Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Y rhodd a fydd yn trawsnewid bywydau 

31 Hydref 2018

Yn ei rodd o £1.1m i ariannu darlithfa 550 sedd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, bydd y dyngarwr Cymreig, Syr Stanley Thomas OBE (Hon 2011) yn cyfrannu at brofiad myfyrwyr a fydd yn byw ac astudio yng Nghaerdydd am flynyddoedd i ddod. 

Dechreuodd yr adeiladu ym mis Medi, gyda Kirsty Williams OBE AM, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan yn dechrau ar y gwaith adeiladu.

Dywedodd Syr Stanley fod y ddarlithfa “yn hanfod, nid braint”, a bydd y safle ar Blas y Parc yn gartref i wasanaethau Cefnogi a Lles Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd o 2020-21. Bydd yn galluogi gwasanaethau ar-lein cyfwerth i bob myfyriwr (yng Nghaerdydd a gweddill y byd) yn ogystal â mynedfa 24/7 i reoli holl ymholiadau anacademaidd myfyrwyr.

Yn ganolbwynt i’r ganolfan fydd man dysgu ac addysgu modern a man cyfarfod wedi’i enwi ar ôl y dyn busnes blaenllaw, Syr Stanley. Mae ei rodd, yr un fwyaf y mae un person wedi’i rhoi i Brifysgol Caerdydd hyd yma, yn caniatáu i‘r datblygiad fynd yn ei flaen.

Bydd y lleoliad hefyd yn gallu croesawu ymwelwyr a chynnal partïon i ysgolion lleol yn rhan o raglen y brifysgol i ehangu’r mynediad at addysg uwch.

“Mae’n bwysig iawn i ni ym Mhrifysgol Caerdydd bod cefnogaeth myfyrwyr ar gael i bawb ac yn cyfrannu at fyfyrwyr i berfformio hyd eithaf eu gallu a llwyddo.” meddai Ben Lewis Cyfarwyddwr Cymorth i Fyfyrwyr a Lles Myfyrwyr. “ Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cael effaith drawsnewidiol ar yr hyn yr ydym yn gallu gwneud dros ein myfyrwyr ac i gymuned y Brifysgol yn ehangach.”

“Rydym wedi dyfeisio strategaeth gynhwysfawr ar gyfer anghenion poblogaeth heddiw ac i’r dyfodol ac mae’r rhodd yma yn garreg filltir yn natblygiad y Ganolfan.”

Yn awr â chartref priodol, bydd y Brifysgol yn gallu trawsnewid ei gwasanaethau ymgynghori i fyfyrwyr er mwyn arwain y sector, gyda’r Ganolfan yn darparu isadeiledd ffisegol a digidol er mwyn gwella hyblygrwydd, gwaith grŵp a chefnogaeth tymor hir mewn gwagle mwy priodol.

“Ni fyddai uchelgais o’r fath yn gallu cael ei wireddu heb haelioni Syr Stanley. Bydd ôl ei garedigrwydd yn amlwg ar ein campws a fydd yn cael effaith go iawn a thrawsnewidiol ar fywydau pobl am genedlaethau i ddod.” meddai Ben.

Cafodd ei sylwadau ei gadarnhau gan Simon Wright, sy’n Gofrestrydd Academaidd (LLB 1995), sy’n credu bod rhodd o’r fath yn chwarae rhan annatod drwy ddyfnhau ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i gymorth myfyrwyr a darparu profiad myfyrwyr eithriadol.

“Mae rhodd Syr Stanley yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth o wasanaethau i fyfyrwyr a fydd yn gynhwysol, hygyrch a chyfannol,” meddai. “Ein prif flaenoriaeth fel Prifysgol yw iechyd a gallu deallusol, lles a ffyniant ein myfyrwyr, ac mae’n bwysig peidio gorbwysleisio effaith cyfraniad Syr Stanley, a phob cyfrannwr arall.”

Cewch fwy o wybodaeth am roi rhodd.