Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Saith o bethau y gwnaethom eu dysgu o TEDxPrifysgolCaerdydd

26 Tachwedd 2018

Roedd digwyddiad agoriadol TEDxPrifysgolCaerdydd, Pŵer Syniadau yn llawn cyn-fyfyrwyr yn rhannu eu meddyliau a’u profiadau ar amrywiaeth o bynciau: o nanowyddoniaeth i effaith amgylcheddau ffisegol ar ein hiechyd meddwl. Edrychwn ar saith o bethau y gwnaethom ddysgu o TEDxPrifysgolCaerdydd i roi blas ichi; gallwch wylio fideos o’r digwyddiad ar YouTube

1 – “Nid yw malaria’n bwyta’r crystiau”

Gall nanowyddoniaeth fod yn bwnc eithaf anodd i’w ddeall – gwyddoniaeth wyddonol go iawn sydd mor fach na allwch ei gweld yn digwydd. Diolch i’r drefn roedd gan Josh Davies (MChem 2016) y cymorth gweledol perffaith i esbonio proses allweddol. Dychmygwch mai darn o fara yw cell gwaed. Yr hema yw’r crwstyn a’r globin yw’r rhan ganol. Nid yw malaria’n bwyta’r crystiau! Drwy ddatblygu synwyryddion i’w dal yn eich llaw i nodi celloedd gwaed gyda’r hema yn unig yn weddill, mae nanowyddoniaeth yn gwneud y broses o roi diagnosis yn fwy cyflym a symudol.

2 – “Profion beichiogrwydd a chwpanau Rhufeinig”

Gwnaeth Josh (a oedd yn taflu dyfyniadau drwy’r amser) hefyd gyflwyno ein hoff ddarn o wybodaeth ddiwerth y dydd. Y broses sy’n troi’r llinell ar brofion beichiogrwydd yn binc yw’r un broses a ddefnyddir yn y cwpan gwydr Rhufeinig, Y Cwpan Lycurgus. Caiff y nanowyddoniaeth (gronyn aur wedi’i gymysgu yn y gwydr ydyw) ei datgelu pan fydd y cwpan yn cael ei oleuo o’r tu ôl gan ei newid o wyrdd i goch. Mae gan nanoronynnau aur ystod eang iawn o liwiau, sy’n eu gwneud yn hynod ddefnyddiol ar gyfer Diagnosis Magneto-Optegol.

3 – Ceir tlodi misglwyf yn seithfed wlad gyfoethocaf y byd

Dywedodd Fiona Munnelly (BSc 2018) wrthym am y syniad a ddatblygodd gyda’r grŵp Periods in Poverty: mannau rhoi ar gyfer cynhyrchion misglwyf. Mewn cyflwyniad gwefreiddiol amlinellodd raddfa’r broblem, gan bwysleisio ei bod yn effeithio ar yr un grwpiau â’r rhai hynny a effeithiwyd arnynt fwyaf gan y diwygiadau lles a thlodi yn y gwaith.

4 – Mae’r robotiaid yn dod, ond peidiwch ag ofni!

Rhoddwyd cyflwyniad angerddol gan Guto Harri (PgDip 1988) ar y cyfleoedd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig wrth iddo ddod yn rhan fwy annatod o’n bywydau gwaith. Yn hytrach nag yn rhywbeth i’w ofni, a chyda’r 66 miliwn o swyddi sydd mewn perygl, mae’n deall y cynhyrfiad, ond barn Guto yw y bydd awtomeiddio’r tasgau cyffredin yn galluogi i’n hochr dynol a chreadigol ffynnu.

5 – Mae ein hamgylchedd ffisegol yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl

Mae Ben Channon (MArch 2012) yn credu bod “gennym gyfrifoldeb i greu adeiladau sy’n cael effaith seicolegol cadarnhaol” ar ein hiechyd meddwl. Amlinellodd effaith ein hamgylchedd ffisegol a chanlyniadau un astudiaeth o Japan a ganfuwyd bod newid lliw goleuadau mewn gorsafoedd trenau i las yn y nos wedi arwain at ostyngiad o 84% mewn achosion o hunanladdiad.

6 – Ein gwybodaeth enetig yw’r frontier data mawr nesaf

Holodd Dr Emma Yhnell (BSc 2012, PhD 2016) y cwestiwn “pwy ddylai wybod am eich gwybodaeth enetig unigryw?” Drwy sôn am aelodau ei theulu a chafodd eu heffeithio gan glefyd yr ymennydd, a risgiau genetig clefydau megis clefyd Alzheimer, heriodd Emma’r ystafell i feddwl am pam a pham ddim, gyda phwy, a sut y dylid rhannu a storio eich gwybodaeth enetig.

7 – Mae newid o fewn ein gafael ni

Trafododd Samuel Stainton (MESci 2018) a Rifhat Qureshi (BSc 1999) sut y mae gan bawb y pŵer i newid, er nad ydym yn sylweddoli hyn. Roedd stori Samuel am sut y gwnaeth siarad yn agored â dieithryn newid ei fywyd o deimlo’n ynysig o’r gymdeithas ac yn unig i ddod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr a dechrau menter gymdeithasol – roedd yn amlwg bod y sgwrs wedi cael effaith fawr ar bawb yn yr ystafell. Crynhodd Rifhat yn daclus sut y gall hunan-gred ein harwain i weithredu: “Mae’n iawn os nad yw eich gweithredoedd yn newid y byd, mae’n ddigon os ydynt yn newid eich byd chi”

Roedd yn amlwg wrth wrando ar straeon pob un o’n siaradwyr ar lwyfan TEDxPrifysgolCaerdydd bod byd pob un ohonynt wedi’u newid gan y syniadau a drafodwyd ganddynt. A yw ein rhestr wedi eich annog i gael gwybod mwy? Gallwch ddal i fyny ar TEDxCardiffUniversity drwy wylio ein rhestr chwarae