Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Prifysgol Caerdydd yn serennu mewn cyfresi teledu

22 Chwefror 2024

Ydych chi’n hoff o hel atgofion am Brifysgol Caerdydd? Ydych chi’n hoff o adnabod lleoliadau cyfarwydd ar y teledu? Rydym wedi llunio rhestr o gyfresi teledu sydd wedi eu ffilmio yn adeiladau’r campws ac o’u cwmpas. I weld hyd yn oed rhagor ar y Brifysgol, edrychwch ar archif o sgrîn-luniau ar yr Instagram @filmatcardiffuni.

Doctor Who 

Mae’r gyfres wyddonias adnabyddus hon wedi bodoli ers 1963 ond fe’i hail-lansiwyd yn 2005 o’i chartref yng Nghaerdydd. Mae’n debygol bod ein cyn-fyfyrwyr a’n myfyrwyr yn ymwybodol o’i chysylltiadau â’n campws, gyda nifer o’i golygfeydd wedi’u saethu ar ein tiroedd. Bydd cyfle i chi adnabod sawl lleoliad yn y ddrama hon (yn enwedig yn y ddegfed gyfres, y mae Peter Capaldi yn ymddangos ynddi). 

Mae Doctor Who ar gael ar BBC iPlayer a BritBox.

Sherlock

Mae’r gyfres drosedd hynod boblogaidd hon yn tywys Benedict Cumberbatch a Martin Freeman ledled Caerdydd, â’r ddinas yn cael ei defnyddio i bortreadu rhannau o Lundain. Fe sylwch ar Brif Adeilad y Brifysgol ym mhenodau cyntaf ac olaf y sioe, tra bod ystod o leoliadau eraill ar y campws yn ymddangos yn y ddrama, gan gynnwys Hadyn Ellis a’n labordai Optometreg. Mae’r Amgueddfa Genedlaethol leol hefyd yn ymddangos am gyfnodau byrion yn y ddrama ar wahanol adegau.

Gallwch ffrydio Sherlock ar BBC iPlayer a NOW TV. 

His Dark Materials 

Mae His Dark Materials yn addasiad arall o gyfres o lyfrau tra phoblogaidd, ac mae nifer o sêr yn ymddangos yn y ddrama. Mae Adeilad Morgannwg a Theml Heddwch Prifysgol Caerdydd ill dau yn gefndir i’r ddrama ffantasi, a bydd lleoliadau eraill yn gyfarwydd i’r rhai sydd wedi dod i adnabod Caerdydd y tu hwnt i’r campws. 

Ffrydiwch dri thymor y sioe ar BBC iPlayer.

The Way

Mae Port Talbot yn serennu yn ddrama dair rhan hon, sydd ar y sgrîn nawr, ac sydd wedi’i chyfarwyddo gan Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, Michael Sheen. Bu i’r ffilmio ddigwydd y tu hwnt i Bort Talbot hefyd, a hynny ar gampws Prifysgol Caerdydd – gydag adeilad Hadyn Ellis yn ymddangos yn y ddrama.

Mae The Way ar gael ar BBC iPlayer.

A Discovery of Witches

Bu i Gymru groesawu cyfres ffantasi arall gyda A Discovery of Witches. Mae’r rhamant teithio trwy amser hon yn dilyn y sêr Teresa Palmer a Matthew Goode drwy nifer o olygfeydd trawiadol ledled tirweddau a safleoedd treftadaeth Cymru. Fe welwch Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd yng nghyfres tri, lle mae’n ymddangos fel llys yn New Orleans.

Mae A Discovery of Witches ar gael ar NOW TV.

Stella

Mae’r ddrama gomedi hon yn dilyn Ruth Jones yn nhref ffuglennol Pontyberry, a bu i’r ffilmio ddigwydd yn y Rhondda’n bennaf. Serch hynny, mae’n anodd peidio â sylwi ar Brifysgol Caerdydd yng nghyfres chwech – gwyliwch am y Prif Adeilad ac ambell i olygfa o wythnos y glas yn y dyddiau a fu.

Gallwch ffrydio Stella ar NOW TV.

Industry

Mae’r ddrama ddwys hon ynghylch gwaith yn dilyn graddedigion sy’n cystadlu mewn prif fanc buddsoddi. Er bod y ddrama wedi’i lleoli yn Llundain, bu i ran helaeth o’r ffilmio ddigwydd yng Nghaerdydd – ac mae Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn ymddangos yn yr olygfa gyntaf un.

Mae Industry ar gael ar BBC iPlayer.

Black Cake

Drama hanesyddol gan y Cynhyrchydd Gweithredol Oprah Winfrey yw Black Cake, a daeth i’r sgrîn yn 2023. Mae’r ddrama’n tywys cynulleidfaoedd ar daith o amgylch y byd ac mae Cymru’n gefnlen iddi ar sawl achlysur, gan gynnwys Adeilad Morgannwg y Brifysgol, Y Deml Heddwch, a sbarc.

Mae Black Cake ar gael i’w ffrydio ar Disney +.

Decline and Fall

Mae Adeilad Morgannwg a’i bensaernïaeth hardd yn ymddangos yn y gyfres fer hon o’r 1920au hefyd, y mae Jack Whitehall ac Eva Longoria yn serennu ynddi.

