Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrStraeon cynfyfyrwyr

Mercy Ships, y GIG, a systemau gofal iechyd ar draws y byd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

16 Gorffennaf 2020
Patient trying to feel face after surgery and Dr Cheng in the surgical theatre.

Mae Leo Cheng (LLM 2006) yn llawfeddyg y geg, y genau a’r wyneb, y pen, a’r gwddf sydd wedi treulio rhan fwyaf o’i fywyd yn teithio’r byd ac yn helpu’r rheiny o’r ardaloedd tlotaf drwy roi llawdriniaeth am ddim a darparu gofal iechyd sydd ei ddirfawr angen. Mae bellach wedi troi ei sylw a’i ymdrechion tuag at COVID-19 ac mae’n myfyrio ar ei brofiad hyd yn hyn gyda’r GIG a’i bryderon ynghylch y rheiny sydd heb system iechyd gwladol. 

Ers bron i 20 mlynedd rwyf wedi bod yn defnyddio fy ngwyliau blynyddol i wasanaethu gyda’r Mercy Ships yng Ngorllewin Affrica, yn darparu llawdriniaethau arbenigol: ailadeiladol, i’r genau a’r wyneb, a thyroid am ddim i’r tlodion angof. Mae fy ngwraig a’n dwy ferch wedi do gyda mi ar rai o fy nheithiau allgymorth, yn helpu cleifion pryderus gyda’n gilydd fel pâr neu fel teulu. 

Mae Mercy Ships yn gweithredu’r llong ysbyty fwyaf yn y byd i gael ei chynnal gan elusen. Mae’n cynnig gofal meddygol a llawfeddygol angenrheidiol am ddim i rai o wledydd lleiaf datblygedig y byd. Mae’r ysbyty hwn sy’n arnofio yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, sy’n rhoi eu harbenigedd am ddim i helpu cleifion gyda phroblemau llygaid a deintyddol, anffurfiadau wynebol fel gwefus a thafod hollt, tiwmorau yn y pen, wyneb, gwddf, aelodau a’r corff, traed clwb, anafiadau genedigol, llosgiadau a llawer o anffurfiadau a chyflyrau eraill.   

Roeddwn yn helpu pobl Senegal ar fwrdd yr Africa Mercy gyda fy ngwraig Hilary, sy’n Weinidog o’r Gylchdaith Goedwig Fethodistaidd yng Ngogledd Ddwyrain Llundain, pan ddechreuodd COVID19 ledu ar draws y byd. Roedd y sefyllfa yn ei gwneud hi’n amhosibl i’r Mercy Ships barhau gyda’n gwasanaeth maes gan fod yr Africa Mercy yn uned lawfeddygol arbenigol a does ganddi mo’r adnoddau i ddelio â haint anadlol hynod heintus O fewn ychydig wythnosau ar ôl cyrraedd yn ôl yn y DU, roeddwn yn gweithio goramser yn y ras yn erbyn ymchwydd coronafeirws mewn sawl ysbyty yn Llundain   

Ar wahân i lawdriniaethau hanfodol canser a thrawma ar gyfer anafiadau i’r pen a’r wyneb, mae fy nhîm a minnau hefyd yn darparu cymorth llawfeddygol i’r llwybr anadlu ar gyfer cleifion COVID-19 difrifol wael drwy wneud tyllau yn eu corn gwynt (traceostomi) er mwyn hwyluso gweithrediad eu hysgyfaint mewn ysbytai COVID-19.  

Mae gweithio gyda Chyfarpar Diogelu Personol (PPE) wedi bod yn broses ddysgu gan ein bod angen sicrhau digon o ddŵr i’n cyrff wrth leihau nifer yr egwyliau tŷ bach (anodd ar adegau!), mynegiant clir er mwyn osgoi camddealltwriaeth gyda llais wedi’i fygu o dan y masg FFP3 (N99) a’r miswrn, diwygio gweithdrefnau llawfeddygol er mwyn lleihau’r cynhyrchiad diangen o aerosol, gweithdrefnau ac archwiliadau ychwanegol i leihau’r risg o ‘ddychwelyd i’r theatr driniaeth’, a hylendid personol estynedig yn erbyn y gelyn anweledig.   

