Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Beca o Bake Off yn trafod Caerdydd, gyrfaoedd, a choginio

26 Hydref 2020

Mae Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004) yn awdur, darlledwr a chyrhaeddodd y rownd derfynol ar Great British Bake-Off a dilynodd ei gyrfa lwybr annisgwyl. Mae Beca’n disgrifio ei hamser ar y gyfres Deledu boblogaidd ac yn esbonio sut yr oedd yn cymhwyso’r sgiliau a ddysgodd o’i gradd mewn cerddoriaeth at rannau eraill o’i bywyd. Mae hefyd yn trafod rhai o’i hatgofion mwyaf gwyllt a hyfryd o fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.   

Yn aml mae rhywun yn gofyn i mi, a ydw i’n bobydd neu’n gogydd? Ac rwyf bob amser yn dweud fy mod i’n ychydig o’r ddau.  

Mae bwyd yn gyson; mae yna pan rydych yn teimlo’n isel, mae yna ar gyfer dathliadau, ac mae yna pan rydych yn sâl. Mae’r weithred o goginio’n therapiwtig iawn ac mae’n dda i chi gael amser i chi eich hun. Gallwch wir fynd i mewn i’ch meddylfryd eich hun.  

Ond nid oedd coginio bob amser yn rhan mor fawr yn fy mywyd… 

Des i Gaerdydd yn 2001 ar ôl cymryd rhan mewn blwyddyn i ffwrdd ac roeddwn i wir am astudio cerddoriaeth. Roeddwn i’n nerfus gan na wnes i fwynhau bywyd yn y Brifysgol y tro cyntaf.  

Roeddwn i mewn fflat, tŷ 4 yn Ne Tal-y-Bont, y llawr cyntaf ar y chwith. Rwy’n ei gofio mor glir! Yn fy fflat hyfryd roedd gennym bob math o bobl yn dod i mewn. Roedd y myfyrwyr yn y fflat gyferbyn yn wych a daethom yn agos iawn a gwnaeth hyn i mi deimlo’n hapus a’n gartrefol. Gwnes i hyd yn oed fyw gyda rhai ohonynt yn Llundain ar ôl i mi adael y brifysgol. Mae gen i gymaint o atgofion o fod gyda fy ffrindiau a chael yr amser gorau.  

Rwy’n cofio’n benodol rhedeg am Gadeirydd IMG yn ystod fy amser yng Nghaerdydd. Roedd y rôl yn cynnwys trefnu gemau pêl-droed a phêl-rwyd ar gyfer y cymdeithasau. Fy slogan trawiadol oedd ‘Beca’s got balls’. Er mwyn cael sylw pobl yn yr orsaf bleidleisio, penderfynais i a fy ffrindiau y byddai’n ddoniol petawn i’n cymryd llun ohonof i heb grys gyda phêl-rwyd a phêl-droed o flaen fy mron.  

Aethom i dŷ un o’r bechgyn i ddwyn eu pêl Rygbi a gwnaethom gymryd y llun, felly nid oeddech yn gallu gweld unrhyw beth. Roed gen i wên fach slei ar fy wyneb ac roedd pawb yn meddwl ei fod e’n ddoniol iawn. Rwyf wedi cael pobl o Brifysgol Caerdydd yn dod i fyny ataf, flynyddoedd yn ddiweddarach ac yn dweud, “Rwy’n cofio dy boster!”  

Mae’n strategaeth a oedd yn gweithio, ac roeddwn i wrth fy modd yn gweithio fel y Cadeirydd IMG. Ges i ysgrifennu colofn wythnosol ym mhapur newydd y Brifysgol am y gemau a gynhaliwyd. Roedd yn wych. Roedd gymaint o gyfleoedd yng Nghaerdydd.  

Richard Elvin Jones, neu Reg fel roeddwn i’n arfer ei alw, oedd fy hoff ddarlithydd. Mae’n ffrind i’r teulu felly roeddwn i’n ei adnabod ymlaen llaw, ond fe oedd fy nhiwtor personol hefyd. Chwaraeodd yr organ yn fy mhriodas. Roedd yn anhygoel ac mor hyfryd ei gael fel rhan o’r dathliad.  

Mae fy merched wedi dechrau dysgu cerddoriaeth nawr, felly mae fy ngradd wedi bod yn ddefnyddiol i’w helpu gyda’u theori. Rwyf hefyd yn canu gyda Chôr Gwragedd Milwrol yng Nghaerdydd ac rwy’n helpu gydag ymarferion. Mae’n ffordd neis o ddefnyddio fy sgiliau heb lawer o bwysau.  

Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth roeddwn i am ei wneud gyda fy ngradd, ond gwnes i wir fwynhau fy mhrofiad yn y brifysgol. Oni bai eich bod yn gwybod yn glir beth yr hoffech ei wneud mewn bywyd, mae angen i chi edrych ar lwybrau gwahanol i ddefnyddio eich sgiliau. Rwy’n berson creadigol sy’n mwynhau celf ac mae hynny’n cael ei gyfleu yn fy nghoginio hefyd. I mi, mae am fod yn greadigol mewn ffyrdd gwahanol – sy’n dod â fi nôl at Bake Off. 

Ni fyddwn i yma heb Bake Off. Rhoddodd ail yrfa i mi, un rwy’n caru ac wedi bod eisiau ei wneud ers oeddwn i’n ferch fach. Ond cymerodd drosodd yn ein bywydau hefyd. Pan oeddem yn ffilmio, roeddem mewn swigod Bake-Off. Nid oeddech yn meddwl am unrhyw beth arall ac nid ydych yn cael siarad amdano. Roedd yn hurt!  

Es i ar y rhaglen heb ddisgwyl cael dim byd allan ohono, ac ychydig wythnosau i mewn i’r rhaglen dechreuais gael cynigion i addysgu mewn ysgol goginio a diweddais i fyny gyda fy nghyfres deledu fy hun ar S4C. Ers hynny, rwyf wedi gwneud ambell i raglen deledu arbennig ac wedi gweithio gyda Borough Market fel un o’u cogyddion. Cyhoeddais fy llyfr cyntaf ac rwyf ar fy ail bellach.  

Mae Bake Off dal yno ond rwy’n teimlo fel fy mod i wedi creu enw i fy hun nawr. Mae pobi mewn pabell ar y teledu wedi fy arwain i yma. Rwyf hyd yn oed yn mynd trwy radd arall i fod yn ddeietegydd er mwyn ehangu ar y gwaith rwy’n ei garu. Hir oes i hynny!  

Wrth goginio, ac mewn bywyd, peidiwch â bod ofn methu. Os bydd pethau’n mynd o’i le, peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag rhoi cynnig arall arni. Rydym yn dysgu o gamgymeriadau. Gwnewch nodyn ohono a rhowch gynnig arall arni. Byddwch yn dysgu sut mae osgoi’r camgymeriadau. A pheidiwch â bod yn rhy uchelgeisiol! Dechreuwch gyda rhywbeth sylfaenol ac yna dysgwch o hynny!  

Rysáit cawl – saig Gymreig glasurol 

Mae’r rysáit yma’n fy atgoffa o fy mam-gu a’m plentyndod. Roeddwn yn ei fwyta’n aml wrth i mi dyfu i fyny. Gwraig fferm oedd fy mam-gu, felly ni fyddai unrhyw beth yn cael ei wastraffu. Roedd hi’n medru creu pryd allan o ddim. Mae fy merched wrth eu bodd yn ei goginio nawr hefyd – mae’n saig sy’n rhoi cysur go iawn iddyn nhw hefyd. Mae hefyd yn saig iach, hawdd iawn i’w gwneud! Dyma’r rysáit:  

Cynhwysion (ar gyfer 6) 

1kg ysgwydd cig oen, ar yr asgwrn 

5 taten fawr 

3 moron 

1 swejen 

1 cenhinen fawr 

persli ffres 

halen a phupur 

olew a menyn 

Dull (paratoi: 15 munud, coginio: hyd at 3½ awr)  

Rhowch y cig mewn sosban fawr a’i orchuddio â dŵr. Dewch â’r cyfan i’r berw, yna trowch y gwres i lawr a mudferwch y cawl, gan sgimio unrhyw saim sy’n codi i’r wyneb. Bydd y cig yn cymryd 2-3 awr i’w goginio nes ei fod yn dyner ac yn cwympo oddi ar yr asgwrn.  

Ar ôl yr amser hwn, piliwch a thorri’r tatws, y swejen a’r moron i ddarnau maint brathiad, ychwanegwch nhw at y sosban a’u sesno â halen a phupur. Mudferwch am 20 munud cyn ychwanegu’r cennin wedi’u sleisio a’u coginio am 10 munud arall. Blaswch i wirio’r sesnin ac ychwanegwch ychydig o bersli wedi’i dorri ar y diwedd. 

Ychydig cyn ei weini, tynnwch y cig a’i dorri’n ddarnau maint brathiad cyn ei ddychwelyd i’r sosban. Gweinwch mewn powlenni gyda bara a chaws. 

Darllenwch lyfr newydd Beca, Feeding My Army, sy’n gasgliad o ryseitiau a hanes teuluoedd milwrol gan archwilio ein cysylltiadau â bwyd.