Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Sut mae Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr

1 Mai 2020

Mae Simon Wright (LLB 1995) a Claire Morgan (BSc Econ 1992, MSc 1994) ill dau yn gynfyfyrwyr ac yn aelodau staff – dywedon wrthym am yr her o gefnogi myfyrwyr drwy’r argyfwng.

Simon Wright (LLB 1995) yw Cofrestrydd Academaidd Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod ers 2015:

“Mae COVID-19 wedi rhoi myfyrwyr Caerdydd, fel llawer ohonom, drwy gymaint. Mae wedi troi popeth yn eu bywydau ben i waered mewn amser byr iawn.

“Mae’r sefyllfa ar gyfer pob myfyriwr yn wahanol, ond fel pob un ohonom, maent yn ffeindio bod popeth bellach yn wahanol. Yn ystod y cyfnod hwn o’r holl newid ac ansicrwydd, rwyf yn falch iawn o sut mae Prifysgol Caerdydd wedi cefnogi ein myfyrwyr. Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau mawr ar garlam – weithiau gydag ychydig o arweiniad gan y llywodraeth a’n sector, neu arweiniad sy’n datblygu.

“Daeth y Brifysgol ar draws COVID-19 am y tro cyntaf yn ystod misoedd cynnar 2020, wrth i ni weld ein hunain yn cefnogi ac yn arwain dwsinau o fyfyrwyr Caerdydd ar leoliadau yn Tsieina. Roedd cyngor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn newid bob dydd, ac roedd weithiau’n cwympo y tu ôl i bryderon y myfyrwyr. Roedd myfyrwyr Caerdydd yn gwrando ac yn gweithredu ar gyngor gennym ni, ffynonellau cyhoeddus, a gan ffrindiau ac aelodau o’r teulu ledled y byd.

“O’r cychwyn cyntaf, prif flaenoriaethau Caerdydd oedd amddiffyn iechyd a lles myfyrwyr, a’u cynnydd o ran dysgu ac yn y maes academaidd.”

Daeth Claire Morgan (BSc Econ 1992, MSc 1994) yn Rhag Is-Ganghellor ar gyfer Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr yng Nghaerdydd yn ystod gwanwyn 2020, wedi iddi fod yn Gyfarwyddwr i’r Ganolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg yn flaenorol:

“Wrth i COVID-19 gyrraedd y DU ym mis Mawrth a chawsom wybod yn gyflym iawn am y cyfyngiadau symud, bu’n rhaid i’r Brifysgol newid i ddysgu o bell ar gyflymder anhygoel. Gwnaethom ganolbwyntio ar ddefnyddio systemau digidol presennol i gefnogi hyn – gan greu canllawiau newydd, syml er mwyn sicrhau bod staff yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am addysgu ac asesu o bell.

“Ein nod oedd galluogi holl academyddion Caerdydd i allu addysgu o bell, gan ganolbwyntio ar ddarparu cynnwys digidol i’n myfyrwyr mewn modd cyfleus. Roedd rhai aelodau o’r staff eisoes yn llythrennog iawn yn ddigidol, gan ddysgu wyneb i waered, neu gynnal sesiynau grwpiau rhithwir. Ond roedd angen mwy o arweiniad ar rai. Cymerodd egni a disgyblaeth, ar gyflymder, i uwchsgilio pawb. Cyn i’r adeiladau gau oherwydd y cyfyngiadau symud, gwnaeth rai academyddion gyflwyno darlithoedd i ystafelloedd dosbarth gwag er mwyn eu recordio’n ddigidol! Ers hynny rydym wedi gweld dulliau arloesol o addysgu ar-lein yn cael eu defnyddio, ac mae bellach cymuned gref o gymheiriaid wedi dod i’r amlwg ym mhob rhan o’r Brifysgol. Mae awydd clir ym mhob disgyblaeth i gynnig yr amgylchedd dysgu gorau posibl i fyfyrwyr Caerdydd, a chynnal eu profiad addysgol o ansawdd uchel.

“Mae’r gwaith o asesu’n datblygu’n gyflym iawn hefyd. Rydym am i bob myfyriwr wireddu ei botensial – boed hynny’n graddio eleni neu’n symud ymlaen i’w flwyddyn nesaf o astudio. Rydym wedi datblygu dulliau newydd o asesu, gan geisio amddiffyn buddiannau myfyrwyr ar yr un pryd â chynnal safon Grŵp Russell o ran gwobrau gradd Caerdydd. Bydd llawer o’n myfyrwyr blwyddyn gyntaf, a phob un o’n myfyrwyr blwyddyn olaf, yn gwneud rhyw fath o asesiad ar-lein yn ystod y misoedd nesaf.

“Rydym am gynnig rhywle i fyfyrwyr ddangos yr hyn maent yn gallu ei gyflawni. Mae hyn yn amrywio’n eang yn dibynnu ar yr ysgol a’r cwrs. Er enghraifft, astudiais economeg yn yr Ysgol Busnes a sefais fy arholiadau terfynol mewn neuadd arholi. Bydd dosbarth 2020 yn sefyll arholiad tebyg yn ddigidol, fel asesiad llyfr agored o bosibl. Mae rhai disgyblaethau eraill wedi datblygu dulliau newydd, gan gynnig asesiadau synoptig neu fyfyriol, neu’n defnyddio gwaith cwrs y gellir ei gwblhau dros amser yn lle arholiadau.

“Mae Caerdydd wedi datblygu “polisi rhwyd ddiogelwch” arloesol er mwyn sicrhau y gall graddau neu ddosbarthiadau graddau a gafwyd cyn yr achosion o Goronafeirws gael eu cynnal neu eu gwella yn unig ar gyfer pob myfyriwr – fel na fydd un myfyriwr o dan anfantais oherwydd COVID-19.

