Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Llundain yn galw – Dr Sara Jones yn rhedeg ar ran #TeamCardiff

25 Ebrill 2019

Ers 2016, mae bron i 1,000 o bobl wedi cofrestru i godi arian dros ymchwil canser, niwrowyddoniaeth a iechyd meddwl o safon fyd-eang yn rhan o #TeamCardiff.

Mae Dr Sara Jones (PhD 2000) yn un ohonynt.

Ond, yn wahanol i aelodau eraill y tîm, fydd hi ddim yn aros wrth y llinell ddechrau ar Stryd y Castell ym mis Hydref. Yn lle hynny, bydd Sara yn gwisgo lliwiau Caerdydd drwy Canary Wharf, dros Tower Bridge ac i lawr The Mall fel rhedwraig gyntaf y Brifysgol i redeg Marathon Llundain ddydd Sul 29 Ebrill.

Cawsom air gyda hi.

Sara, beth mae rhedeg dros ymchwil niwrowyddoniaeth a iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd yn ei olygu i ti?

Mae’n agos iawn at fy nghalon. Bu farw fy nhad yn 2016 ar ôl brwydro â dementia. Roedd yn wyddonydd anhygoel ac yn dioddef o diabetes math 1, ond y frwydr â dementia oedd fwyaf heriol iddo.

Yn ychwanegol at hynny, dros y 10 mlynedd ddiwethaf dwi wedi bod yn gweithio gyda DECIPHer, cyfleuster ymchwil iechyd cyhoeddus sydd ynghlwm â Phrifysgol Caerdydd. Dwi’n gwybod bod ymchwilio i’r meysydd heriol yma yn hanfodol os ydym am greu newid gwirioneddol a chael effaith gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf.

Sut gwnaethoch chi ddechrau rhedeg?

Dechreuais i tua chwe mlynedd yn ôl. Prin oeddwn yn gallu rhedeg cilomedr – ond yn araf bach dechreuais redeg yn bellach cyn i ffrind argymell y dylwn redeg ras 5k, ac ar ôl hynny, un 10k. Y peth nesaf, roeddwn wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd. Dwi heb edrych ‘nôl ers hynny.

Roedd rhedeg o les i fy iechyd meddwl hefyd. Pan oedd Dad yn byw gyda ni, roedd mynd allan i redeg am hanner awr fach yn ddigon i glirio fy meddwl ac yn help mawr. Rydw i bob amser yn teimlo’n well ar ôl rhedeg. Gyda lwc, bydd yn gwella bywydau pobl eraill drwy godi arian tuag at ymchwil gan olygu bod pawb ar eu hennill.

Ydych chi wedi rhedeg marathon llawn o’r blaen? Sut mae’r her yma yn wahanol yn feddyliol ac yn gorfforol i Hanner Marathon Caerdydd?

Doeddwn i byth yn credu y gallwn redeg marathon, ond ar ôl rhedeg dros 13.1 milltir wrth ymarfer, roeddwn yn teimlo’n llawer mwy hyderus. Wrth ymarfer y pellter llawn, rwy’n credu yn fy hun. Gawn ni weld!

Sut mae’r paratoadau’n mynd ar gyfer diwrnod y ras?

Dwi wedi cael cymaint o gefnogaeth gan ffrindiau sydd wedi rhedeg marathon o’r blaen. Rydw i wedi dod ar draws cynllun ymarfer sy’n addas: mae’n 16 wythnos o hyd a oedd yn golygu fy mod yn rhedeg bedair gwaith yr wythnos, pellter isel ar ddyddiau Mawrth a Iau, 10-13k ar ddyddiau Mercher a phellter hir ar ddyddiau Sadwrn. Hynny, a chodi pwysau ar ddyddiau Llun. Mae’n heriol.

