Cardiff Connect

Gwyn ein byd – esboniad

Mae bardd ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd, Osian Rhys Jones, yn rhoi cyd-destun i’r gerdd a ysgrifennodd yn benodol ar gyfer cylchgrawn Cyswllt Caerdydd, yn y flwyddyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd. Enillodd Osian y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn yn 2017.

Gwyn ein byd – Osian Rhys Jones

Wedi Eisteddfod Caerdydd, Awst 2018

Hen ddociau boneddicach
sydd erbyn hyn yma’n iach,
Yn enw’r Bae, gwyn yw’r byd
a hwyliau’n hafau hefyd.
Y Bae glân, Bae gwag o laid,
Bae diwyneb, dienaid.

Rhy Brydeingar ddiaros
’di’r byd sy’n dweud pwy-’di’r-bòs.
Cynghanedd senedd ein sŵn
yw’r weriniaeth a rannwn.
Croesawn pob câr a sinig;
chwalu’r mur, nid chwarae mig.

Nid Bae oer, ond Bae euraid
a Bae’r ŵyl yw’r Bae o raid.
Yfwn ein haf heno’n hir,
haf undod ein cyfandir…
Ond amodol ei olud
yw’r bae hwn, os gwyn yw’r byd.

 

Dyma gerdd sy’n enghraifft o hen grefft farddonol Cymru, y gynghanedd. Yn ei hanfod, patrwm safonol o odlau, cytseinedd a mydrau yw’r gynghanedd, sy’n manteisio ar yr acen naturiol sydd ynghlwm wrth bob gair, sef ‘y goben’. Yn draddodiadol, byddai darpar feirdd yn mireinio eu sgiliau am flynyddoedd lawer mewn Ysgolion Barddol, lle byddent yn dysgu gan feistri’r grefft. Cerddi ar gyfer y bonedd fyddai’r rhain yn bennaf – cerddi sy’n canmol, moli a cherddi at ddibenion cymdeithasol eraill yn y Gymru ganoloesol.

Yn hanner olaf yr ugeinfed ganrif, bu adfywiad rhyfeddol i’r grefft hon, a daeth yn gyfrwng ar gyfer barddoniaeth boblogaidd, heriol a chyfoes, heb golli ceinder cymhleth y ffurfiau traddodiadol. Erbyn hyn, mae llawer o feirdd yn defnyddio’r ffurfiau hyn mewn ffyrdd mwyfwy arloesol. Maent yn dewis ysgrifennu am faterion cyfredol fel daeargrynfeydd gwleidyddol, ymdreiddiad mewnwthiol y cyfryngau cymdeithasol, a’r trawma seicolegol y mae ein cymdeithas fodern orgysylltiedig yn ei achosi. Drwy gydol hyn oll, cynghanedd yw’r llinyn bogail sy’n ein cysylltu â’r gorffennol pell, ac mae hyn yn cryfhau dehongliadau modern o’r grefft.

Yn y gerdd hon, mae Osian Rhys Jones wedi defnyddio ffurf farddonol y cywydd, lle mae pob llinell yn cynnwys cynghanedd unigol, ac wedi’u trefnu’n gwpledi sy’n odli.
Mae barddoniaeth sy’n defnyddio’r gynghanedd, yn enwedig y cywydd, yn ffordd wych o gyfosod syniadau gwrthdrawiadol. Dyma ffordd o begynnu’r syniadau hyn, lle gall y bardd, neu’r gwrandäwr/darllenydd, bontio’r bwlch deallusol drwy gyfrwng anghytgord y gerdd. Mae hefyd yn ddiddorol sut mae’r cywydd yn gadael i’r bardd gyflwyno anghytgord â harmoni cerddorol drwy hogi syniadau a seiniau ar ei gilydd nes eu bod yn cyfuno.

I’r preswylydd hwn o Gaerdydd, roedd yn galonogol iawn gweld yr Eisteddfod Genedlaethol ddi-dâl, agored a chynhwysol yn cofleidio Bae Caerdydd. Ond mae’r ffaith bod y Bae ei hun wedi’i adeiladu mor ddiweddar yn rhoi ymdeimlad bod ei orffennol wedi cael ei wyngalchu o’r golwg. Yma, roeddwn i am ofyn y cwestiwn ‘pwy biau Bae Caerdydd?’ Trigolion Butetown a Bae Tiger? Y Senedd a chelfyddyd gain? All y pethau hyn gydfodoli, neu a yw’r gwahaniaethau cymdeithasol ac ethnig yn rhy fawr? Roedd taflu’r Eisteddfod i’r pair hwn yn weithred diddorol. Byddai llawer o bobl yn ystyried siaradwyr Cymraeg yn lleiafrif difreintiedig sy’n prinhau ac yn colli ei lais yn y byd Saesneg ei iaith. Ar yr un pryd, mae grymoedd economaidd yn denu mwy a mwy o siaradwyr Cymraeg ifanc i Gaerdydd (mae newidiadau demograffig yng nghadarnleoedd gwledig ‘traddodiadol’ yr iaith yn adlewyrchu hyn). Yn eironig, felly, mae hyn yn cyfrannu at sefyllfa lle mae llawer o drigolion Caerdydd yn methu fforddio byw mewn ardaloedd fel Treganna a Grangetown. Cododd Catrin Dafydd, enillydd y Goron eleni, y mater hwn mewn ffordd gampus yn ei detholiad o gerddi arobryn.

Mae gan y cywydd enw am fod yn erfyn ar gyfer uniongyrchedd gwleidyddol, a ddefnyddiwyd yn fwyaf sylweddol gan y diweddar Gerallt Lloyd Owen yn ystod yr ugeinfed ganrif. Er llwyddiant yr ŵyl, mae’n anodd osgoi cysgodion y wleidyddiaeth ddinistriol sydd am ein llusgo yn ôl i orffennol dychmygol a chodi rhwystrau rhwng pobl. Ond am un wythnos, gadawodd yr Eisteddfod i ni ddychmygu Cymru agored a mwy unedig mewn byd gwell.

Darllen fwy am Cardiff Connect

A wnaethoch chi fwynhau’r erthygl? Beth yw eich barn?