Mae Decline and Fall ar gael ar hyn o bryd ar Prime Video.

Requiem

Mae’r ffilm ias a chyffro chwe rhan arswydus hon yn rhoi Cymru yng nghanol y llwyfan. Ydych chi’n adnabod ambell i leoliad cyfarwydd ym Mhrifysgol Caerdydd ynddi? Efallai y byddwch yn dechrau gweld ein campws mewn goleuni hollol wahanol. 

Mae Requiem ar gael i’w ffrydio ar Netflix nawr.

Class

Efallai bod y gyfres hon sy’n deillio o Doctor Who hwn wedi’i gosod yn Academi ffuglennol Coal Hill yn Llundain, ond a wnewch chi sylwi ar adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd ynddi?

Mae Class ar gael i’w ffrydio ar BBC iPlayer a BritBox.

Traitors

Mae Traitors yn llawn ysbïo a brad – ond nid sioe realiti’r BBC sydd dan sylw yma. Mae Keeley Hawes yn ogystal â sawl lleoliad yng Nghaerdydd, gan gynnwys Adeilad Morgannwg yn serennu yn gyfres fer hon a ddaeth i’r sgrîn yn 2019.

Mae Traitors ar gael ar Netflix ar hyn o bryd.

Ydych chi eisiau gweld rhagor ar Gaerdydd? 

Ydych chi eisiau parhau i hel atgofion – neu efallai eich bod eisoes wedi gwylio’r cyfresi uchod – peidiwch â phoeni, mae gennym ni ddigon i’w gynnig i chi. Dyma restr o gyfresi teledu a ffilmiwyd yng Nghaerdydd a’i chyffiniau:  

Gavin a Stacey – Y Barri

Yn gyntaf, y gomedi sefyllfa boblogaidd a seiliwyd ar Ynys y Barri, Gavin a Stacey. Ar gael ar BBC iPlayer a NOW TV.

Being Human – Y Barri

Yn y ddrama gomedi oruwchnaturiol hon roedd ysbryd, blaidd, a fampir yn rhannu tŷ â’i gilydd. O gyfres tri ymlaen, y Barri oedd eu cartref. Ar gael i’w ffrydio ar ITVX a BritBox. 

Sex Education – Dyffryn Gwy

Ffilmiwyd y gyfres gomedi hon sydd wedi’i seilio ar bobl yn eu harddegau, mewn sawl lleoliad yn Ne Cymru a bu tirwedd hardd Dyffryn Gwy yn rhan bwysig ohoni. Roedd ambell i fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, sydd yn gyn-fyfyrwyr erbyn hyn, yn serennu yn y gyfres! Ar gael ar Netflix

Da Vinci’s Demons – Tongwynlais

Cyfres ffantasi hanesyddol yw hon, mae tirwedd hudolus Tongwynlais yn amlwg ynddi. Ar gael i’w ffrydio ar Disney +.

Merlin – Tongwynlais

Drama ffantasi arall wedi’i ffilmio o gwmpas Tongwynlais ac, yn benodol, Castell Coch. Ar hyn o bryd ar gael i’w ffrydio ar BBC iPlayer, Disney +, NOW TV, a BritBox. 

Galavant – Castell Caerffili

Gan gadw at gestyll, efallai y bydd y ffantasi gerddorol ganoloesol hon yn sioe fydd at eich dant.

Torchwood – Caerdydd

Cafodd y ddrama hon a ddeilliodd o Doctor Who hwn ei hanelu at gynulleidfa hŷn, ac mae’n dilyn tîm sydd ar hynt creaduriaid estron yn y ‘Torchwood Institute’ yng Nghaerdydd. Fe fu i’r gyfres ennyn diddordeb enfawr, i’r graddau fod cofeb i un o’r prif gymeriadau ym Mae Caerdydd hyd heddiw. Ar gael i’w ffrydio ar BBC iPlayer a BritBox. 

The Lazarus Project – Caerdydd

Dyw’r teithio drwy amser byth yn dod i ben yng Nghaerdydd – fe sylwch ar leoliadau cyfarwydd yn y gyfres wyddonias hon y mae Paapa Essiedu yn serennu ynddi. Gallwch wylio dau dymor y gyfres ar NOW TV.

Alex Rider – Caerdydd

Mae sawl lleoliad cyfarwydd yng Nghaerdydd yn cael eu defnyddio i bortreadu Llundain yn yr addasiad hwn sy’n gyfres am ysbïwr yn ei arddegau. Gallwch weld dau dymor cyntaf y sioe ar Freevee.

War of the Worlds – Caerdydd

Fe welwch siambr Senedd Bae Caerdydd yn yr addasiad cyfoes hwn sy’n gyfres wyddonias y mae Daisy Edgar-Jones a Gabriel Byrne yn serennu ynddi. Ar gael ar Disney+a Channel 5.

Casualty – Caerdydd

Bydd trigolion Caerdydd yn gyfarwydd â’r gyfres hirdymor hon sy’n cael ei ffilmio yn y ddinas a’r cyffiniau. Mae’r ddrama, sydd wedi sicrhau sawl cyfres, ar gael ar BBC iPlayer.