Leo Cheng with wife Hilary Cheng, waving outside a Mercy Ship hospital

Er bod coronafeirws wedi tarfu’n eithriadol ar bob lefel o’r gymdeithas, mae wedi cyflymu’r broses o groesawu technoleg a’r rhyngrwyd, yn enwedig mewn gofal iechyd. Mae clinigau ffôn a rhithwir wedi dod yn ‘normal newydd’ a chynadledda ar y ffôn wedi dod yn rhan fawr o’m hamser clinigol – yn cysylltu â’n timau clinigol a rheoli, a chael cyfarfodydd tîm canser amlddisgyblaethol.   

Yn ystod y pandemig, mae’r GIG yn edrych ar ôl pawb yn y ffordd fwyaf diogel posibl ac wedi cynhyrchu’r capasiti i ddelio â’r argyfwng iechyd digynsail hwn Er y marwolaethau trist sy’n cael eu hadrodd yn ddyddiol yn y newyddion, mae straeon o lwyddiant lle mae cleifion COVID-19 yn gadael yr uned gofal dwys ac yn cael cerdded allan o’r ysbyty.  Mae pawb yn ein gwlad yn curo dwylo ar gyfer y GIG a gweithwyr allweddol eraill pob wythnos, ond mae staff y GIG hefyd yn curo dwylo ar gyfer y cleifion sydd wedi gwella ac yn gadael yr ysbyty. Er enghraifft, fe wnaeth nain i dri o blant drechu coronafeirws mewn amser ar gyfer ei phen-blwydd yn 74 yn ddiweddar.   

Rwy’n hynod ddiolchgar am adnoddau a darpariaeth ein GIG (gwasanaeth rhad ac am ddim ein gwlad sydd o’r radd flaenaf), yr holl gyfleustodau hanfodol sydd ar gael (e.e. trydan, dŵr, nwy), bwyd a nwyddau traul ar silffoedd archfarchnadoedd, a chyngor arbenigol synhwyrol gan weithwyr iechyd cyhoeddus i atal lledu’r gelyn anweledig hwn.   

Mae fy mhrofiad innau ar draws y byd yn golygu fy mod yn gwybod pa mor ffodus yr ydym a pha mor anodd bydd y pandemig i eraill, yn enwedig y rheiny mewn rhannau o Affrica.  

Mae Affrica yn paratoi ar gyfer y gwaethaf gyda COVID-19. Clywais rywun yn dweud hyn: pan mae gogledd y byd yn dal anwyd, mae Affrica yn cael niwmonia. Mae hyn oherwydd ei hisadeiledd gofal iechyd gwael a lefelau uchel o dlodi a diffyg addysg. Gallwch weld yr anghydraddoldeb anhygoel ac enfawr mewn adnoddau a chyfleusterau gofal iechyd rhwng y byd datblygedig a’r byd sy’n datblygu.  

Unwaith bydd y sefyllfa fyd-eang yn caniatáu, fe wnawn ddychwelyd i Affrica a helpu i gryfhau systemau gofal iechyd ar ôl y pandemig. Roedd yr Africa Mercy yno ar gyfer Guinea yn 2016 wedi i Ebola ledu ar draws Gorllewin Affrica a byddwn yno ar gyfer Gorllewin Affrica wedi COVID-19.   

Yn y cyfnod heriol hwn o gyfyngiadau symud ac ansicrwydd i’r economi, cyflogaeth a theithio, rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y byddwn ni ddinasyddion y byd yn dod allan o COVID-19 yn dangos mwy o gariad a gofal at ein gilydd drwy fod yn barod i helpu eraill o fewn ein cymuned a thu hwnt. 

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.