Dechreuais y cynllun hyfforddi ar y 31ain o Ragfyr a dwi wedi cadw ato heblaw am golli un sesiwn ganol wythnos o ganlyniad i annwyd bach. Roeddwn yn teimlo’n euog yn ei gylch! Mae’r ci wedi mwynhau’r broses hefyd oherwydd ei fod yn gallu dod allan gyda fi. Daeargi yw e felly 10k yw’r pellaf mae’n gallu rhedeg.

“Rwy’n meddwl bod hyfforddi ar gyfer rhedeg marathon yn debyg i wneud PhD – mae’n rhaid i chi gadw ati. Mae’n anodd os ydych yn colli ffydd ond mae’n werth yr holl ymdrech yn y pen draw. Yr hyn sy’n fy nghymell ar gyfer y marathon yw’r arian sydd wedi’i godi at achos da a gwireddu uchelgais.”

Oes gennych chi unrhyw gyngor hyfforddi ar gyfer rhedwyr marathon?

Credwch yn eich hun. Os alla’ i gyflawni hyn, gall unrhyw un. Doeddwn i ddim yn or hoff o chwaraeon yn yr ysgol a doeddwn i byth wedi gweld fy hun fel person ffit. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dilyn rhaglen Couch to 5k ac yna, os hoffech, adeiladu ar hynny.

Rwy’n meddwl bod hyfforddi ar gyfer rhedeg marathon yn debyg i wneud PhD – mae’n rhaid i chi gadw ati. Mae’n anodd os ydych yn colli ffydd ond mae’n werth yr holl ymdrech yn y pen draw. Yr hyn sy’n fy nghymell ar gyfer y marathon yw’r arian sydd wedi’i godi at achos da a gwireddu uchelgais.

Yn yr un modd, a ydych wedi dysgu unrhyw ffyrdd da o godi arian?

Mae estyn allan i rwydwaith eang o ffrindiau i ffrindiau wedi bod yn wych – mae pobl nad oeddwn i wedi disgwyl iddynt fy noddi wedi bod yn hael iawn (er nad yw fy ngŵr wedi fy noddi eto!). Mae casglu arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth a iechyd meddwl yn agos iawn at fy nghalon. Dwi wedi bod yn emosiynol yn ystod rhai o’r sesiynau rhedeg wrth imi feddwl am Dad a’r gwaith pwysig yr ydym yn gallu ei wneud.

Mae ebostio pobl a chwmnïau wedi bod yn ddull llwyddiannus hefyd. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod rhai siopau lleol a chwmnïau yn cadw arian wrth gefn i gefnogi pobl i godi arian.

Beth ydych yn edrych ymlaen ato fwyaf ar y diwrnod – ac yn ei ofni fwyaf?

Bydd yn benwythnos anhygoel. Dwi’n gwylio’r marathon bob blwyddyn ar y teledu, felly bydd yn brofiad rhyfedd rhedeg heibio cymaint o lefydd adnabyddus yn Llundain. Dywedodd ffrind mai nid cyrraedd y llinell derfyn oedd y rhan fwyaf cyffrous, ond rhedeg dros Tower Bridge sy’n dynodi hanner ffordd. Byddaf yn rhedeg ymysg nifer o enwogion – a’r rhedwyr cyflymaf, er y bydd athletwyr fel Mo Farah yn rhedeg ddwywaith mor gyflym â fi!

Dwi ddim yn siŵr eto sut byddaf yn dathlu croesi’r llinell derfyn wrth Balas Buckingham. Mae sawl aelod o’r teulu o bob cwr o’r wlad yn dod i fy nghefnogi yn Llundain ac mae twba twym yn ein gwesty. Efallai y byddaf yn dathlu drwy eistedd ynddo am oriau!

Byddaf yn gwisgo’r crys-t sy’n cael ei roi i’r rhedwyr sy’n gorffen y ras a’r medal am wythnosau ar ôl y ras.

Gallwch gefnogi Sara drwy ei thudalen noddi Virgin Money. Gallwch ddilyn Sara ar y diwrnod mawr drwy Ap Marathon Llundain Virgin Money.