Skip to main content

Cariad CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrNewsNewyddionOur AlumniUncategorized

#CardiffCariad – Dod o hyd i gariad yng Nghaerdydd

13 Chwefror 2019

Mae astudio yng Nghaerdydd yn gallu newid eich bywyd mewn sawl ffordd, yn aml, dyma’r lle cyntaf i rhywun fyw yn annibynnol am y tro cyntaf, dod o hyd i ddiddordebau newydd a gwneud penderfyniadau a fydd yn siapio eich gyrfa. Dyma lle mae nifer o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi syrthio mewn cariad hefyd. A hithau’n wythnos Gŵyl Sant Ffolant, byddwn yn rhannu straeon cyplau o gynfyfyrwyr Caerdydd o bob cwr o’r byd a ddaeth o hyd i gariad yng Nghaerdydd.

alexandra and simon

Alexandra a Simon

Fe wnaeth Alexandra (LLB 2003)  sy’n gyfreithwraig, gwrdd â’i gŵr, Simon (MBBCh 2005), sy’n feddyg teulu yn 2000 pan oedd y ddau yn byw yn Ne Tal-y-bont.

‘Roedd Simon yn byw yn y fflat o dan fy un i, ro’n i’n astudio’r gyfraith, ac yntau’n astudio meddygaeth.  Daethom ar draws ein gilydd am y tro cyntaf ar ôl i fi dorri gwydr a dechrau hwfro tu allan i’w ystafell am 2 yn y bore, daeth allan o’i ystafell i gwyno, gan fod ganddo arholiad anatomeg y diwrnod hwnnw. Fe aeth blwyddyn heibio cyn i ni ddod at ein gilydd fel cwpwl, ac fe wnaethom briodi yn 2006.

Roedd hynny 11 mlynedd yn ôl, ac erbyn hyn mae dau blentyn gyda ni ac yn hapus iawn o hyd. Does dim un ohonon ni’n dod o Gymru, ond daeth Prifysgol Caerdydd a gwydryn wedi’i dorri â ni at ein gilydd! Rydym yn rhannu atgofion melys o Brifysgol Caerdydd, a’r nosweithiau allan yn yr Undeb.’

Esther and Sam2

Esther and Sam

Fe wnaeth Esther (BA 2012, MA 2013, PhD 2017) a Sam (BA 2011) gwrdd yn ystod eu hwythnosau cyntaf yng Nghaerdydd, ac 8 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n nhw’n briod ac yn byw yn y ddinas o hyd lle mae Esther yn gweithio i Brifysgol Caerdydd a Sam yn gweithio ar gyfer elusen gyda myfyrwyr sydd eisiau rhannu eu ffydd ar y campws.

‘Des i i Brifysgol Caerdydd yn 2008 ac fe wnes i gwrdd â Sam yn ystod fy wythnosau cyntaf yno drwy Gymdeithas yr Undeb Gristnogol, a daethom yn rhan o’r un cylch o ffrindiau. Roeddem ni’n gwario llawer o amser gyda’n gilydd a daethom yn ffrindiau gorau. Roeddwn i’n ei hoffi yn eitha buan ar ôl cwrdd, ond fe ddaeth hi’n amlwg ei fod e’n fy ngweld fel ffrind yn unig – ffrind da, ond dim ond ffrind.

‘Pan es i ar flwyddyn dramor, fe sylweddolodd Sam ei fod e’n gweld fy eisiau yn fawr. Fe gafodd sgwrs â’i fam (y peth gorau gall bachgen ei wneud), a phan ddes i nôl dros y Nadolig fe ddywedodd wrtha i ei fod eisiau treulio gweddill ei fywyd gyda fi.

‘Pan ddes i nôl o Ffrainc, fe ddaethom ni’n gwpwl swyddogol, dyweddïo ac yna priodi yn Hydref 2012. Rydym yn dod i ddeall mwy am gariad ac am ein gilydd bob dydd, ond rydym yn ddiolchgar am yr holl flynyddoedd o gyfeillgarwch ym Mhrifysgol Caerdydd bron i ddegawd yn ôl.’

Andrew and Harriet

Harriett ac Andrew

Fe wnaeth Harriet (BA 2010, PGDip 2011) sy’n Rheolwr Cyfathrebu gwrdd â Andrew (MPharm 2011) sy’n fferyllydd ar ei diwrnod cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2007.

Fe wnes i gwrdd â fy ngŵr, Andrew Kings, ar fy niwrnod cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd ar 20 Medi 2007. Roeddem ni’n dau yn byw yn Nhŷ 24, De Tal-y-bont. Roedden ni’n dod ymlaen mor dda yn syth, ond doedden ni ddim eisiau gwneud pethau’n anghyfforddus yn y fflat, felly fe gadwon ni’n perthynas yn gyfrinach am tua 9 mis. Roeddem ni gyda’n gilydd drwy ein holl amser yng Nghaerdydd, a mis Gorffennaf diwethaf, bron i naw mlynedd ar ôl cwrdd, fe briodon ni yng Nghaerdydd. Rwy’n dod o tu allan i Brighton yn wreiddiol ac fe gafodd Andrew ei eni yn Bassaleg, ond rydym ni’n caru Caerdydd ac yn byw yn y Rhath gyda’n gilydd.’

