Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrModern LanguagesUncategorized @cyWelsh

Callum Davies (BA 2013)

22 Tachwedd 2018
Callum Davies
Callum Davies

Bu Callum Davies (BA 2013) yn astudio Ffrangeg a Chymraeg ac mae e’n dweud mai i’r Ysgol Ieithoedd Modern y mae’r clod am ei helpu i sicrhau ei rôl bresennol fel Swyddog Cyswllt Chwaraewyr ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Fe wnes i dyfu i fyny yng nghymoedd De Cymru, ac roeddwn i bob amser wrth fy modd yn mynd i Gaerdydd gyda’m teulu.  Roedd bod yn gyfarwydd â’r ddinas yn help pan oeddwn i’n ystyried pa brifysgol y dylwn i fynd iddi.  Roeddwn i wedi gwneud llawer o waith ymchwil ar yr amrywiol gyrsiau roedd prifysgolion eraill yn eu cynnig, ond fe ges i fy nenu gan y diwrnod agored y bues i’n ei fynychu yng Nghaerdydd.  Roeddwn i’n astudio Cymraeg fel ail iaith ar y pryd, ac unwaith roeddwn i’n gwybod mod i’n gallu cyfuno dwy iaith yng Nghaerdydd, bu hynny’n ddylanwad mawr ar fy mhenderfyniad.

Fe wnes i fwynhau cwrdd â phobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r tu hwnt, a gwneud ffrindiau gwych ar hyd y ffordd. Roedd fy mlwyddyn gyntaf yn agoriad llygad, ac yn yr ail flwyddyn roedd llawer mwy o ffocws i bopeth, ond yn fy marn i, fy atgof gorau yw astudio dramor yn Montpellier yn ne Ffrainc.

Roedd y flwyddyn dramor yn brofiad a newidiodd fy mywyd, ac yn rhywbeth na ddylid ei golli.  Roeddwn i’n ffodus yn yr ystyr fy mod wedi cael cyfle i fyw mewn ardal a oedd yn debyg i Gaerdydd, yn yr ystyr ei bod yn fywiog ac yn ifanc, ond gyda mwy o heulwen!!

Roedd Caerdydd yn cynnig peth cymorth ardderchog i’w disgyblion oedd yn astudio mewn gwlad dramor, ond doedd dim angen llawer o help arnaf fi, gan fod y flwyddyn yn un wych a’m helpodd i ddatblygu’n bersonol ac yn ieithyddol.

Ar ôl graddio fe es i’n syth i gyflogaeth yng nghlwb pêl-droed Dinas Caerdydd. Wrth i mi nesáu at fy arholiadau terfynol, cysylltodd y clwb â’r adran Ffrangeg mewn ymgais i gael hyd i siaradwyr Ffrangeg i helpu’r adran i recriwtio. Bûm yn gweithio ar rai swyddi cyfieithu yn wirfoddol am rai misoedd cyn sicrhau swydd amser llawn wrth i’r clwb gychwyn ar ei dymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.

Mae fy rôl yn eang iawn ac yn sicr yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed.

Rwy’n defnyddio fy sgiliau iaith bob dydd a gall hynny gynnwys unrhyw beth o gyfieithu sgyrsiau tîm ein chwaraewyr tîm cyntaf i gynllunio teithiau er mwyn i’n sgowtiaid chwilio am y chwaraewyr mawr nesaf. Yn y bôn mae angen i mi ofalu am les y chwaraewyr a sicrhau eu bod yn gallu canolbwyntio eu hegni i gyd ar chwarae pêl-droed.

Rydw i’n helpu i gael hyd i eiddo ar gyfer chwaraewyr newydd, ac yn eu helpu nhw’n weinyddol gyda bancio, fisâu a threthi pan fyddan nhw’n cyrraedd am y tro cyntaf.

Petawn i’n gallu rhoi cyngor i fyfyrwyr presennol byddwn i’n dweud wrthyn nhw am siarad cymaint o Ffrangeg a Chymraeg ag y gallwch chi y tu allan i’r darlithoedd a’r seminarau. Mae sgiliau iaith wedi bod mor bwysig i mi yn y gwaith a’r tu allan, ac mae’n dal yn wych gweld ymateb pobl i mi pan fydda i’n siarad Ffrangeg.  Rwy’n dal i feddwl mod i ddim yn rhugl 100%, felly mae siarad mwy a mwy mewn gwahanol sefyllfaoedd o fudd mawr i chi.

Roeddwn i wrth fy modd gyda’r profiad o fynd i’r brifysgol, a byddwn i’n dwlu cael gwneud y cyfan eto!  O gymryd popeth i ystyriaeth, mae’r ddinas a’r brifysgol yn lle perffaith i fyw ac i ddysgu.

 


Arts, Humanities & Social SciencesModern LanguagesOur AlumniWelsh

Callum Davies (BA 2013)

22 Tachwedd 2018
Callum Davies
Callum Davies

Callum Davies (BA 2013) studied French and Welsh and credits the School of Modern Languages with helping him secure his current role as a Player Liaison Officer for Cardiff City Football Club. (rhagor…)