Cyswllt Caerdydd, Examined Life, News

Myfyrio ar Fywyd: Neville John (BMus 1957)

Cafodd Neville John (BMus 1957)  ei eni yn y Tymbl, Sir Gâr a bu’n astudio’r soddgrwth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd yrfa lwyddiannus fel athro cerdd a chyfansoddwr ar ôl ei astudiaethau, ac yn ddiweddar dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed.  Yn yr erthygl hon sy’n Myfyrio ar Fywyd, mae’n edrych yn ôl ar ei deulu cerddorol, ei atgofion gorau o Gaerdydd a’r drychineb hanesyddol a fu’n ysbrydoliaeth iddo gyfansoddi. 

Roedd gennyf angerdd dros gerddoriaeth yn yr ysgol gynradd a chefais wersi feiolín preifat pan oeddwn yn 11 oed. Mae gennyf allu gwych i gofio ac adnabod melodïau, ac mae cerddoriaeth wedi bod yn agos at fy nghalon erioed.  

Roedd Prifysgol Caerdydd yn ddelfrydol i mi. Oherwydd fy nawn gerddorol, roeddwn yn credu y gallwn fod yn athro cerdd mewn ysgol uwchradd – ac roedd angen gradd mewn cerddoriaeth arnaf er mwyn gwireddu hynny. Roedd fy nhiwtor ar gyfer y soddgrwth, Mr George Isaac yn un o staff Prifysgol Caerdydd. Trefnodd gyfweliad ar fy nghyfer gyda’r Athro Joseph Morgan, a’m perswadiodd i astudio ar gyfer arholiadau mynediad y Brifysgol. Rhoddais orau i fy swydd yn gweithio yn swyddfa Undeb Cenedlaethol y Glowyr, a chyflog da i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle gallwn barhau i dderbyn gwersi soddgrwth gyda Mr Isaac yn hytrach na theithio 60 milltir i’w gartref ym Mhontyclun. 

Mae gennyf nifer o atgofion melys fel myfyriwr, ond mae’n rhaid mae’r ymarferion a’r cyngherddau gyda Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol yw’r atgofion gorau.  

Mae sawl aelod o’r teulu yn gerddorion gyda gradd o Brifysgol Caerdydd. Roedd y blynyddoedd yn dysgu fy mhlant yn werth chweil. Rydw i wedi rhannu nifer o gyfrinachau gyda nhw am fy oes yn y byd cerddorol ac rwy’n hynod falch eu bod wedi dilyn ôl fy nhroed. 

Cafodd trychineb Aberfan effaith ddofn arnaf. Roeddwn yn athro feiolín peripatetig ar gyfer Pwyllgor Addysg Merthyr Tudful ac roeddwn yn ymweld ag Ysgol Gynradd Pantglas yn Aberfan unwaith yr wythnos. Ar 21 Hydref 1966, cafodd 144 o bobl eu mygu gan dirlithriad enfawr o wastraff glo. Doeddwn i ddim yn dysgu yno ar y pryd, ond roedd tri o’r bobl ifanc a gollodd eu bywydau yn ddisgyblion imi. 

Roedd y drychineb a’u colled yn ysgogiad imi gyfansoddi Agorawd Trychineb Aberfan, agorawd gerddorfaol i goffáu’r drychineb. Caiff y tirlithriad ei bortreadu gan drefniadau disgynnol ar y soddgrwth, yn symud fesul hanner tôn ar wahân i’r basau dwbl marwaidd. Mae cadenza gan offerynnau taro ar ddiwedd yr agorawd yn nodi diwedd y tirlithriad.  Ar ôl perfformiad cyhoeddus cyntaf fy narn yn 1969, gofynnodd y Cyfarwyddwr Addysg i mi ysgrifennu agorawd arall, y tro hwn yn cyfleu dewrder pobl Aberfan, a’u llwyddiant o ran symud y tomenni slag oedd yn weddill o ben y bryniau. Cafodd fy ail agorawd, The Triumph of Aberfan, ei berfformio gyntaf ym Merthyr Tudful yn 1970. 

Dros y blynyddoedd rwyf wedi arwain a pherfformio gyda llawer o grwpiau cerddoriaeth. Fy hoff atgofion oedd y blynyddoedd tra roeddwn yn arwain Cerddorfa Ieuenctid Merthyr a Cherddorfa Henoed Merthyr. 

Cefais fy ysbrydoli i sefydlu’r Wobr Llinynnol Neville John ym Mhrifysgol Caerdydd pan enillodd fy merch Wobr Llinynnol Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn 1982. Yr adran linynnol yw’r un fwyaf yn y gerddorfa, ac wrth i mi weld fy merch yn ymarfer yn aml er mwyn ceisio ennill y wobr, sylweddolais y gallai gwobrau o’r fath fod yn ffordd glyfar o wella cerddorfa. Gyda phedwar chwaraewr offerynnau llinynnol yn ein teulu, a gydag ysbrydoliaeth techneg feiolin gwych Dr Robin Stowell, teimlais y gallai Prifysgol Caerdydd elwa ar wobr linynnol arbennig o’r fath. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fywyd Neville John a’i gyfansoddiadau yn https://nevillejohn.org.uk.