Katka

Katka a Phillipp

Mae Katka (MA 2008) and Phillipp yn byw a gweithio yn Prague fel cyfreithwyr. Roedd y ddau yn fyfyrwyr rhyngwladol a daeth i Brifysgol Caerdydd i astudio pan syrthion nhw mewn cariad.

‘Fe wnes i gwrdd â fy ngŵr ym Maes awyr Caerdydd, Roeddwn i’n astudio cwrs Meistr mewn Astudiaethau Ewropeaidd a Chysylltiadau Rhyngwladol ac roedd Phillip yn fyfyriwr Erasmus yn dod i Brifysgol Caerdydd i astudio’r Gyfraith. Fe wnaethon gwrdd ar 21 Medi 2006 ym Maes awyr Caerdydd ar ein diwrnod cyntaf, pan oeddem ni’n aros am y bws i’r campws, ac roedd yn gariad ar yr olwg gyntaf. Rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd fyth ers hynny ac fe briodon ni ddwy flynedd yn ôl ac mae merch o’r enw Emilia gyda ni.’

Georgie and Matt

Georgie a Matt

Fe wnaeth Georgie (BA 2012) sy’n ymgynghorydd recriwtio gwrdd â Matt (BSc 2013) sy’n gyfrifydd pan oedden nhw’n gweithio ar y bar yn Undeb y Myfyrwyr.

‘Roeddwn i’n Arweinydd Tîm ac er mawr fy nghywilydd, roedd yr Arweinwyr Tîm yn anfon Matt draw i weithio ar fy mar i. Wrth geisio ymddangos yn ddidaro, roeddwn i’n rhoi gwaith ofnadwy i Matt, fel golchi’r llawr a gwagio’r biniau. Serch hynny, ar ôl parti wedi’r gwaith gyda ‘chefndir rhamantus’ y Lolfa Fyw, gofynnodd Matt i fi os oeddwn i eisiau un o’r ‘coctels £2 gorau’ ac mae’r gweddill yn hanes. ‘Sut gallai unrhyw ferch wrthod cynnig fel hwnnw?’

Ed & Kate

Ed a Kate

Fe wnaeth Ed (BSc 2006, MA 2007) gwrdd â Kate (BA 2005, MA 2010) ar ei ddiwrnod cyntaf mewn neuadd breswyl yn 2002.

‘Kate oedd y person cyntaf i mi gyfarfod ar fy niwrnod cyntaf yn Ne Tal-y-bont. Daethom ni’n ffrindiau mawr ond yn ddim byd mwy! Os byddech wedi gofyn i’n ffrindiau os bydden ni wedi dod yn gwpwl priod, bydden nhw wedi chwerthin, ond fe wnaeth un tocyn sbâr i gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a’r Alban yn 2010, ac un neu ddau ddiod newid y cwbl.’

‘Mae’r ddau ohonom wedi aros yng Nghymru, rwy’n gweithio ar gyfer Coleg Brenhinol meddygon teulu ac mae Kate yn gweithio ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Fe briodon ni yn 2013, ac rydym yn disgwyl yr ail fabi yn Awst 2016!’

thant and harshad

Thant a Harshad

Fe wnaeth Thant (PhD 2009) a Harshad (PhD 2009) gwrdd pan oed y ddau yn astudio PhD.

‘Fe wnaethom gwrdd yng Nghanolfan Fagneteg Wolfson. Fe ddechreuais i yn Ionawr 2003 ond roedd Harshad wedi bod yn fyfyriwr yno ers Medi 2002. Wnes i ddim cwrdd ag ef nes lawer yn hwyrach yn 2003 gan nad oedd yn dod i mewn i’r brifysgol bron byth – un o’r myfyrwyr hynny. Mae’n siŵr fod hynny wedi deffro fy chwilfrydedd amdano. Daethom yn ffrindiau yn fuan ac ym Nhachwedd 2003, fe ofynnais iddo ddod am goffi am nad oedd e’n mynd amdani! Fe briodon ni yn 2008 – fi ysgogodd hynny hefyd.’

‘Roedd Heol y Plwca yn un o’n hoff lefydd yng Nghaerdydd, yn enwedig ar gyfer bwyd. Mae Caerdydd yn ddinas fywiog ac yn llawn o wahanol ddiwylliannau sy’n cwmpasu Cymreictod – byddai’n rhyfedd heb hynny, yn enwedig yn ystod y tymor rygbi. Mae Caerdydd yn cynnig popeth sydd ei angen ar gyfer myfyrwyr ifanc ac aeddfed. Ond yn fwy na hyn i gyd, y ffaith mai Caerdydd oedd prifddinas Cymru oedd yr hyn roeddem yn ei garu fwyaf.