Uncategorized @cy

Simon Blake OBE (BA 1995) – graddio 2018

Yng nghanol mis Gorffennaf, bu Simon Blake OBE (BA 1995), cyn-brif weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn siarad â graddedigion o’r Ysgolion Hanes, Archeoleg a Chrefydd, a Ffiseg a Seryddiaeth. Ers hynny, mae wedi cytuno i gymryd rôl newydd gyda Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA) Lloegr, ac yn ystod ei anerchiad yn y seremoni raddio cyfeiriodd at lwybr ei yrfa, cynlluniau a aeth o chwith, a bod yr annisgwyl wedi dod â hapusrwydd iddo.

23 blynedd yn ôl, roeddwn yn eistedd lle’r ydych chi nawr yn llawn cyffro ac wedi synnu braidd o weld un o fy nghyd letywr yn cerdded i mewn i’r seremoni fel yr oedd ar fin dechrau. Roedd hi wedi argyhoeddi rhywun wrth y drws mai fy chwaer oedd hi a bod ei thocyn gan fy rhieni a oedd eisoes y tu mewn. Rwy’n siŵr bod y trefniadau diogelwch yn dynnach heddiw!

Gobeithio eich bod chi’n teimlo’r un mor gyffrous ag yr oeddem ni. Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant. Dylech fod yn falch iawn o’ch hunain. Ac fel cynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, rwy’n falch o bob un ohonoch.

I fod yn onest, roeddwn yn synnu fy mod yn graddio o gwbl. Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynd i brifysgol ac aeth yr amser yn rhy gyflym imi gymryd y cyfan i mewn ar y pryd. Roedd y cyfan fel breuddwyd. Roedd diwrnod graddio yn gyffrous. Diwedd cyfnod a dechrau cyfnod newydd. Ar ôl tair blynedd o astudio, roedd gen i gynllun eithaf da ar gyfer y dyfodol. Tra bod fy nghyd letywyr yn aros ar Stryd Glynrhondda tan ddiwedd ein contract, roeddwn ar y ffordd i America, i chwilio am gariad.

Ie; yn synhwyrol, defnyddiais gweddill fy ngorddrafft ac erfyn ar fy rhieni am arian i fynd ar drywydd un o’r carwriaethau cythryblus hynny sy’n gallu digwydd yn y brifysgol. Bydd rhai ohonoch yn gwybod am beth dwi’n sôn. Felly, dyma oedd fy nghynllun:

Treulio cwpl o fisoedd yn America ac yna dod yn ôl, symud i mewn gyda ffrind, cael swydd am flwyddyn, talu rhywfaint o fy nyledion, cynilo peth arian cyn mynd ati i hyfforddi i fod yn seicolegydd addysgol.

Fel sy’n digwydd yn aml gyda’r cynlluniau gorau, ni wnaeth pethau weithio yn union fel yr oeddwn wedi’i fwriadu.

Syrthiodd fy ffrind mewn cariad a symud i fyw â’i phartner. Fe wnes i ddychwelyd i Gaerdydd heb gariad, heb unrhyw le i fyw a heb neb i fyw gyda mi. Cefais swydd mewn tafarn. Allwn i ddim talu un geiniog o’r ddyled yn ôl. Doeddwn i ddim yn cynilo arian chwaith ac ni wnes i hyfforddi i fod yn seicolegydd addysgol. Dwi dal ddim yn seicolegydd addysgol!

Ni weithiodd fy nghynllun, ond fe ddysgodd fy amser yn y Brifysgol yn y ddinas hyfryd hon, fy nghrwydr i America, a’r 23 blynedd ers hynny hyn y canlynol imi: Mae bywyd yn gallu bod yn antur. Fe fyddwch yn hapus os ydych yn ei drin fel antur. Ni ddychmygais fyth y byddai fy ngyrfa yn cynnwys cynifer o gamau amrywiol ac wedi fy arwain at fy rôl bresennol fel Prif Weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Nid yw ansicrwydd yn rhywbeth i’w ofni. Dyma beth sy’n rhoi pleser.

