Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewid y drefn

Newid y drefn: Simon Blake OBE (BA 1995) – Ymgyrchu dros gydraddoldeb

20 Rhagfyr 2018

Simon Blake OBE (BA 1995) yw Prif Weithredwr Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl (Mental Health First Aid – MHFA) yn Lloegr, a dirprwy gadeirydd Stonewall UK. Mae’n gyn-Brif Weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Simon Blake OBE wearing a Stonewall campaign t-shirt that reads 'come out for LGBT'
Simon Blake OBE

O edrych yn ôl, roedd yn eithaf amlwg mai gyrfa wedi’i hysgogi gan gyfiawnder cymdeithasol fyddai fy un i. Fodd bynnag, does gen i ddim cof bod canllawiau gyrfaol Radio 1 ynghylch gyrfaoedd ar ddiwedd yr 80au yn cyfeirio o gwbl at elusennau, y trydydd sector neu gyfiawnder cymdeithasol. Felly, yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd y dechreuais ddod o hyd i’m llais a datblygu’r angerdd ynghylch cydraddoldeb sy’n parhau i’m hysgogi hyd heddiw, 23 mlynedd ar ôl graddio.

Mae’r stori’n dechrau ganol y 90au pan oeddwn yn un o sylfaenwyr Grŵp Ymwybyddiaeth o Iechyd Rhywiol Prifysgol Caerdydd (Sexual Health Awareness Group – SHAG). Wyddwn i ddim ar y pryd, ond dyma ddechrau taith fyddai’n fy arwain at weithio i sefydliadau ardderchog fel Brook, y Gymdeithas Cynllunio Teulu a ‘r Fforwm Addysg Rhyw.

Dros amser, tyfodd fy ngyrfa i fod yn fwy amrywiol a dechreuais ganolbwyntio ar hyd a lled iechyd rhywiol a lles, ac yn dilyn hynny, materion ehangach lles a chydraddoldeb. Roeddwn yn Brif Weithredwr Brook (yn galluogi pobl ifanc i fwynhau eu rhywioldeb heb niwed), Dirprwy Gadeirydd y Black Health Agency, Cadeirydd Modelau Rôl ym Maes Amrywiaeth (Diversity Role Models – yn herio bwlio homoffobaidd, biffobaidd a trawsffobaidd yn ysgolion y DU) a Chadeirydd Compact Voice (yn gweithio ar gyfer partneriaethau cryf rhwng y sector wirfoddol a’r llywodraeth), cyn dod yn Brif Weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, gyda rhan o fy swydd yn ymwneud â chodi hwyl, cefnogi a chynnal sgyrsiau gydag arweinwyr myfyrwyr ar draws ystod eang o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol.

Prifysgolion sy’n llywio newid cymdeithasol. Maent yn fagwrfa o syniadau newydd, egni, prosesau darganfod, creadigrwydd a gweithredu. O gerdded drwy Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd heddiw, fe welwch nifer o fentrau sy’n canolbwyntio ar gyfiawnder, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol. Cefais fy nghyffroi’n arw dros y blynyddoedd diwethaf bod fy safbwynt am y byd yn cael ei herio gan syniadau newydd a ffres, sy’n esblygu. Wrth i mi dyfu’n hŷn, mae’n rhaid i mi ofalu fy mod yn symud gyda’r oes. Mae pobl iau yn fy herio i feddwl yn wahanol a chwestiynu’r hyn rwy’n ei gredu. Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddysgir ar draws cenedlaethau.

Simon Blake pictured at a Pride eventMae’r sgyrsiau hyn yn dangos i mi fod pobl ifanc yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fyw mewn byd sy’n prysur newid, yn union yr un modd ag y gwnaethom ninnau yn ystod ein harddegau a’n hugeiniau. Os ystyriwch pa mor bell rydym wedi teithio ar gymaint o faterion cyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig hawliau LGBT dros oddeutu’r ugain mlynedd diwethaf, mae pethau’n dra gwahanol erbyn hyn.

Mae cymaint i’w ddathlu. Serch hynny, wrth gwrs, mae heriau go iawn o hyd. Yn aml, mae bwlch mawr rhwng y gyfraith, polisi, disgwrs y cyfryngau a phrofiad byw ambell bobl. Mae’r hyn sy’n gyfraith gwlad a beth yw profiadau pobl ar y stryd yn aml yn ddeubeth gwahanol iawn.

Wrth i mi ddechrau pennod newydd gyda MHFA Lloegr, sefydliad â’r nod o hyfforddi pobl mewn Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl, meithrin llythrennedd ynghylch iechyd meddwl a gostwng stigma, rwy’n fwy ymwybodol nag erioed mai dau gam ymlaen ac un cam yn ôl yw natur cynnydd yn aml. Mae ennill hawliau’n anodd, ni ellir eu cymryd yn ganiataol ac mae’n rhaid eu gwarchod.

Mae anghydraddoldeb wedi’i fewnosod yn strwythurol yn ein cymdeithas. Hyd nes bod pawb yn y DU yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chymorth iechyd meddwl, cael mynediad at erthylu sy’n ddiogel a chyfreithiol, byw heb ofni hiliaeth, trawsffobia neu fathau eraill o ragfarn, a cherdded ar y stryd yn dal dwylo’r person maen nhw’n ei garu, waeth beth yw eu rhywedd neu hunaniaeth rywiol, mae gennym waith i’w wneud o hyd.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Newid y Drefn:
Kellie Beirne (BA 1997, MSc 2003) – Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Hefyd yn y gyfres: