Skip to main content

Cyswllt CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrExamined LifeJournalism, Media and Cultural Studies

Examined Life – Syr Craig Oliver (PGDip 1992)

25 Ebrill 2019

Syr Craig Oliver yw cyn-reolwr BBC Global a Chyn-gyfarwyddwr Cyfathrebu 10 Stryd Downing, ac mae bellach yn bennaeth ar gwmni ymgynghori Teneo.

Ei henw da anhygoel wnaeth fy nenu i Brifysgol Caerdydd. Roeddwn i wir eisiau bod yn newyddiadurwr darlledu ond dwi’n credu mai dim ond 15 o lefydd oedd ar y cwrs. Fe ges i le, ac roedd y gwerthoedd a ddysgais am degwch, sut i fod yn ddiduedd, gwneud y peth iawn a gwirio ffeithiau o fudd mawr i mi pan es i at gyflogwyr megis y BBC a Newyddion ITV.

Os ydych chi eisiau bod yng nghanol bwrlwm newyddiaduraeth, y tu ôl i’r camera yw’r lle i fod. Os ydych chi’n ohebydd, rydych chi’n adrodd y stori, a dyna’r cwbl. Ond beth os oes rhywbeth arall yn digwydd? Roedd bod tu ôl i’r llen yn fy ngalluogi i deithio, i olygu rhaglenni a gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha straeon roeddem ni eu hadrodd.

Pan ddechreuais, dywedodd rhywun wrthyf “gallwch gael sedd flaen mewn hanes”. Un o fy straeon cyntaf oedd stori Abbie Humphries [plentyn bach a chafodd ei herwgipio yn 1994], lle wnaethom ffilmio heddwas mawr cryf yn cario’r babi hwn i ddiogelwch, ac fe enillom Wobr RTS. Roeddwn i yn Irac, a oedd yn brofiad anhygoel. Ac yn dilyn marwolaeth Jean Charles de Menezes, daethom ar draws canfyddiad mawr sef bod yr heddlu mewn anrhefn llwyr a bod y dyn anghywir wedi’i saethu.

Fe newidiodd y chwyldro digidol bopeth ym myd newyddiaduraeth. Dwi’n dal i gredu mai dim ond nawr mae pobl yn dechrau dod i delerau â’r goblygiadau – maent yn tueddu i orbwysleisio’r effaith yn rhy gynnar ac yn ei thanbwysleisio yn y tymor hir. Er enghraifft, pan oeddwn i yn y BBC, roedden nhw’n rhoi llawer gormod o egni i’w gorsaf newyddion 24 awr ac yn mynd ag adnoddau o’r rhaglen newyddion prif ffrwd. Wrth weithio ar y bwletin newyddion gyda’r nos, roeddwn i’n dweud “arhoswch, rydyn ni’n dal i ddenu pum miliwn o bobl bob nos!” Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw’n defnyddio’r adnoddau yn y lle mwyaf addas a dylanwadol.

Roedd mynd o faes newyddiaduraeth i fyd gwleidyddiaeth fel taflu eich hun yn syth i’r pen dwfn. Roeddwn yn ymuno â llywodraeth a oedd eisoes wedi’i sefydlu ac roedd yna ddisgwyliad fy mod yn gwybod popeth ac yn gallu delio â’r cyfan – wrth i gannoedd o bobl geisio eich rhwystro wrth eu gwaith bob dydd.

Mae Gwleidyddiaeth yn gyrru llawer o bobl yn wallgof. Fe ddaeth i’r amlwg i fi yn gynnar iawn y buaswn yn mynd o fy ngho’ oni bai fy mod yn cadw ‘mhwyll. Gallwch ei weld gyda phopeth sy’n digwydd gyda Brexit; mae llawer o bobl yn troi yn fwyfwy afresymol wrth edrych ar eu hymatebion i’r holl beth.

Roeddwn yn trefnu fy mywyd i’r funud. Hyd yn oed ar ôl mynd i’r gwely yn hwyr iawn, byddwn yn codi’n fore i wrando ar y newyddion am 6am. Erbyn 6.01, roeddwn ar y ffôn gyda’r BBC yn ceisio eu perswadio i newid eu stori oherwydd bod y bwletinau boreol hynny yn cyrraedd 24 miliwn o bobl. Yna byddwn yn mynd drwy’r papurau newydd, blogiau, Twitter a chasglu fy nhîm yn Stryd Downing am 8am cyn cwrdd â’r Prif Weinidog am 8:30am a mynd yn fy mlaen ar ôl hynny.

