Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Mae’r daith yn cychwyn yma – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

12 Hydref 2020

Mae Nadine Lock (BA 2001) wedi gweithio mewn Adnoddau Dynol ers dros ddeng mlynedd yn y Trydydd Sector a’r Sector Preifat. Mae’n adlewyrchu ar y daith y mae Dosbarth 2020 yn ei hwynebu, ac yn rhannu rhai pethau y byddai wedi bod yn falch o gael gwybod fel rhywun oedd newydd raddio. 

Mae wynebu bywyd gwaith fel myfyriwr graddedig yn gyfnod sydd rywsut yn wefreiddiol ond aflonyddgar iawn ar y gorau – heb sôn am yng nghanol pandemig. Nid yw graddedigion eleni yn mynd drwy gyfnod arferol yn eu bywydau – maent yn brwydro tswnami o aflonyddwch a newid. 

Wrth i mi agosáu at 20 mlynedd fel cynfyfyriwr rwyf wedi cael amser i fyfyrio ar fy ngyrfa ers fy nghyfnod yn y Brifysgol. Mae gweithio ym maes Adnoddau Dynol a recriwtio yn naturiol wedi gwneud i mi feddwl sut mae Graddedigion 2020 yn teimlo am ddechrau eu gyrfaoedd yn ystod pandemig y Coronafeirws a dirwasgiad. 

Yn naturiol, fel rhywun sydd â gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg, dim ond gydag ysbrydoliaeth awdur y gallwn ddechrau’r darn hwn. Felly, yng ngeiriau Ursula Le Guin “Mae’n dda cael diwedd taith i anelu ato; ond y daith sy’n bwysig, yn y diwedd”. Mae’r geiriau hyn wir yn crynhoi i mi y math o feddylfryd y bydd gan raddedigion newydd sy’n mentro allan i fyd gwaith.  

Felly, er mwyn dechrau ar eich taith, rwy’n rhannu pethau gyda chi yr hoffwn i fod wedi gwybod pan oeddwn i’n fyfyriwr graddedig newydd: 

1.Gwydnwch 

Dyma’r amser i adeiladu ar eich sgiliau ymdopi er mwyn goroesi rhwystrau. Byddwn bob amser yn wynebu newidiadau a heriau mewn bywyd, ond ni ddywedodd unrhyw un wrthyf sut i ddelio â nhw fel myfyriwr graddedig newydd. 

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn cael cyfweliadau er eich bod yn gwneud ceisiadau am swyddi. Cofrestrwch gydag asiantaeth recriwtio i gael cyngor gonest ar eich CV a gwnewch yn siŵr eich bod yn teilwra eich ceisiadau i hysbysebion a disgrifiadau swydd bob tro. Tynnwch sylw at eich sgiliau fel gweithio mewn tîm a datrys problemau a dangoswch sut mae eich sgiliau’n berthnasol. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth gan y Brifysgol, felly ebostiwch careers@caerdydd.ac.uki gael gwybod. 

Os cewch newyddion gwael ar ôl cyfweliad peidiwch â gadael iddo amharu ar eich hyder. Ymatebwch yn frwdfrydig. Newidiwch eich ffordd o feddwl. Meddyliwch am hwn fel cyfle i ddysgu ac fel arwydd eich bod wedi gwneud rhywbeth yn iawn i gael cyfweliad. Wrth gwrs, byddwch yn teimlo’n siomedig. Ond, byddwch wedi cwrdd â chysylltiadau mewn amgylchedd proffesiynol ac wedi cael ymarfer eich sgiliau cyfweld. 

Gofynnwch am adborth ar yr hyn y gallech fod wedi’i wneud yn well. Meddyliwch am hwn fel cyfle euraidd i ddysgu rhywbeth ymarferol fydd yn eich rhoi gam ar y blaen yn eich cyfweliad nesaf.  

2. Realaeth 

Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn eich bywyd a dylech fod yn uchelgeisiol, ond byddwch yn amyneddgar. Fe wnes i ymuno â’r byd gwaith yn naïf ac yn llawn optimistiaeth ifanc. Rwyf bob amser wedi aros yn gadarnhaol ond yn bendant wedi gweld realiti’r sefyllfa fel myfyriwr graddedig newydd y byddai’n rhaid i mi ddechrau ar y gwaelod a gweithio’n galed.  

Rydych chi’n dysgu’r rhaffau a byddwch yn debygol o ddarganfod yr un peth â mi. Bydd angen i chi ailosod, ailaddasu ac ailffocysu eich gwelediad. Bydd angen i chi gael cynlluniau gyrfa hyblyg yn hytrach na sefydlog a chwilio am y cyfleoedd ym mhopeth yr ydych yn dod ar ei draws. Manteisiwch ar bethau – mae agwedd dda a chymryd cyfleoedd yn agor drysau. 

Ystyriwch wirfoddoli, cysgodi swyddi neu leoliadau gwaith i adeiladu eich sgiliau meddal a rhowch gynnig ar bethau. Byddwch yn agored i swyddi dros dro mewn cwmnïau yr ydych am ddatblygu ynddynt ar gyfer profiad CV a geirda. Dylech ymarfer rhwydweithio, mynd ati i ddilyn cwmnïau ar gyfryngau cymdeithasol a gwneud dulliau rhagweithiol cwrtais a phroffesiynol er mwyn ceisio cyfleoedd. 

3. Perthnasoedd 

Defnyddiwch y bobl o’ch cwmpas i roi help llaw i chi a gwrandewch arnynt er mwyn datblygu i’r gweithiwr proffesiynol yr hoffech fod. Os byddwch yn dod ar draws rhywun sy’n eich ysbrydoli’n broffesiynol, gofynnwch a allent eich mentora a chadw’r arfer hwn. Gallwch ddisgwyl cyngor, arweiniad ac adborth pan fydd pethau’n arbennig o heriol neu os nad ydych yn hollol siŵr sut i fynd ati i wneud rhywbeth. 

Use the people around you to give you a helping hand and a listening ear to become the professional you want to be. If you come across someone who inspires you professionally ask if they could mentor you and keep this habit up. You can expect advice, guidance and feedback when things are particularly challenging or you’re not quite sure how to go about something. 

Lle arall da iawn i ddechrau yw Cyswllt Caerdydd. Mae llwyfan rhwydweithio cyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn ffordd wych o ddatblygu eich rhwydwaith proffesiynol. Mae miloedd o bobl yn barod i helpu drwy ateb cwestiynau, gwneud cyflwyniadau neu gynnig cymorth fel mentor. 

Cyfres o bethau bach yw llwyddiant 

Er y bydd y tro hwn yn anodd i chi fel myfyriwr graddedig newydd, bydd hefyd yn atgof melys. Mae’n amser ar gyfer dysgu, tyfu a rhoi cynnig ar bethau. 

Rydych ar fin dechrau taith ac antur epig. Cymerwch yr amser i fwynhau eich llwybr newydd heb ofni mynd oddi ar y trac bob hyn a pheidiwch â gor-gynllunio pethau. 

Rydych chi ar fin tyfu cymaint fel person a chwrdd â llawer o bobl ddiddorol ar hyd y ffordd. Gobeithio fy mod wedi rhoi rhywfaint o anogaeth i chi gadw eich uchelgeisiau’n fyw a gweld bod dyfodol disglair yn aros amdanoch. 

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.