“Rwyf wedi cyrraedd fy rôl newydd yng nghanol cynnwrf enfawr. Mae hyn hefyd yn gyfnod ar gyfer arloesedd, a bydd Caerdydd yn ymateb i’r her hon rwy’n siŵr. Efallai y byddwn yn goresgyn â rhai deilliannau da hyd yn oed, fel mwy o ddysgu cyfunol, a defnydd priodol o adnoddau digidol a all gyfoethogi ein dulliau dysgu’n sylweddol.”

Simon: “Hefyd, mae ein myfyrwyr wedi angen cael cymorth y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Rydym wedi hyrwyddo ein ap cymorth iechyd meddwl TalkCampus; ac yn cysylltu’n bersonol â phob myfyriwr sy’n hysbys i’n gwasanaeth cwnsela myfyrwyr a lles. Rydym yn sicrhau bod cronfeydd caledi ychwanegol ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n delio â goblygiadau ariannol eithriadol.

“Fel prifysgol sydd â 32,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 10,000 o fyfyrwyr rhyngwladol, nid ydym byth yn “cau” mewn gwirionedd. Ar unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn mae miloedd o fyfyrwyr yn ein preswylfeydd ac yn byw yn Cathays. Rydym yn gwybod bod llety’n bwysig, ac rydym wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr yng Nghaerdydd yn dod yn ddigartref y tymor hwn. Nid oes yn rhaid i unrhyw fyfyriwr sydd wedi mynd adref dalu ffioedd am lety’r brifysgol ar gyfer y trydydd tymor (gyda rhai’n gadael eu heiddo ar eu hôl, neu rewgelloedd yn llawn!) ac rydym wedi lobïo prif ddarparwyr preifat Caerdydd i wneud yr un peth.

“Mae tiwtoriaid academaidd yn cysylltu â myfyrwyr yn bersonol. Yn ogystal â hyn, yng nghanol mis Mawrth gwnaethom sefydlu Gwasanaeth Galw Myfyrwyr, gan ofyn i bob myfyriwr roi gwybod ble roedden nhw a pha amgylchiadau roeddynt yn eu hwynebu. Mae gennym weithlu o wirfoddolwyr o dros 250 o aelodau o staff sy’n galw myfyrwyr sydd wedi aros yng Nghaerdydd i gysylltu o leiaf unwaith yr wythnos ac mewn llawer o achosion ddwywaith yr wythnos, a sicrhau eu bod yn gwybod sut i gael gafael ar gymorth gan y Brifysgol a Chyngor Dinas Caerdydd.

“Mae’r gwasanaeth wedi cael ei dderbyn yn dda iawn ac rydym wedi cael mwy na 5,500 o sgyrsiau â’n myfyrwyr ers i ni ddechrau ar 19 Mawrth. Mae llawer wedi dweud wrthym eu bod yn ymdopi’n iawn â’r cyfyngiadau symud, ac ar gyfer y rhai hynny sydd â chwestiynau neu ymholiadau, rydym wedi cynnig cyngor ac arweiniad.

“Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yno ar gyfer y myfyrwyr hynny a all fod angen cymorth arnynt fwyaf. Mae llawer wedi dychwelyd i gartrefi eu teuluoedd, ond mae llawer wedi dewis peidio, neu’n methu, â gwneud hynny. Yr hyn sy’n bwysig yw bod Prifysgol Caerdydd yn cysylltu â’i myfyrwyr ac yn eu helpu lle bynnag y gallwn.

“Un peth olaf gen i. Rwy’n meddwl am fy mlwyddyn olaf fy hun yng Nghaerdydd, ac rwy’n drist y bydd myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf yn 2020 yn cael profiad hollol wahanol. Ni fydd yr holl fyfyrwyr sy’n cymryd asesiadau ar-lein yn cwrdd yn Undeb y Myfyrwyr am beint ar ôl yr arholiad a phost-mortem. Ni ellir cynnal ein seremonïau graddio ym mis Gorffennaf, sef un o’r digwyddiadau allweddol ym mywyd y sefydliad bob blwyddyn. Bydd myfyrwyr a’u hanwyliaid, ynghyd â’r Brifysgol gyfan, yn gweld eisiau’r digwyddiadau hyn.

“Bydd cerrig milltir allweddol eraill y Brifysgol yn cael eu colli hefyd, pacio tai ar ddiwedd y tymor, parti olaf gyda ffrindiau, neu fflyrt fach â chyd-fyfyriwr am y tro olaf. Does braidd neb yn cerdded drwy’r coed blodeuog yng Ngerddi Alexandra a bydd Parc Bute yn wag o’r cyfuniad o bobl sy’n adolygu yn yr awyr agored ac yn cael picnic ar ôl arholiad.

“Mae campws arbennig, trefol Caerdydd yn cynnig profiad preswyl unigryw – un lle bydd myfyrwyr yn tyfu ym mhob agwedd ar eu bywydau. Gallai dosbarth 2020 deimlo fel nad yw eu pennod wedi gorffen yn iawn, ond rwy’n gobeithio y gallwn helpu ein myfyrwyr i gyd i gofio’r pethau gorau am Gaerdydd, i wybod pa mor galed y mae’r brifysgol yn gweithio i’w cefnogi, ac i ddeall eu bod yn aelodau pwysig o gymuned Caerdydd ac y bydd hynny’n wir am byth.”

Bydd rhoddion i Gronfa Diogelu COVID-19 Prifysgol Caerdydd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer lles meddyliol a chorfforol myfyrwyr a staff – gan gadw pobl a mannau yn ddiogel drwy gymuned Prifysgol Caerdydd benbaladr.