
Astudiodd David John Roche (BMus 2012) yn yr Ysgol Cerddoriaeth ac mae bellach yn gyfansoddwr llawn amser. Mae’n diolch i’r ysgol am ei baratoi at y dyfodol ac yn ei disgrifio fel “y sefydliad mwyaf cefnogol” y mae erioed wedi astudio ynddo.
Roeddwn i eisiau cwrs hyblyg, trylwyr gydag addysgu ardderchog, gonest a chlir, ac roedd Caerdydd yn cynnig y cyfan.
Rhai o fy atgofion melysaf yw’r cyfleoedd i berfformio, ysgrifennu a darllen am gerddoriaeth. Rydw i’n cofio bod yn ddiolchgar fy mod i’n gallu neilltuo fy nyddiau i gerddoriaeth a mod i’n gallu mynd allan a chael amser gwych gyda’r nos, ac mai dyma yr oeddwn i’n fod i’w wneud.
Fe wnaeth cymorth fy narlithwyr a thiwtoriaid yn yr Ysgol Cerddoriaeth fy helpu i ddatblygu hyder, fy helpu i ddeall beth y gallwn i ei wneud â fy nyfodol, a dangos i mi sut i wthio fy hun a fy ngwaith.
Mae’r Brifysgol wedi bod, heb os ac oni bai, y sefydliad mwyaf cefnogol i mi erioed astudio ynddo. Rydw i dal i ofyn am gyngor proffesiynol gan fy nhiwtoriaid yng Nghaerdydd ac o hyd yn edrych dros waith y gwnes i gynhyrchu yn ystod fy amser yno.
Ar ôl gadael Caerdydd fe ymgymerais i ag ysgoloriaeth i gwblhau Mst mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth yng Ngholeg Brasenose, Prifysgol Rhydychen ac roedd yn wych! Yn dilyn hyn, fi oedd y person cyntaf i ddarllen PhD mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.
O fis Mawrth 2018, fe ddes i’n gyfansoddwr llawn-amser (gydag ychydig o olygu, trawsgrifio ac addysgu hefyd). Rydw i’n treulio fy nyddiau yn ysgrifennu cerddoriaeth, yr unig beth rheolaidd dwi’n mynnu arno yw cwpanaid o goffi da! Mae fy ngwaith yn gyfnewidiol iawn, iawn. Mae rhai o’r bobl a’r sefydliadau rydw i wedi gweithio gyda nhw dros y chwe mis diwethaf yn cynnwys Psappha, Gŵyl Bro Morgannwg, Dyson a Cherddorfa Orion, Paul Roland, Cerddorfa Graddedig Llundain a Sound and Music, Prifysgol Caergrawnt ac Arsyllfa Frenhinol Greenwich.
Mae amserlenni yn aml yn dynn iawn – gall cyfansoddi fod yn eithaf gwyllt – ond mae bob amser yn llawer o hwyl ac rydw i’n hynod ddiolchgar i allu ennill fy mywoliaeth fel hyn (am ba bynnag hyd yr ydw i’n gallu gwneud iddo bara!).
Mae fy atgof parhaol o Brifysgol Caerdydd yn un cadarnhaol dros ben. Byth ers hynny yr ydw i wedi cael y lefel o gymorth addysgol ac y ces i yng Nghaerdydd, mae’n lle anhygoel i astudio. Fe wnaeth fy mharatoi i at fy nyfodol.