Fy amser yma ym Mhrifysgol Caerdydd a roddodd i mi y sylfaen i ddatblygu, dysgu a wynebu heriau a chyfleoedd, a’r hyder i ddechrau ar fy antur fawr. Felly, beth ydw i wedi’i ddysgu am anturiaethau bywyd? Byddwch yn driw i’ch hunan a chewch fyw bywyd llawn – i mi, roedd hynny’n golygu dysgu sut i garu a chael fy ngharu fel dyn hoyw. Mae caredigrwydd a gofal yn gwbl hanfodol: Dair blynedd yn ôl bu farw fy mrawd yn annisgwyl. Caredigrwydd pobl eraill wnaeth fy helpu i ddygymod â’r galar – cyffyrddiad llaw, neges destun, cwtsh, y cerdyn neu’r cwestiwn – beth alla’ i wneud?

Os byddwch yn cofio un peth yn unig o’r araith hon, cofiwch hyn – beth bynnag y byddwch yn ei wneud yn y dyfodol, does neb yn rhy bwysig i fod yn garedig i eraill.

Mae camgymeriadau yn mynd law yn llaw ag antur. Gwnewch lawer ohonynt. Dysgwch o’ch camgymeriadau. Byddwch yn barod i dderbyn cyfrifoldeb os ydych yn brifo rhywun ar hyd y daith, ond nid yw bywyd heb gamgymeriadau yn fywyd gwerth ei fyw.  Bydd yr uchafbwyntiau yn wych a bydd yr isafbwyntiau yn eich profi ac yn galw am gryfder mewnol. Manteisiwch ar gyfleoedd. Chwiliwch amdanynt. Mentrwch. Gofynnwch am gymorth. Dewch o hyd i bobl i’w hedmygu a gofynnwch am gyngor ganddynt. Gwirfoddolwch. Bydd eich ymdrechion yn talu ar eu canfed yn y pen draw.  Dyrchafwch eraill. A chofiwch barhau i fwynhau dysgu, rhywbeth rwy’n gobeithio yr ydych wedi’i feithrin yng Nghaerdydd.

Mae bywyd yn gallu gwibio heibio, ond nid yw anturiaethau ar gyfer pobl yn eu hugeiniau yn unig! Hyd yn oed yn 30 oed nid oeddwn wedi cyflawni fy mreuddwyd o deithio i Awstralia, felly cymerais ddeufis i ffwrdd o fy ngwaith a mynd. Nid blwyddyn allan yn union, ond profiad RHYFEDDOL. Dim ond 6 wythnos yn ôl – yn 44 mlwydd oed – fe wnes i gyflawni un o uchelgeisiau fy mywyd – cymryd rhan mewn cystadleuaeth marchogaeth. Dyna wireddu breuddwyd fu gen i ers fy mhlentyndod, o’r diwedd. Roedd y ddau beth yn teimlo mor wych.

Pan raddiais, dim ond tua 5 mlynedd yn hŷn nag yr wyf i nawr oedd fy rhieni. Ac i fod yn onest, roeddwn i’n credu bod y ddau mor hen! Rwy’n derbyn bod rhai ohonoch yn edrych arna i ac yn credu fy mod i hefyd mor hen. Diolch! Dwi ddim yn teimlo’n hen. Ond dydyn ni ddim wir yn gwybod pryd y dylem ni deimlo’n hen. Roedd Andrew, fy mrawd yn 45 pan fu farw. Rwy’n aml yn pendroni sut y byddai wedi byw ei fywyd – a fyddai wedi llywio ei fywyd yn wahanol petai ef yn gwybod ei fod am farw mor ifanc.

Felly, fy nghyngor gorau rwy’n ceisio ei ddilyn yw; Byw pob dydd fel petai yr olaf. Nid yw hynny’n golygu hidio dim am neb – nid yw hynny’n synhwyrol nac yn gynaliadwy. Yn hytrach, dylech wneud hynny gyda chyffro, wrth ofalu a charu eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau.

Mewn ychydig funudau byddwch yn dechrau ar eich antur ôl-raddedig. Ewch amdani a gadewch eich marc ‘Prifysgol Caerdydd’ ym mhob man. Defnyddiwch eich braint a cheisiwch wneud y byd yn lle gwell. Rwy’n dymuno bywyd llawn chwilfrydedd, cariad a chyfeillgarwch ichi. Antur fydd yn dod â gwefr a hapusrwydd ichi. Ewch i fyw eich bywyd.