Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Campws tawel: Prifysgol Caerdydd mewn lluniau

23 Medi 2020

Gan ein bod yn rhagweld y bydd myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer tymor newydd yr hydref, mae’r unigedd sy’n gysylltiedig â’r adeiladau cyfarwydd hyn yn newid yn araf.

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhyfedd ac yn llonydd, ond bydd croeso cynnes i ddychweliad sŵn traed a golwg wynebau cyfeillgar. 

Mae delweddau o gampws gwag Prifysgol Caerdydd yn ystod y clo yn haf 2020 yn drawiadol. Gan fyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd, mae’r Brifysgol hefyd yn edrych ymlaen ag agwedd gadarnhaol a gobeithiol. 

Gyda chynlluniau ar gyfer cymysgu dysgu ar y campws ac yn ddigidol, mesurau diogelwch ar gyfer llety, a phrofion mewnol arloesol COVID-19 ar gyfer staff a myfyrwyr asymptomatig, mae Prifysgol Caerdydd yn barod iawn i groesawu myfyrwyr a staff yn ôl yn ddiogel, ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. 

Boed ar-lein neu’n bersonol, mae Cymuned Caerdydd o fyfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr yn un gref. 

Croesawu pawb yn ôl!

Diolch i @CardiffUniLib, Alan Hughes a TJ Rawlinson am y lluniau.