Skip to main content

Uncategorized @cy

5 perfformiad wnaeth wneud sblash yn Sŵn 2019

29 Hydref 2019

Ar ôl gŵyl Sŵn llwyddiannus arall, edrychwn ar rai o gyn-fyfyrwyr Caerdydd a gymerodd ran.

Papur Wal

Mae’r band yn cynnwys Ianto Gruffydd (BA 2017) ar gitâr a llais; Gwion Ifor (BA 2018) ar gitâr fas; a Guto Huws (BA 2017, MA 2019) ar y drymiau. Mae’n grŵp, indi-roc sy’n cael ei yrru gan gitâr a maent yn canu yn Gymraeg a Saesneg. Maent newydd gyhoeddi cerddoriaeth newydd yn yr haf ac mae sain y band wedi’i ddylanwadu gan fandiau megis Pavement a Mogwai.

Ani Glass

Mae Ani Glass (MSc 2019) yn chwistrellu deinameg newydd i fewn i’r sin cerddoriaeth Gymraeg. Mae ei chymysgedd o synths tywyll, sgleiniog Bladerunner-esque, ynghyd a’i llais breuddwydiol yn creu profiad gwrando unigryw, ac yn un i edrych allan amdani yn y dyfodol.

Bodyhacker

Mae’r triawd hwn o Gaerdydd yn grŵp trwm, punky a ‘grungy’. Ni fyddwch yn clywed unrhyw gitâr yng ngherddoriaeth Bodyhacker – y bas sy’n cael ei chwarae gan Josh Brimble (BA 2016) sy’n rhedeg y sioe. Mae hyn yn helpu creu esthetig beiddgar, pen isel gyda ‘fuzz’ a sgrechfeydd wedi cydblethu i lenwi eu sain ddigyfaddawd.

Gwilym

Band sydd wedi ennill nifer o wobrau o Ogledd Orllewin Cymru, mae’r triawd o gitaryddion, Gwilym, yn cynnwys un myfyriwr presennol – Llew Glyn (Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth 2017-). Mae eu fersiwn hwyl o bop-roc Cymraeg wedi arwain at ganeuon megis ‘Catalunya’ sydd wedi dod yn gân adnabyddus yn y sin roc Gymraeg

Chroma

Mae Katie Hall (BA 2017) yn dod a phresenoldeb a phersonoliaeth gref fel prif ganwr Chroma. Gan ddisgrifio eu sŵn fel roc-garage gyda dylanwadau math, mae’r triawd yn gwybod sut i roi sioe. Wedi sefydlu eu hunain yn sin Caerdydd ac mewn gwyliau ar hyd y wlad, mae eu cerddoriaeth yn dod i’r amlwg yn hawdd. Pwerus, melodig a swnllyd.