Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Traddodiadau Cymreig gyda dylanwadau rhyngwladol

23 Tachwedd 2018

I Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004), ysgrifennwr, darlledwr a hefyd, cystadleuydd yn rownd derfynol y Great British Bake Off, amrywiaeth yw sail llwyddiant Caerdydd.

“Dysgais gryn dipyn am goginio gan fy rhieni a fy neiniau, felly pan oeddwn i’n fyfyriwr, byddwn i’n coginio a phobi ar gyfer fy nghydletywyr. Yna, yn ystod gwyliau’r haf, teithiais i wlad Thai, Malaysia a’r Eidal, ac fe ddylanwadodd y profiadau hynny ar arddull fy nghoginio yn fawr. Mae’r ffefrynnau fel Cyri Thai Gwyrdd a risoto yn dal i blesio – heb anghofio’r pethau melys, fel fflapjacs, cacen llus a lemwn, a chrempogau! Roedd pawb yn edrych ymlaen at ddydd Mawrth Ynyd yn ein tŷ ni.

Roedd fy amser yma ym Mhrifysgol Caerdydd yn sicr wedi helpu datblygiad fy arddull coginio, a rhoi’r hyder imi wneud cais ar gyfer y rhaglen boblogaidd.

Dywedodd Beca fod cyrraedd rownd derfynol y Great British Bake Off yn 2013 wedi “newid fy mywyd”. “Ers hynny, dwi wedi cael pedair cyfres goginio ar y teledu ac rwy’n dechrau ysgrifennu fy ail lyfr.”

Yn dal i fyw yng Nghaerdydd, mae hi wedi ei chyffroi gan y newidiadau sydd yn digwydd i’r diwydiant bwyd yn y ddinas. “Dwi ddim yn credu bod yna amser gwell wedi bod er mwyn gwneud fy swydd yma!”

Rhowch gynnig ar rysait wych Beca ar gyfer Pice ar y maen siocled gwyn, mafon a cardamom:

Cynhwysion:

  • 225g Blawd Codi
  • 30g Lard neu Fraster Llysiau, oer ac wedi ciwbio
  • 70g Menyn Hallt, oer ac wedi ciwbio
  • 110g Siwgr Castr
  • 100g Darnau Mân o Siocled Gwyn
  • 1 Tiwb o Fafon wedi’u rhewi’n sych
  • 10-12 Codau Cardamom, tynnwch y plisgyn allanol a malwch y codau du
  • 1 Wy mawr, wedi’i guro gydag ychydig o laeth
  • 1/2 llwy fwrdd o Surop Euraidd

Dull

  1. Hidlwch y blawd a’r sbeisys i mewn i fowlen fawr a rhwbiwch y lard a’r menyn i mewn i’r blawd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion bara mawr.
  2. Ychwanegwch y siwgr, ffrwythau a’r darnau o siocled a chymysgwch y cyfan yna ychwanegwch yr wy wedi’i guro a’r surop euraidd. (Cofiwch: Bydd cynhesu’r surop ychydig yn help i’w gymysgu gyda’r cynhwysion eraill)
  3. Ffurfiwch y gymysgedd yn does.Dewch â’r gymysgedd at ei fowlen nes ei fod yn ffurfio toes – byddwch yn ofalus i beidio cymysgu’r gymysgedd ormod. (Cofiwch: Dwi’n defnyddio cyllell fenyn nes bod y gymysgedd yn dechrau dod at ei gilydd ac yna dwi’n defnyddio fy nwylo yn ofalus i ddod a’r cyfan yn belen.)
  4. Ar fwrdd â blawd arno, rholiwch neu wasgwch y toes nes ei fod tua 1cm o drwch. Dwi’n gwneud hyn mewn 2 ran fel ei fod yn haws i drin y toes.
  5. Gosodwch eich carreg bobi neu badell ffrio drom dros dymheredd isel.
  6. Torrwch y toes yn gylchoedd 2 fodfedd, irwch y garreg bobi neu badell ffrio a choginiwch eich Pice ar y maen nes eu bod yn ‘frown fel cneuen.’
  7. Peidiwch â choginio gormod ar yr un pryd a gwnewch yn siŵr eich bod yn iro’r badell rhwng pob llwyth.
  8. Ar ôl eu coginio, gorchuddiwch nhw yn ysgafn mewn siwgr cyn eu gweini. Blasus yn dwym neu’n oer!

Darllen fwy am Cardiff Connect

A wnaethoch chi fwynhau’r erthygl? Beth yw eich barn?