Cardiff Connect, Examined Life

Examined Life – Shrouk El-Attar (MEng 2018)

Examined Life

Mae Shrouk El-Attar, ymgyrchydd blaenllaw LGBT+ wedi cael ei henwi yn ‘Fenyw Ifanc y Flwyddyn’ 2018 gan Uwch-gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid.

Dwi wedi derbyn rhagfarn gymdeithasegol ers pan oeddwn yn ifanc iawn. Ces i fy magu yn yr Aifft, ac am amser hir, roeddwn yn gwrthod cydnabod fy hunaniaeth rywiol ac yn credu y dylai pobl LGBT+ gael eu cosbi. Pam? Roedden ni’n cael ein dysgu i gasáu ein hunain.

Dechreuais ysgrifennu yn Arabeg er mwyn cydnabod ein bodolaeth a bod hynny yn iawn , ond roedd yr eirfa oedd ar gael yn fy nghyfyngu. Mae iaith mor bwerus. Tan yn ddiweddar iawn, doedd dim geiriau positif am bobl LGBT+ ar gael yn Arabeg. Dychmygwch geisio dweud wrth rywun y dylent dderbyn eu hunain, ond yn defnyddio geiriau a oedd yn eu sarhau? Dyna pam bod dyfodiad y gair Methly (‘fel fi’) mor bwysig – oherwydd mae’n dweud bod pobl LGBT+ yn bobl fel pawb arall. Pan ddarllenais y gair am y tro cyntaf, roedd dagrau o lawenydd yn llifo i lawr fy ngrudd wrth i fi syllu ar y sgrin. Roedd fy iaith yn newid: roedd yn fwy caredig wrtha i.

Cafodd fy mam, fy mrawd a fy chwaer eu halltudio mewn cyrch mewnfudwyr ar doriad gwawr. Roedd fy mam wedi ceisio am loches yn y DU, ac am gyfnod roeddem ni i gyd yn byw mewn un ystafell mewn lloches ar Heol Casnewydd. Roeddwn wedi cael fy ngadael ar fy mhen fy hun yn y DU. Roedd yn dorcalonnus. Yn y pen draw, cefais statws ffoadur, ac er nad oeddwn mewn cyflwr da iawn, y peth cyntaf gwnes i oedd gwneud cais ar gyfer astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddwn mor lwcus o fy nhiwtor arbennig ac o’r cymorth gwych a dderbyniais drwy Wasanaethau Cefnogi’r Brifysgol i fy annog drwy amseroedd caled.

Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, fe ymunais â’r Gymdeithas Gweithredu dros Ffoaduriaid (STAR). Fy mhrif ffocws gyda STAR yw’r ymgyrch Mynediad Cyfartal. Mae menywod sy’n ffoaduriaid yn llwyr ymwybodol bod addysg yn gallu newid bywydau, ond nid yw rhai o bobl fwyaf bregus y byd yn cael mynediad at addysg. Pan ddechreuais ar yr ymgyrch, ychydig iawn o brifysgolion oedd yn derbyn ceiswyr lloches fel myfyrwyr cartref; erbyn hyn, mae tua 60 yn gwneud a dwi’n falch o allu dweud mai Caerdydd yw’r Brifysgol Mynediad Cyfartal gyntaf yng Nghymru.

O ganlyniad i fy ngradd Feistr, dwi’n credu fy mod newydd newid y byd! Mae electroneg wedi fy nghyfareddu erioed, ac fe ges i’r cyfle i ddatblygu rhywbeth gwirioneddol wych.  Gweithiais gyda grŵp ymchwil gwych ac elwa o’r cyfoeth o wybodaeth sydd gan Brifysgol Caerdydd ym maes Cyseiniant Parafagnetig Electron (EPR). Mae’n dechnoleg sy’n cymharu â sganio MRI. Mae cyfarpar Technolegau EPR yn llenwi ystafelloedd cyfan ac yn costio miliynau o bunnoedd ar hyn o bryd. Datblygais dechnoleg sydd tua’r un maint a hambwrdd ac sydd ond yn costio ychydig o gannoedd o bunnoedd yn rhan o fy ngradd Feistr! Dychmygwch ryw ddydd y bydd hi’n bosib canfod canser gyda theclyn sydd yr un maint â ffôn symudol.

Mae menywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg (STEM) wedi llwyddo yn barod drwy gyrraedd yno. Pan ddechreuais fy ngradd, dim ond 8% o beirianwyr y DU oedd yn fenywod: y raddfa leiaf yn Ewrop. Mae angen modelau rôl yn y meysydd yma i ddangos bod STEM yn opsiwn ar gyfer merched. Pwy a ŵyr pa fath o bethau anhygoel y gallan nhw eu datblygu? Dwi’n hapus bod Prifysgol Caerdydd yn chwarae ei rhan, a dwi wedi bod yn rhan o raglenni ail-gymorth di-ri gyda STEM.

Mae fy ngradd yn waith caled, felly’r haf yw’r cyfle i fi ganolbwyntio ar y dawnsio a’r gwaith ymgyrchu. Dwi wedi perfformio ledled y byd, yn Ewrop, UDA a Japan. Dwi’n perfformio dawnsio bola traddodiadol mewn drag gyda barf er mwyn protestio yn erbyn y ffordd mae pobl LGBT+ yn cael eu trin yn fy ngwlad. Cafodd un o fy ffrindiau ei garcharu am chwifio baner Enfys mewn cyngerdd. Dwi’n ymdrechu i berfformio mewn Saesneg ac Arabeg, oherwydd, er bod termau newydd fel Methly yn bodoli, mae siarad yn gadarnhaol am brofiadau LGBT+ mewn Arabeg yn chwyldroadol o hyd.

Roedd yn anhygoel cael fy enwi yn ‘Fenyw Ifanc y Flwyddyn’ gan Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid. Roedd yn brofiad mor anhygoel cael fy nghydnabod gan un o’r cyrff mwyaf dylanwadol yn y byd, ac i fod yng nghanol menywod pwerus sy’n gweithio mor galed i newid bywydau.

Fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd oedd y sylfaen i’r unigolyn yr wyf i heddiw a byddwn yn berson gwahanol pe bawn wedi astudio unrhyw le arall. Dwi’n caru Cymru, ac rwy’n ystyried fy hun yn rhannol Gymreig! Caerdydd yw fy ninas i, Caerdydd yw fy nghartref.

Darllen fwy am Cardiff Connect

A wnaethoch chi fwynhau’r erthygl? Beth yw eich barn?