Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Prifysgol Caerdydd i ddarparu gwasanaeth sgrinio coronafeirws (COVID-19) ar gyfer myfyrwyr a staff asymptomatig

24 Medi 2020

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu nifer o fesurau amddiffynnol arloesol wrth i’r campws ailagor, gan gynnwys creu gwasanaeth sgrinio torfol unigryw ar gyfer myfyrwyr a staff asymptomatig y Brifysgol

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o lond dwrn o brifysgolion ledled y DU sydd wedi datblygu ei gwasanaeth sgrinio coronafeirws (COVID-19) ei hun yn fewnol, gan ddarparu rhaglen barhaus o brofion i staff a myfyrwyr sy’n asymptomatig.

Bydd y gwasanaeth unigryw yn cael ei gynnig i bawb ar y campws sydd heb symptomau COVID-19. Bydd myfyrwyr a staff yn derbyn gwahoddiad, yn fuan ar ôl cyrraedd y campws i gael prawf poer, gyda’r canlyniadau’n cael eu dychwelyd o fewn 48 awr. Bydd ail-brofi rheolaidd hefyd yn cael ei gynnig.   

Os bydd unrhyw un o ganlyniadau profion asymptomatig Caerdydd yn dod yn ôl yn bositif, bydd y person a’r GIG yn cael eu hysbysu, fel y gall protocol diweddaraf y GIG, gan gynnwys Profi ac Olrhain, ddechrau.  Cynghorir y person, ei gyd-letywyr a/neu ei deulu, i ddilyn canllawiau cyfredol Iechyd Cyhoeddus Cymru megis hunan-ynysu.

Bydd gwasanaeth Prifysgol Caerdydd yn darparu data gwerthfawr iawn am ledaeniad a nifer yr achosion o COVID-19, yn ogystal â helpu’r Brifysgol i gadw myfyrwyr, cyfadran a chymuned ehangach Caerdydd yn ddiogel.

Mae Dr Rob Davies (PhD 1991), Cofrestrydd Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Caerdydd, yn disgrifio dull gweithredu’r Brifysgol:

“Mae Caerdydd yn arloesi labordy a fydd yn darparu profion coronafeirws (COVID-19) – ac ailbrofion – ar gyfer dros 20,000 o fyfyrwyr a staff asymptomatig ar y campws yr hydref hwn. Ein nod yw dod o hyd i’r clefyd hyd yn oed pan fydd yn asymptomatig, gan weithio ochr yn ochr â phrofion cenedlaethol i bobl symptomatig. Ein nodau yw helpu i ddiogelu ein campws a’n cymunedau lleol, a dysgu mwy am drosglwyddo COVID-19.

 “Mae datblygu’r labordy wedi bod yn her logistaidd a gwyddonol enfawr. Gwnaethom ni ddechrau ym mis Gorffennaf, gan adeiladu ar ein partneriaeth â’r GIG yn nyddiau cynnar y pandemig. Rydym wedi creu a staffio labordy sydd wedi’i awtomeiddio i raddau helaeth, system archebu, lleoliadau casglu samplau, a systemau adrodd. Mae profion terfynol bellach ar waith fel y gallwn gynnig profion ac ailbrofion yn rheolaidd i fyfyrwyr a staff asymptomatig Caerdydd ar y campws.

Gyda’r holl ddarnau hyn yn dod at ei gilydd nawr, mae’n teimlo fel ein bod wedi cyflawni cymaint yn barod. Mae llawer mwy i ddod o ran deall sut mae COVID-19 yn symud ymhlith y gymuned. Mae’n teimlo’n arbennig iawn i Gaerdydd gymryd y cam arloesol hwn ar gyfer ein myfyrwyr, ein staff a’n dinas.”

Mae deall sut mae COVID-19 yn symud drwy boblogaethau prifysgolion a’u cymunedau o bwysigrwydd byd-eang. Bydd profion asymptomatig Prifysgol Caerdydd yn cynnig data a mewnwelediad gwerthfawr yn y maes hwn, tra’n cefnogi diogelwch a lles ein campws a’n cymunedau lleol.

Dysgwch fwy am fesurau diogelwch a chynlluniau croeso ‘nôl Prifysgol Caerdydd.