
Wyddech chi, pan sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ym 1883, dim ond 102 o fyfyrwyr amser llawn oedd ganddi? Bu’n siwrnai a hanner ers hynny – a gan fod archifau’r Brifysgol bellach yn cael eu digideiddio, dyma ambell uchafbwynt.
Yn y lle cyntaf, dyma wers hanes am arfbais y Brifysgol.
Pan gafodd ei sefydlu, roedd angel ar yr arfbais – a’r arwyddair Nerth Gwald Ei Gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Lladin.
Naw degawd yn ddiweddarach, newidiodd y Coleg ei enw i Goleg Prifysgol Caerdydd ac addasu’r arfbais, oedd bellach yn cynnwys angel ar ben tarian.
Yr ochr arall i’r heol, datblygodd Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru ei arfbais ei hun. Yn yr achos hwn, disodlwyd yr angel gan ddraig yn dal cog, a helmed marchog.
Fodd bynnag, erbyn 1988, roedd y ddau sefydliad wedi uno a mabwysiadu’r arfbais a ddefnyddir heddiw.
I dalu gwrogaeth i’n sefydliadau rhagflaenol, mae’r ddraig yn ogystal â’r angel yn ymddangos – tra bod yr arwyddair “Gwirionedd, Undod a Chytgord” wedi’i gymryd o Lyfr Gweddi Cyffredin 1662.
Yr holl newid ar y campws
Fodd bynnag, beth am y lluniau ardderchog o’r Brifysgol a’i sefydliadau cyfansawdd ar hyd y blynyddoedd? Wel, edrychwch ar beth ddaethom o hyd iddo.
Wynebau o hanes
Serch hynny, nid dim ond yr adeiladau sy’n gwneud Prifysgol – beth am y bobl sydd wedi gweithio a byw ynddyn nhw?
Sampl bychan yn unig yw hwn o rai o’r lluniau hanesyddol rydym yn lwcus o’u cael mewn cyflwr mor dda – a gyda’r archifau ar fin ymddangos ar-lein, cofiwch alw heibio i weld beth arall rydym wedi dod o hyd iddo er myn cysylltu gorffennol Caerdydd â’i phresennol.
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i gysylltu â deiliaid hawlfraint y deunydd yn yr erthygl hon, ond ni fu hynny’n bosibl mewn ambell achos. Os mai chi yw deiliad hawlfraint unrhyw un o’r delweddau uchod, neu os ydych yn adnabod y deiliad hawlfraint, cysylltwch â thîm Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.