Cyswllt Caerdydd, News

Saith o leoedd mwyaf arswydus Caerdydd

Gyda’i hanes hir sy’n aml yn erchyll, nid yw’n syndod bod Caerdydd yn gartref i rai lleoedd eithaf arswydus. Ac wrth i Galan Gaeaf gyrraedd eto, roeddem yn meddwl y byddem yn rhoi disgrifiad bach o safleoedd mwyaf arswydus y ddinas! Ymwelwch â nhw os ydych chi’n meiddio – ac wrth gwrs os yw rheolau’r cyfnod clo lleol yn caniatáu hynny!  

  1. Castell Caerdydd 

Mae un o dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, Castell Caerdydd, yn llawn etifeddiaeth Rufeinig, Normanaidd a Fictoraidd gyda bron i 2,000 mlynedd o hanes. Nid yw’n syndod dros amser fod nifer o achosion o weld pethau arswydus wedi cael eu cofnodi. Yn y nos, mae silwét adfeilion y Tŵr Normanaidd yn cysgodi’r tir, tra bod y palas Fictoraidd Gothig, gan gynnwys ei dŵr cloc, ei dŵr du a’i ragfuriau, yn bwrw cysgodion iasol. Cofiwch am yr wal anifeiliaid ar Stryd y Castell lle y gall deimlo weithiau fel bod rhywun/rhywbeth yn eich gwylio! 

I’r rhai hynny sydd am archwilio ymhellach, mae Caerdydd yn cynnal taith ysbrydion gyda’r nos yn rheolaidd sy’n galluogi ymwelwyr i ganfod ffenomena arswyd, synau rhyfedd a ffigyrau ysbryd.   

  1. ‘Cyffordd Marwolaeth’ 

Er bod llawer ohonom yn adnabod y gyffordd sy’n uno Heol Albany, Heol y Plwca, Heol Crwys, Plas Mackintosh a Heol Richmond yn y Rhath fel ‘Cyffordd Marwolaeth’, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol nad yw ei llysenw’n gysylltiedig â’i natur beryglus i gerddwyr a defnyddwyr y ffyrdd. 

Dyma’r man y cafodd ddau offeiriad a gyhuddwyd o frad eu crogi ym 1679. Mae plac glas bach ar adeilad NatWest yn nodi’r man y cafodd y Tad Phillip Evans a’r Tad John Lloyd eu crogi, eu diberfeddu a’u chwarteru, ar ôl cael eu cadw am fisoedd mewn carchar yn nhŵr du Castell Caerdydd. Eu trosedd? Ymarfer eu ‘dyletswyddau offeiriadol’. Yn y pen draw, datganwyd bod y ddau’n seintiau ac yn ferthyron gan y Pab Pawl VI ym 1970.  

  1. Tafarn Rummers 

Mae’n honedig bod tafarn hynaf Caerdydd, Tafarn Rummers ar Stryd y Castell yn dyddio yn ôl i 1713 os nad yn gynharach. Dros y blynyddoedd mae nifer o staff a chwsmeriaid wedi rhoi gwybod am brofiadau rhyfedd ac achosion o weld ysbrydion. Yn ôl y sôn bu farw morwr cenfigennus yno ar ôl dod o hyd i’w wraig yn y gwely gyda charwr cyfrinachol, ac yn ôl y sôn mae ei ysbryd yn ymddangos yn seler a thoiledau’r dafarn.  

  1. Mynwent Cathays   

Bydd unrhyw un sydd wedi cerdded heibio Mynwent Cathays ar eu ffordd gartref fin nos yn gwybod fod rhyw deimlad arswydus amdani. Ond mae’r fynwent Fictoraidd atmosfferig hon hefyd yn cynnwys rhywfaint o hanes hynod ddiddorol. Cafodd ei hagor ym 1859, ac mae mwy na 200,000 o bobl wedi cael eu cloddi yno, ac ymysg y capeli a’r clochdai gothig byddwch yn dod o hyd i rai preswylwyr rhyfeddol. Y fynwent yw gorffwysfan olaf y bocsiwr Jim Driscoll, arloeswr hedfanaeth Ernest Willows a Reardon Smith a oedd yn gymwynaswr mawr i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Byddwch hefyd yn dod o hyd i fedd y ‘Balloon Girl’; Louisa Maud Evans a oedd yn 14 mlwydd oed, a fu farw ar ôl methu â chroesi Môr Hafren drwy fynd i fyny mewn balŵn fel rhan o Arddangosfa Caerdydd ym 1896. 

  1. Castell Coch 

Mae castell hudolus Castell Coch y tu allan i Gaerdydd ym mhentref bychan Tongwynlais yn honni ei fod yn hawlio nifer o storïau a chwedlau.  

Yn ôl y sôn mae Boneddiges Wen yn crwydro’r castell a’r coetir cyfagos, yn chwilio am enaid coll ei mab a oedd wedi boddi mewn pwll lleol. Mae hefyd y stori o ‘Farchog Castell Coch’ a chredir ei fod wedi cuddio ei drysor yn nhir y castell, cyn gadael i ymladd yn y rhyfel cartref. Ni ddychwelodd fyth ond y si yw bod ei ysbryd yn parhau i chwilio am ei drysor coll.  

  1. Ysbyty Brenhinol Caerdydd   

Agorwyd Ysbyty Brenhinol Caerdydd ar Heol Casnewydd ym 1822. Mae wedi cael ei enwi fel ysbyty mwyaf ysbrydol y DU ac ers iddo agor, sef bron 200 mlynedd yn ôl mae nifer o achosion o weld a phrofi pethau rhyfedd wedi digwydd yno. Gwnaeth hanesion o wragedd yn diflannu, milwyr clwyfus a plant direidus hyd yn oed ysgogi allfwriad (exorcism) yn y ward patholeg!   

  1. Chippy Lane am 2am 

Gellir disgrifio Chippy Lane, neu Stryd Caroline sef ei enw cywir, fel un o leoliadau mwyaf rhyfedd a brawychus Caerdydd ar ôl 2am ar Nos Sadwrn. Mae’r stryd yn adleisio clwcian ac ni all partïwyr ymatal rhag y galw am fwyd ar ôl sesiwn dafarn. Diolch byth, mae cyrri cyw-iâr-ar-yr-asgwrn Dorothy yn fwy na digon i adfywio gloddestwyr blinedig y ddinas ar gyfer eu taith hir gartref!