Skip to main content

Cyswllt CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrStraeon cynfyfyrwyr

Ymateb ffydd i argyfwng

27 Mawrth 2020

Mae’r Parchedig Delyth Liddell (BTh 2003, MTh 2014) yn weinidog Methodistaidd, a hi yw Caplan Cydlynu Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig lle o gyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrio, gweddïo, cymorth a deialog, lle gall fyfyrwyr a staff gymdeithasu ac ystyried ffydd ac ysbrydolrwydd. Mae pob un o’r caplaniaid yn dod o gefndiroedd crefyddol gwahanol.

Yn ystod y cyfnod hwn, fel yr arfer, mae’r Gaplaniaeth yma ar gyfer cymdeithas gyfan Prifysgol Caerdydd. Bydd yr heriau mae’r pandemig hwn yn eu cyflwyno, o orbryder a cholled i effaith cadw pellter synhwyrol oddi wrth bobl, yn effeithio ar wahanol bobl mewn ffyrdd na allwn ddychmygu. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn mynd ati nawr i dynnu sylw at bresenoldeb y Gaplaniaeth. Ni allwn fyth wybod ar bwy fydd angen ein cefnogaeth.

Rydym yn cefnogi ymateb y Brifysgol i bandemig y Coronafeirws. Rydym yn cynnig presenoldeb gweddigar, ac rydym ar gael i ddelio â materion sy’n dod i’r amlwg i unigolion neu grwpiau. Rydym yn addasu’n gyflym mewn byd sy’n newid yn gyflym: er enghraifft, ar y funud rydym yn newid y ffordd rydym yn cynnal gwasanaethau crefyddol a digwyddiadau eraill. Ond gan gyd-fynd â’n cenhadaeth graidd, byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu ein gofal bugeiliol a’n cefnogaeth grefyddol ar gyfer myfyrwyr a staff Caerdydd, drwy dosturi a thrwy gariad.

Rwy’n caru fy ngwaith. Mae’n alwedigaeth, nid swydd. Mae darparu cefnogaeth ysbrydol, emosiynol a bugeiliol i fyfyrwyr a staff, beth bynnag eu crefydd, yn arbennig iawn ac yn deimlad gwerth chweil. Fe wnes i ddod i Gaerdydd yn 2000 i astudio ar gyfer gradd mewn Diwinyddiaeth, a dychwelais fel Gweinidog Methodistaidd i fod yn Gaplan yn 2010. Yn 2017 cefais fy mhenodi’n Gaplan Cydlynu ar gyfer y Gaplaniaeth. Caerdydd yw fy nghartref, felly rydw i wrth fy modd pan mae myfyrwyr yn dychwelyd flynyddoedd ar ôl gadael, i roi gwybod eu bod yn byw bywydau llwyddiannus a hapus. Weithiau, y cymorth gawsant gennym ni wnaeth ysgogi eu llwyddiant.

Mae crefydd yn rhan bwysig o waith y Gaplaniaeth. Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig man agored a chynhwysol lle gall bobl siarad am ffydd, crefydd, ethos a moeseg – gan gefnogi crefydd fel nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae staff a myfyrwyr yn addoli a gweddïo gyda’n caplaniaid, sydd yn Anglicanaidd, Catholig, Cristion y Dwyrain, Iddewig, Methodistaidd a Mwslimaidd. Rydym i gyd yn gweithio gyda chymdeithasau myfyrwyr sy’n seiliedig ar ffydd.

Ond rydym yn cynnig mwy na chefnogaeth sy’n seiliedig ar ffydd. O bryd i’w gilydd, mae angen angen rhywun gofalgar ar fyfyrwyr a staff i wrando arnynt, cynnig geiriau caredig neu roi help llaw. Rydym yn gweld llawer o staff a myfyrwyr ac yn eu cefnogi gyda’n cinio £1 wythnosol (cwmni grêt, cyrri grêt!), digwyddiadau gyda’r nos wythnosol, a thrrwy gyfarfodydd cyfrinachol. Mae pawb – gan gynnwys cynfyfyrwyr – sy’n ymweld â’r Gaplaniaeth yn 61 Plas y Parc yn cael croeso cynnes a phaned. Wrth gwrs, mae’r digwyddiadau hyn wedi dod i ben yn ystod y pandemig, ond mae’r caplaniaid ar gael o hyd drwy ebost neu dros y ffôn.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu i ymestyn ar draws y gymuned yn gyflym. Mae ein tudalennau Twitter, Facebook ac Instagram, a’n presenoldeb ar y fewnrwyd yn ein galluogi i gael effaith ar lawer o fywydau. Rydym yn ymdrechu i roi gwybodaeth i bobl a’u cadw mewn cysylltiad. Yn fwy na dim, rydym yn eu hatgoffa ein bod yma. Mae pobl yn gwerthfawrogi’r sicrwydd fod ein caplaniaid yma iddynt pan mae arnynt ein hangen.

Mae’r Gaplaniaeth yn gweithio yn agos gyda’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ac wedi’i leoli ynddynt – ond nid yw’n cael ei redeg ganddynt. Rydym yn annibynnol o’r ddau gorff, ond rydym yn lwcus iawn i gael llawer o gysylltiadau ynddynt. Rydym yn cynnig man niwtral a diogel ar gyfer myfyrwyr a staff.

Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn yn dechrau gydag wythnos y glas pan rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod myfyrwyr ac eraill yn gwybod ein bod yma i bawb, beth bynnag fo’u crefydd. Rydym yn bresenoldeb gweddigar mewn gwyliau dinesig a chrefyddol drwy’r flwyddyn – er enghraifft yng ngwasanaeth Sul y Cofio, a Charolau Nadolig o amgylch y goeden yn Oriel VJ. Mae Ramadan ac Eid, ynghyd â’r Pasg, yn aml yn digwydd y tu allan i amser y tymor, ond fel caplaniaid crefyddol mae’r rhain yn rhan fawr o’n bywydau a’n gwaith. Mae diwrnod graddio yn llawenydd pur ac yn fraint i ni: rydym wrth ein bodd yn dathlu llwyddiannau pobl rydym wedi’u cefnogi a’u caru.

Rydym yn cefnogi amrywiaeth mor eang o bobl. Wrth gwrs, rydym yn helpu’r rheiny sydd ag anghenion difrifol i ddod o hyd i adnoddau a chymorth; ond mae’r Gaplaniaeth gan amlaf yn rhywle lle gall myfyrwyr a staff ddod o hyd i gadarnhad a charedigrwydd. Mae pobl yn dod atom a theimlo bod rhywun wir yn gwrando arnynt, eu gweld, eu deall, yn cynnig gwên, yn gweddïo drostynt os yw’n briodol, neu’n cynnig rhywun i weddïo gyda nhw os ydynt yn dymuno. Gallwn eu helpu i deimlo’n llai unig, codi eu hwyliau, meithrin cyfeillgarwch, a dechrau gwella. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda myfyrwyr LGBTQ+: mae llawer ohonynt yn gweld y brifysgol fel lle sy’n cynnig rhyddid, ond wedyn gallent wynebu profiad brawychus neu unig o ddod allan i’w teulu a’u ffrindiau gartref. A minnau’n fenyw hoyw fy hun, rwyf yn gwneud fy ngorau i gynnig empathi a dealltwriaeth o’r sefyllfaoedd gall y myfyrwyr hynny eu wynebu.

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n wynebu amser caled neu’n teimlo gorbryder, ofn, unigrwydd yw: byddwch yn hael arnoch eich hun. Gwnewch beth sydd ei angen arnoch chi i ymlacio – boed hynny’n cael bath, dweud gweddi neu wylio Netflix un rhaglen ar ôl y llall! Ni allwn ddianc o’r amser pryderus sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd. Ond mae fy ffydd yn fy nysgu y gallwn wynebu ein hofnau gan fod cariad gyda ni. Gall hynny fod yn gariad cyfeillion neu deulu; i eraill bydd hynny yn gariad Duw, sydd wastad gyda ni.