Roedd yna adegau rhyfeddol. Roeddwn wrth y Tŷ Gwyn un tro yn aros i gael fy nghyflwyno i Barack Obama a dyma rhywun yn cyffwrdd fy ysgwydd i ddweud helo – neb llai na George Clooney. Yna, byddwn yn Myanmar yn siarad â’r cadfridogion sy’n unbeniaid a cheisio cael sgwrs synhwyrol â phobl sy’n cael eu gweld fel llofruddwyr.

Gwnaeth y llywodraeth glymbleidiol brofi bod dwy blaid yn gallu cydweithio. Roedd gennym lywodraeth sefydlog, ac rwy’n falch o lawer o bethau y gwnaethom ni. Roedd y refferendwm yn yr Alban yn amlwg yn rhywbeth anodd dros ben, ac roedd mynd ymlaen i ennill etholiad cyffredinol 2015 yn annisgwyl yn gyflawniad mawr.

“Fe newidiodd y chwyldro digidol bopeth ym myd newyddiaduraeth. Dwi’n dal i gredu mai dim ond nawr mae pobl yn dechrau dod i delerau â’r goblygiadau”

Mae pobl yn credu bod David Cameron wedi dihuno un bore a dweud “Dwi’n mynd i gynnal refferendwm” [ar Ewrop]. Mewn gwirionedd, roedd pobl yn fwyfwy pryderus nad oedd yr UE yn gwrando arnynt. Roedd UKIP yn ennill tir mewn etholaethau lle roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif bach – a chan fod y Torïaid yn blaid wleidyddol rymus ledled y wlad, roedd hi’n broblem roedd angen ei datrys. Byddai’n rhaid ichi fod yn 62 o leiaf i fod wedi pleidleisio yn y refferendwm diwethaf ar Ewrop, felly daeth yr holl ffactorau hyn ynghyd.

Am 10pm ar 23 Mehefin 2016 roedd pob pleidlais wedi’i bwrw. Doedd dim modd dod o hyd i un dyn byw a oedd yn credu bod yr ymgyrch Gadael wedi llwyddo. Roedd Nigel Farage yn credu bod popeth ar ben i’r ymgyrch i adael. Wedyn dyma’r canlyniadau yn dechrau ymddangos o ogledd ddwyrain Lloegr ac fe ddaeth hi’n amlwg nad oeddem wedi perfformio hanner cystal ag y dylem. Roedd hi’n teimlo fel cerdded ar hyd llwybr i fan diogel, a’r llwybr hwnnw yn disgyn yn ddarnau gyda phob cam.

Am 4am cefais hyd i David Cameron yn ei stydi. Roeddem wedi cael sgwrs y diwrnod cynt am beth fyddai’n digwydd pe byddem yn colli ac a fyddai’n rhaid iddo ymddiswyddo neu beidio – ac roeddwn wedi bod yn gryf fy marn y dylai ymddiswyddo. Ar ôl trafod beth oedd e’n mynd i ddweud fe gerddodd ymaith, a’r oll y gallwn wneud, mewn modd Saesnig, oedd ei gofleidio ac yna mynd am ychydig o awyr iach. Roedd yn adeg hynod o isel.

Ers 40 o flynyddoedd, roedd gwleidyddion ar y naill ochr wedi beirniadu Ewrop yn hallt. Roedd Tony Blair wedi bod wrthi pan oedd hynny’n gyfleus, Gordon Brown a David Cameron hefyd ar adegau. Dywedodd Nick Clegg bod angen refferendwm. Nid ni wnaeth greu’r sefyllfa emosiynol – felly pe bawn i’n gallu newid unrhyw beth byddwn yn dyfeisio peiriant amser er mwyn mynd nôl a rhoi pwysau ar wleidyddion dylanwadol i weithio ar rhywbeth oedd yn wirioneddol bwysig.

Mae bod mewn swydd arweinyddol yn gallu bod yn brofiad unig iawn.  Mae’r swydd Prif Weinidog yn debyg iawn i swydd Prif Weithredwr a dwi’n meddwl mai dyma’r rheswm pam fod Teneo eisiau gweithio gyda fi. Rydym yn rhoi cyngor i Brif Weithredwyr sy’n wynebu problemau sy’n aml yn gymhleth ac yn fanwl iawn, heb atebion cywir, felly fy swydd i yw ceisio eu rhoi ar ben ffordd.

Rydw i am ddyfynnu o lyfr o’r enw The Leopard: “os ydym am i bopeth aros yr un peth, mae’n rhaid i bopeth newid”. Yn aml mae pobl mewn sefyllfaoedd lle maent yn llwyddiannus iawn ac yna’n sydyn mae’r byd yn newid o’u cwmpas. Mae hynny i’w weld dro ar ôl tro ar hyn o bryd.