Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewid y drefn

Newid y drefn: Kellie Beirne (BA 1997, MSc 2003) – Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

13 Rhagfyr 2018

Kellie Beirne (BA 1997, MSc 2003) yw Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd werth £1 biliwn, ac yn gwella isadeiledd prifddinas Cymru.

Kellie Beirne
Kellie Beirne

Os wyf i wneud gwahaniaeth unrhyw le, y lle anhygoel hwn ydyw: y ddinas rwy’n hanu ohoni, ac yn teimlo cymaint o angerdd yn ei chylch.

Mae prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gartref i dros 60% o boblogaeth Cymru, ond mae ganddi hefyd rhai o’r lefelau uchaf o dlodi ac amddifadedd. Pam? Am nad yw ein economi cystal ag y dylai fod, ac am fod gennym rai problemau cymdeithasol dwfn.

Mae hyn yn erbyn cefndir o dirluniau gogoneddus, digonedd o adnoddau naturiol, pobl anhygoel a chymunedau cysylltiedig. Mae gennym ysbryd ac egni go iawn yma, ac rwyf eisiau gwneud fy ngorau i helpu i ryddhau’r priodweddau hynny.
Mae’r Fargen Ddinesig yn ymwneud â thwf economaidd da, twf sy’n gwneud daioni, nid cyrraedd targedau’n unig. Mae’n ymwneud â datblygu economi ystwyth a hyblyg. Os gallwn ailgreu’r amodau lle mae pobl yn fwy hunangynhaliol a chanddynt well rhagolygon, dyna fydd yn ein gwarchod orau rhag anghyfiawnder ac anghydraddoldeb.

Development at Central Square, CardiffMae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru yn golygu ein bod yn meddu ar gyfle ardderchog i wneud gwahaniaeth wrth gam cynnar; i ystyried cyfleoedd bywyd ein plant a’u plant hwythau, pobl nad ydynt wedi’u geni eto.

Mae anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yn bethau sydd wedi fy nghymell erioed. Penderfynais astudio ar gyfer gradd mewn Iaith a Chyfathrebu am fy mod o’r farn bod deall cymelliadau cynhenid rhywun yn fodd pwysig o feithrin perthnasoedd cryf, a’r cyflawniad proffesiynol sy’n dal i beri’r balchder pennaf i mi yw’r amser a dreuliais yn gweithio ar hostel i’r digartref ar ôl graddio.

Symudais ymlaen i’r sector tai, am fod hynny’n ffordd ymarferol, ar y cyd o fynd i’r afael â rhai o’r materion sylfaenol ynghylch anghyfiawnder cymdeithasol. Gwir, brics a morter yn unig yw hynny, ond gall ein helpu i ddeall yr hyn sy’n cymell pobl, yr heriau y maent yn eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt.

Mae’r gwersi hynny wrth wraidd y Fargen Ddinesig ac ynghlwm wrth y gred sylfaenol bod bob person yn haeddu cael ei drin ag urddas a pharch. Pryd bynnag y gallwn ddangos tosturi, mae’n ddyletswydd foesol arnom i wneud hynny. Dyma’r hyn rwy’n gobeithio ei gyflawni.

Hefyd yn y gyfres: