gyda fy nhair merch – sydd bellach i gyd yn oedolion. Rydyn ni’n mwynhau cerdded, sgïo a threulio amser gyda’n gilydd yn gyffredinol. Rwyf hefyd yn angerddol am dyfu llysiau a phaentio ac rwy’n mwynhau cerddoriaeth – rwy’n hoffi mynd i Opera Cenedlaethol Cymru yn arbennig (ond nid ar hyn o bryd yn amlwg….) 

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd.